| |
Adolygiad: noson olaf Maes B
gan Lowri Johnston Noson ola' Maes B ac mae'r lle yn llawn dop o bobl yn barod i fwynhau!
Ac mae'r noson yn dechrau'n dda gyda dau fand gymharol newydd, ill dau wedi ennill brwydr y bandiau er mwyn cael chwarae yma heno.
Bechdan Jam sy'n chwarae gyntaf. Maen nhw'n fand o Eifionydd a enillodd frwydr y bandie yr Eisteddfod yn y babell roc yn gynharach yn yr wythnos.
Mae Iwan, sy'n chwarae bas yn y band yn disgrifio eu hymateb fel; On ni gyd yn chuffed i ennill. Roedd o'n dipyn o sialens gan bod llawer o'r bandiau o'n ni'n erbyn wedi rhyddhau stwff fatha eps yn barod.
Dydyn nhw ddim yn sicr ar beth fyddan nhw'n gwario'r arian eto bydd rhan fwyaf ohono yn mynd mewn i gyfri banc er mwyn gwneud gwaith gyda'r band.
Bechdan Jam oedd enillwyr brwydr y bandie Uned 5 flwyddyn yma hefyd.
Mae nhw'n ymddwyn yn broffesiynol ar y llwyfan a'u caneuon yn catchy a gwreiddiol.
Yr ail fand i chwarae yw Eryr o Ben Llyn. Rhain yw enillwyr brwydr y bandiau C2 gyda sesiwn ar C2 yn wobr a chwarae ym maes B heno.
Ers bod gyda'i gilydd er 1997 mae'r band wedi camu 'mlaen ac mi roedd yn dipyn o gamp i ennill cystadleuaeth C2 yn erbyn llawer o brif fandiau Cymru oedd yn cystadlu.
Oeddan ni gyd yn reit falch o ennill oedd o'n cŵl, meddai Aled (bas a llais).
Y g芒n enillodd y gystadleuaeth iddyn nhw oedd Uniaith Unllais, c芒n wleidyddol bwerus am ddeddfau uno, Lloegr, Cymru, Cymru a Phrydain, gan fand y mae'r rhan fwyaf o'i ganeuon yn gwneud ichi fod eisiau dawnsio!
Mae nhw'n disgrifio eu dylanwadau fel Jarman, Manics, Guns 'n' Roses a'r Beatles ac er mwyn talu teyrnged i Jarman, mae nhw'n chwarae y gan boblogaidd Dal Dy Dir.
Mae Mahirishi yn reit aniddorol heno sy'n dipyn o siom. Er eu bod yn chwarae ffefrynnau megis Ty ar y mynydd, does ganddyn nhw ddim sbarc. Trueni gan fod Mahirishi yn gallu bod yn gret yn fyw.
Pep Le Pew sy'n cloi'r noson ar lwyfan dau, ac mae nhw'n llawn hwyl ac yn cael y gynulleidfa i ddawnsio'n wyllt.
Ac yna i uchafbwynt y noson - i fod Geraint Jarman.
Tipyn yn siomedig yw e heno dyw e ddim yn cael llawer o berthynas gyda'r gynulleidfa. ac mae llawer yn gadael cyn diwedd y set. Yr unig gan wych heno yw Dal Dy Dir' yn fy marn i mae'r lleill i gyd yn eitha' anniddorol.
Uchafbwynt y noson oedd chwarae Hen Wlad Fy Nhadau - ffordd o gael pawb i ganu!
Mae'n drueni nad oedd band fel Anweledig yn chwarae y brif slot nos Sadwrn gan fod yr awyrglych mor unigryw yn eu gigs nhw ond gallwn ni ddim cael popeth!
Er bod Jarman yn siomedig, mae wedi bod yn dda gweld bandiau ifancach Cymru yn cael cyfle i chwarae gigs mawr a chael profiad - heno a dros yr wythnos a gobeithio y bydd modd cadw y momentwn a'r brwdfrydedd i fynd yn ystod y flwyddyn i ddod tan Eisteddfod Casnewydd.
|
|
|
|