|
|
|
Selwyn Iolen Yn falch o fod yn Archdderwydd cyffredin! |
|
|
|
Eisteddfod Genedlaethol Eryri fydd Eisteddfod gyntaf y Prifardd Selwyn Griffith yn archdderwydd. Bydd y mab i chwarelwr o Bethel, Caernarfon, yn cymryd ei le ar faes a fu'n eiddo i un o'r hen feistri chwarel.
Bu ein gohebydd yn holi'r g诺r sy'n ymfalchio yn y ffaith mai 'eisteddfodwr cyffredin" ydi o ac a enillodd ei goron Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst, 1989.
- Mi fydda W J Gruffydd yn dweud ei fod o'n trigo yng Nghaerdydd ond yn byw ym Methel. Ac felly rydw innau'n teimlo hefyd; fy mod i'n trigo yn un lle ond wedi byw erioed yn Bethel.
- Rydw i'n darllen ar hyn o bryd - mi fyddai'n trio'i ddarllen o unwaith y flwyddyn- Hen Atgofion - W J Gruffydd - ac mi rydw i'n cael rhywbeth newydd ynddo fo bob tro er fy mod i wedi'i ddarllen o ddwsinau o weithiau.
- Pan oeddwn i'n blentyn yno roedd pob dim yn troi o gwmpas y capel. Roedd rhywbeth yn y capel bob nos; yn seiat neu gwrdd gweddi neu gymdeithas lenyddol neu rywbeth. Roedd hi'n ardal hyfryd, braf i fyw ynddi hi.
- Chwarelwyr oedd y dynion i gyd a'r gwragedd i gyd yn wragedd t欧. Ychydig iawn o wragedd, os oedd yna rai o gwbl, oedd yn mynd allan i weithio; dyna oedd i gwaith nhw, adre yn paratoi, golchi a smwddio a llnau. A gwneud swpar chwarel wrth gwrs, oedd yn beth pwysig iawn.
- Mae'n nhw'n dweud fod yna gysylltiad teuluol pell rhyngddo fi a W J Gruffydd. Ond mae o'n bell, bell, bell - yn 么l i Ardd Eden bron.
- Bydd fy steddfod gyntaf yn y Faenol ac mi rydw i'n hynod falch - ac mi fyddai'n dweud hyn oddi ar y Maen Llog fore Llun - fy mod i'n fab i chwarelwr a hefyd nad ydw i yn ysgolhaig o gwbl ond mai rhyw steddfodwr bach cyffredin ydw i. Rhyw werinwr o steddfodwr os mynnwch chi.
- Mae gen i gof o fy Steddfod Genedlaethol gyntaf - 1935. Mynd yno efo Mam yn hogyn bach saith oed. Gweld Gwilym R Jones, Talysarn, yn cael ei goroni a Gwyndaf yn cael ei gadeirio - yn y Pafiliwn yng Nghaernarfon.Ac mi ddeudodd Mam imi ddweud - a does gen i ddim cof o hynny fy hun - ond fe ddeudodd Mam imi ddweud ar 么l dod adref, "Dwi iso body n fardd."Dydw i ddim yn credu mod i eisiau bod yn fardd oherwydd yr awen na dim byd ond fy mod i wedi clywed y corn gwlad a gweld y cleddau mawr yna yn y seremoni ac roeddwn inna iso cael bod yn fardd hefyd!
- Arwyr oedd y testun pan wnes i ennill y goron [yn Llanrwst] ac mi wnes i ddechrau efo Stanley Matthews a gorffen efo Mr Mathews y gweinidog oedd yn arwr i Mam - a Stanley Matthews yn arwr i minnau.
- Mae gen i dri diddordeb.
Steddfota 笔锚濒-诲谤辞别诲 Crwydro.
- Yr unig ddiwrnod mewn blwyddyn y bydda i'n gwisgo siwt ydi diwrnod y Cyp Ffeinal. Mae hynny fel arwydd o'r parch sydd gen i at b锚l-droed. Y pleser gefais i o gicio p锚l fy hun a'r pleser dwi'n gael o wylio p锚l-droed rwan. Mi ddoi lawr y grisiau yn y bore yn fy siwt. Pan wnes i hyn gyntaf un ar 么l priodi dyma Meira yn gofyn i mi, "Lle ti'n mynd heddiw, felly?" "Dwi ddim yn symud o'r t欧," medda fi. "Mae hi'n ddiwrnod Cyp Ffeinal ac mae'n hen draddodiad gen i wisgo dillad parch ar y diwrnod." Ond mi fyddai'n newid at gyda'r nos ar gyfer mynd allan - mae'n gas gen i goler a thei.
