Mae'n nhw ar 么l gyda thaliadau rent, ac mae Wili Dic yn meddwl am bob gynllwyn dan haul i geisio achub eu croen.O gadw ymwelwyr o America, (Rhodri John,) i ddod yn ffrindiau gyda mab y landlord (Rhodri John eto - mae'n chwarae sawl rhan), ond prin bod rhaid dweud, does fawr ddim yn troi allan cweit fel yr oeddwn nhw wedi ei obeithio!
Mae Wili Dic yn cael gafael ar hylif hud, i wneud popeth yn fwy, fel rhan o'i gynllwyn - ac mae'r canlyniadau ychydig yn wahanol i'r disgwyl. Mae'r olygfa honno gyda Bryn F么n wedi ei wisgo fel dynes noeth wedi chwyddo, yn ddoniol tu hwnt ac yn dal i aros yn y meddwl (gwaetha'r modd!)
Gwthio ffiniau
Mae'r ddrama yn sicr yn gwthio'r ffiniau yn ieithyddol ac weithiau o ran cynnwys a rhai o'r j么cs. A dyma un o'r pethau mae Maldwyn John sy'n chwarae rhan Wili Dic yn ei ddweud, ar 么l ambell j么c anweddus!
Siarad 芒'r gynulleidfa
Roedd yr actorion yn cyfathrebu'n gyson 芒'r gynulleidfa er doedd hynny ddim bob amser yn rhan o'r sgript! Mae Maldwyn John a Bryn F么n yn crybwyll dydyn nhw heb gael final dress rihyrsal ar y diwrnod oherwydd nam trydan yn Neuadd Meifod, a dydi popeth ddim yn llifo mor llyfn 芒'r disgwyl yn y perfformiad. Ond mae'r llinellau ychwanegol, annisgwyl ond yn ychwanegu at yr hiwmor.
Cynnwys anweddus
Rhaid i chi fod yn feddwl agored iawn, a disgwyl yr anweddus i fynd i Rhych Wlyb, fel pob un o sioeau glybiau Bara Caws mewn gwirionedd. Dyna pham mae'r sioe wedi ei labeli fel un ar gyfer rhai dros ddeunaw oed yn unig. Ond ddylai hyn ddim roi dwr oer ar bethau. Fe gewch noson werth chweil o chwerthin.Mae yma ambell i linell a j么c doniol iawn yn y sioe, sydd wedi ei hysgrifennu gan Geraint Derbyshire, ac mae'n fath o sioe y byddwch yn sylwi ar rywbeth gwahanol ym mhob perfformiad.
Actio da iawn
Chwarae teg i'r perfformwyr, roedd pob un ohonyn nhw yn perfformio yn arbennig. Roedd Maldwyn John y cymeriad ag obsesiwn 芒 rhyw yn wych ac yn arbennig o ddoniol. Bryn F么n fel mam (ddim yn argyhoeddi fel dynes - bydd yn falch i glywed) ond roeddwn yn fy nwblau yn chwerthin gyda'i berfformiad. A Awen Wyn Williams a Rhodri John fel gwahanol gymeriadau yn dda iawn.
Os ydych am sioe lle gallwch chwerthin yn uchel, a'ch bod chi'n feddwl agored yna dyma'r sioe i chi!
Fe fydd Rhych Wlyb yn cael ei pherfformio yn Neuadd Gymuned Meifod tan nos Wener, ac yna yn mynd ar daith o Fedi 3 Hydref 10, ar hyd Cymru.
Adolygiad : Elin Davies.