| |
Dyddiadur Maes B - dydd Gwener
Mae Lowri Johnston yn un o selogion Maes B - ac yn agor ei dyddiadur i 成人论坛 Cymru'r Byd.
Bore Gwener ac mae'n ddechrau penwythnos olaf yr Eisteddfod. Gan amla', ar y dydd Gwener mae llawer o bobl yn cyrraedd y maes ieuenctid, a dyw heddiw yn ddim gwahanol i'r arfer.
Gan gerdded heibio rhes hir o bobl yn aros i fynd mewn i'r maes ieuenctid, dwi'n mynd i faes yr Eisteddfod ar gyfer fy niwrnod ola' gyda'r 成人论坛. Dwi wedi joio mas draw gyda'r 成人论坛 ac mae wedi bod yn brofiad ffantastig ond mae cyfuno mynd i gigs bob nos a gweithio bod dydd wedi bod yn sialens.
Johnny Panic Felly, ysgrifennu fy narnau olaf yn swyddfa'r 成人论坛 cyn cwrdd 芒'r teulu am ginio. Ar 么l llenwi fy mol (a does dim ots tro hyn pa mor ddrud yw'r bwyd gan nad fi sy'n talu!), dwi'n mynd draw i stondin Cymdeithas yr Iaith i weld Johnny Panic yn chwarae.
Ar fy ymweliad yno, dwi'n cael cop茂au o'r Tafod i'w dosbarthu am ddim ar y maes, cyn crwydro draw i'r babell roc i wylio'r Llwybr Llaethog. Mae llawer rhy dwym yn y babell felly nol i'r haul i dorheulio am ychydig ar y maes ieuenctid.
Mae'r cae yn llawn erbyn hyn a'r awyrgylch yn gr锚t pawb yn ymlacio yn yr haul ac yn gwrando ar gerddoriaeth neu'n cymdeithasu.
Dau lwyfan Draw i'r gig ym maes B ar 么l cael bwyd yn y Gorlan a Jakokoyak sy'n agor y noson. Mae yna ddau lwyfan heno eto, a wyth band yn chwarae cymysgedd o bop, roc a rap/hip hop.
Anodd yw dewis rhwng y ddau brif band heno Zabrinski a Bryn Fon a'r Band. Diolch byth mae Zabrinski yn gorffen cyn Bryn Fon, felly cyfle i weld y ddau.
Dwi wedi blino'n ofnadwy heno ac yn ei ffeindio'n anodd i gadw ar ddihun i weld Bryn Fon, ond dwi'n llwyddo rywsut!
Ac mi oedd e'n werth yr ymdrech! Mae e'n yn ffantastig heno yn llawn egni a brwdfrydedd, ac mae'r gynulleidfa yn ei addoli. Fel ffan o Bryn Fon, dwi'n cael amser gwych yn dawnsio'n wyllt a chanu!
Dwi'n falch iawn gan ei fod yn canu y clasuron i gyd, gan gynnwys rhai Sobin a'r Smaeliaid! Wrth i bawb gyd-ganu Ceidwad y Goleudy mae'r noson yn dod i ben ac mae'n amser mynd i'r gwely.
Wel, dim cweit eto gan ein bod ni'n ymlwybro draw at y goelcerth am ychydig i weld ffrindiau ac i dwymo ychydig!
Ond mae'n llygaid i'n dechrau cau felly n么l i'r babell i gael ychydig o gwsg!
|
|
|
|