- Os oedda chi'n medru cael p锚l roedda chi'n medru chwarae g锚m. Dydw i ddim yn gweld cymaint o blant heddiw yn chwarae allan ond yn chwarae yn t欧 yn pwyso rhyw fotymau efo'r teledu a ballu..
- Stanley Mathews oedd fy arwr mawr i - er mai chwarae yn g么l oeddwn i!
- Tudalennau cefn y papurau newydd - er nad oeddan ni'n dallt y geiriau, roeddan ni'n deall y lluniau!
- Roeddan ni'n troi clytiau o dir yn Bethel - Parc y Wern oedd un darn o dir a dyna fu ffugenw pan enillais i'r Goron - roeddan ni'n troi Parc y Wern yn Goodison Park a Main Road a Wembley hyd yn oed . . . ac yn dychmygu clywed y plant yma yn gweiddi 'Come on Stan' arnaf fi!
- Roeddwn i'n adrodd pan yn blentyn - i fyny i rhyw ddeuddeg oed. Ond roeddwn i'n tueddu i anghofio.
- Yn ysgol Tan y Coed [Penisa'r-waun] y gwnes i feirniadu adrodd am y tro cyntaf. Dwi'n cofio'r noson. Roedd hi'n noson loergan a dwad ar feic o Bethal ac mi fu bron iawn imi a throi'n 么l wrth Charley Bridge yn meddwl pa hawl oedd gen i, i feirniadu adrodd a minnau bron iawn rioed wedi sefyll o flaen cynulleidfa. Ond mi ddiolchis i sawl gwaith wedyn i Humphrey Williams [a'i perswadiodd i feirniadu] na wnes i d dim troi n么l achos erbyn hyn rydw i wedi beirniadu dros 400 o steddfodau. Pe byddwn i wedi troi'n 么l y noson yna mi fydda'r bennod yna fy mywyd wedi gorffen heb iddi ddechrau.
- Mae fy nyled i'n fawr iawn i'r plant y cefais i'r fraint o'u dysgu nhw; lle'r oeddwn i'n cael y syniadau i wneud darnau adrodd iddyn nhw.
- Bob tro byddai'n mynd ar fy ngwyliau mi fyddai'n mynd a hen Gyfansoddiadau y Pumdegau efo mi a darllen y beirniadaethau. Ac mae'n syndod fel y byddai'r beirniadaethau yr adeg honno gan rai fel Meuryn a John Gwilym Jones yn fwy addysgiadol o lawer na'r beirniadaethau ydych chi'n gael heddiw - roeddech chi'n cael beirniadaeth gyflawn gan gynnwys geiriau roedda chi wedi'u camsillafu.
- Tilsli oedd yn beirniadu [Y tro cyntaf i Selwyn Griffith gystadlu ar gyfansoddi darn adrodd i blant gan anfon tri darn i Eisteddfod Bethel]ac roedd o'n methu'n glir 芒 dewis rhwng y tri felly dyma fo'n eu rhoi i'w fab Gareth oedd yn wyth oed a gofyn iddo fo ddewis y gorau o'r tri. Ac mi ddewisodd Gareth rhyw ddarn bach Bai ar Gam. Felly gan Gareth Tilsley y cefais i'r wobr gyntaf erioed am sgwennu darn adrodd i blant!
- Mi ddechreuais i gystadlu am gadeiriau - ac roedd hi'n ffordd hwylus o ddodrefnu t欧 achos cadeiriau esmwyth oedd y rhan fwyaf ohonyn nhw. Ond roedd y wraig yn ffraeo bod nhw wahanol liwiau a ddim yn matsio!
- Roeddwn i wrth fy modd efo gwaith Rhydwen Williams. T Glynne Davies hefyd. Pan yn blentyn y cerddi cyntaf roeddwn i wrth fy modd eu darllen oedd cerddi Crwys a phetha felly. Petha bach syml, sentimental fel Melin Trefin. Roeddwn i wrth fy modd hefyd efo gwaith Cynan. Rydw i'n credu mai Mab y Bwthyn Cynan oedd y bryddest wnes i fwynhau orau. Yn enwedig y rhan; Duw ydyw awdur popeth hardd/ Efe yw'r unig berffaith fardd/ Onid ei delynegion ef yw'r coed a'r nant ac yn y blaen.
- Mae gen i ddigon o ffydd y down ni drosti [problemau y Steddfod] Dwi ddim yn gweld yr hen wlad yma yn mynd heb Eistedddfod Genedlaethol hyd yn oed yn 2007 . . .
