| |
Y profiad o sgwennu Ann!
Penri Roberts o Gwmni Theatr Maldwyn yn s么n am y profiad o sgrifennu sioe gerdd am Ann Griffiths, Dolwar Fach.
Bydd cynhyrchiad Cwmni Theatr Maldwyn o Ann! yn y pafiliwn nos Iau. Y cyfarwyddwyr yw Derec Williams, Linda Gittins a Penri Roberts.
Dyma Penri Roberts yn dweud yr hanes.
Cawsom wahoddiad i ysgrifennu sioe i Eisteddfod Maldwyn 2003, ym Meifod. Fe ddechreuon ni ar y gwaith o drafod testunau yn Ionawr 2002, gan benderfynu ystyried ysgrifennu sioe ar fywyd Ann Griffiths, Dolwar fach.
Unwaith eto, roedden ni'n ymwybodol iawn ein bod yn delio gydag arwres cenedl, yn ogystal a'r cyfrifoldeb sy'n dod gyda hynny.
Roedd yn rhaid i ni ofyn dau gwestiwn: Oes na ddeunydd sioe yma? A allwn ni'n tri ysgrifennu'r sioe honno?
Darllen yn helaeth Mae llawer wedi'i ysgrifennu am y ferch ifanc, a ystyrid heddiw i fod yn un o brif emynwyr Cymru. Fe geision ni ddarllen yn helaeth, ymgynghori gydag arbenigwyr fel Derec Llwyd Morgan a threulio amser yn Nolwar fach gyda'r teulu presennol - teulu sy'n haeddu rhyw fath o anrhydedd gan genedl y Cymry am barhau i gynnig drws agored i bererinion, fel eu cyndadau dros y ddau can mlynedd diwethaf.
Treuliasom oriau difyr yng nghwmni Nia Rhosier yn Hen Gapel John Hughes - dyma wraig arall sydd wedi gwneud cymwynas 芒'r genedl.
Os cewch chi gyfle yn ystod y Brifwyl ym Meifod, ewch yno am dro. Aethom draw i'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, lle cawsom weld yr unig lythyr sydd ar gael yn llawysgrifen Ann Griffiths, gan ryfeddu ar lawysgrifen daclus merch na chafodd unrhyw addysg ffurfiol.
Daethom i'r penderfyniad yn haf 2002, wedi oddeutu chwe mis o ddarllen a thrafod, ein bod am roi cynnig ar ysgrifennu sioe ar Ann Griffiths.
Tua chwe mis Mae'r broses o ysgrifennu sioe gerdd yn cymryd tua deunaw mis i ni fel rheol a byddwn yn cychwyn trwy ymchwilio, trafod ac yna trwy ysgrifennu'r llyfr'.
Golyga hyn wythnosau lawer o waith, cyn y gallwn fentro ysgrifennu gair o'r sioe ei hun. Byddwn yn trafod cynnwys pob golygfa a rhinweddau pob cymeriad, penderfynnu beth yw hanfod y sioe. Sioe Gerdd yw'r cyfrwng a thrwy'r cyfrwng hwnnw y byddwn ni'n darlunio bywyd y ferch o Ddolwar Fach.
Hawdd fyddai ysgrifennu pasiant, gan gynnwys nifer o'i hemynau hi ac, yn sicr, byddai'r cyfrwng hwnnw yn plesio llawer ond nid ni ein tri.
Gwyddom ein bod yn ei mentro hi wrth ddefnyddio cyfrwng y sioe gerdd ac amser a ddengys, a fyddwn ni'n llwyddiannus ai peidio.
Ann, John Hughes a Iesu Grist Tri phrif gymeriad fydd yn y sioe Ann, John Hughes ac Iesu Grist.
Un o'r problemau mwyaf a wynebwn yw sut i ddarlunio perthynas gyfriniol Ann 芒 Christ.
Credwn y gall y cyfrwng ein helpu trwy'r gair, cerddoriaeth, trefniant lleisiol ac offerynnol, llwyfanu, set a golau a pherfformiad y prif gymeriad gobeithiwn fedru darlunio berthynas unigryw Ann 芒 Iesu Grist.
Er inni benderfynnu ar y dechrau na fyddem yn cynnwys emynau Ann yn y sioe gerdd, mae'n anhygoel sut mae ei geiriau a'i hymadroddion wedi treiddio i'n caneuon ni.
|
|
|
|