- Llwyddiant y Steddfod ydi ei bod hi'n mynd i bob man yn ei thro. Ond o bosib y gellid sefydlu rhyw bedwar lle gwahanol ar ei chyfer. Roedd Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd yn llwyddiannus rhyfeddol -er bod na rai eraill yn dweud nad oedd hi mor llwyddiannus cyn belled ag yr oedd stondinau a phethau felly yn y cwestiwn.
- Steddfod dda i mi ydi Steddfod ddifyr yn y Babell L锚n. Dyna sy'n gwneud steddfod hapus i mi. Ond rwan mae petha'n mynd i newid imi.
- Fel Archdderwydd, a'r profiad rydw i wedi'i gael yn gwisgo'r clogyn mawr trwm yna, dwi'n gobeithio na fydd hi'n rhy boeth.
- Y foment fwyaf cynhyrfus [o'i seremoni goroni] oedd y foment roedda chi'n codi ar eich traed a'r goleuadau yn chwilio amdanoch chi ac wedyn y foment roedda chi'n cyrraedd y llwyfan a throi rownd i wynebu'r gynulleidfa. Ond mae'r seremoni i gyd yn wefreiddiol.
- Dwi wedi cael galwadau ff么n gan rai o Lerpwl yn gofyn fedrwch chi wneud rhywbeth i'r Steddfod beidio dwad yma. Mae na fwy o lythyrau wedi dod yn gwrthwynebu'r Steddfod fynd i Lerpwl gan bobl sy'n byw yn Lerpwl nag sydd yna o rai o'i phlaid hi hyd y gwela i.
- I mi, yn bendant, fe ddylid cynnal Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghymru ac ar dir Cymru. Dydw i ddim yn credu yn onest y byddai hi, yn enwedig y dyddiau yma, yn llwyddiant yn Lerpwl.
- Tasa'r Steddfod ar y lleuad fe fydda'n rhaid i mi fynd yno. Fedra i ddim gwrthod. Mae'n si诺r gen i y byddai yna amryw o aelodau'r Orsedd yn mynd ar streic ond mi fasa'n rhaid i mi fynd yno [i Lerpwl], yn rhinwedd fy swydd.Ond dydw i ddim yn i gweld hi'n mynd yno rywsut - dydw i ddim yn meddwl y bydd yn rhaid inni wynebu'r broblem yna.
- Mae'n sefyllfa anodd. Pe bydde chi'n i gael o ar y bwrdd o'r blaen ei bod hi'n Lerpwl neu nunlle; be da chi'n mynd i wneud?
- Dwi'n lecio m么r dipyn bach yn ryff [i hwylio arno] ac mi es i unwaith yn un swydd rownd Cape Horn imi gael storm iawn na fyddwn i byth yn i anghofio hi. Ond diawch, roedd y m么r mor dawel . . .
- Dydw i ddim yn bwyllgorddyn - er imi fod yn glerc cyngor plwyf am 46 o flynyddoedd . . . ond mi rydw i wedi bod mewn mwy o bwyllgorau efo'r Steddfod yma na a fus i weddill fy oes.
- Mae'n anrhydedd ichi gael bod yn Archdderwydd - yn enwedig i rywun cyffredin fel fi. Ond eto mae yna gyfrifoldeb hefyd. I mi dydi'r Archdderwydd ddim yn bwysig - yr unigolyn ei hun. Pwy sy'n bwysig ydi'r sawl sy'n cael ei anrhydeddu gan yr Archdderwydd. Y bardd fydd yn codi ar i draed; enillydd y fedal. Fy mraint i ydi mai fi sy'n cael eu anrhydeddu nhw yn enw'r Orsedd. Ond y nhw sy'n bwysig a'r bobl fyddai'n dderbyn yn aelodau o'r Orsedd.
- Os byddai'n teimlo yn eigion fy nghalon y dylwn i ddweud rhywbeth [mewn anerchiad o'r Maen Llog] mi wna i . . .ond nid er mwyn ennill penawdau ac nid er mwyn cael fy llun mewn papur newydd ond am fy mod i'n teimlo'n wirioneddol.
- Dydw i ddim yn wleidydd o gwbl - ac mae yna rai eraill llawer mwy cymwys na mi i drin 芒'r pethau gwleidyddol hynny. Ac yn wir, a dydi'r bobl gyffredin - y gwir steddfodwyr - ddim yn dod yno i gael gwleidyddiaeth ond i gael diwylliant. Mae gennym ni lefydd eraill fel y Cynulliad ar gyfer trafod gwleidyddiaeth.
|
|
|
|
|
|