|
|
|
Lowri'n gigio Gig Cymdeithas yr Iaith: Amser Bangor. Awst 4, 2005. |
|
|
|
Rasputin, y Llofruddion, Eryr, Kenavo, Ashokan, Cofi Bach a Tew Shady, Anweledig.
Tan heno mae gigs Cymdeithas yr Iaith wedi bod mewn ystafell sydd ond yn dal cwpwl o gannoedd, ond heno mae nhw'n symud i ddarn arall o'r Undeb Myfyrwyr gyda lle i fil o bobl ac mae'r gigs dros ddau lwyfan.
Ar y llwyfan mawr mae'r bandiau roc ac ar y llwyfan llai mae'r rhai hip hop sy'n rhoi digon o amrywiaeth bandiau.
Rapio'n wych Ar 么l colli set Rasputin dwi'n cyrraedd i weld y Llofruddion sef prosiect Ed o Pep Le Pew. Mae tri o rapwyr ar y llwyfan - Ed a dau arall dwi ddim yn adnabod. Dyma'r tro cyntaf imi gweld nhw Mae'r rapio yn wych ac mae'r tri yn gweithio'n dda gyda'i gilydd.
Ond brysio draw wedyn i weld Eryr ar y llwyfan mawr ac fel arfer maen nhw ar eu gorau gan lwyddo i gadw sylw'r gynulleidfa er nad yw'r lle yn llawn iawn eto. Maen nhw'n chwarae caneuon newydd ond hefyd yr hen ffefrynnau - Bomb Culture, Yr Un Hen Heddiw.
Ac ychwanegiad bach neis yw eu fersiwn o g芒n Mattoidz sy'n digwydd bod yn y gynulleidfa. Maen nhw'n gweithio'n dda gyda'i gilydd fel band, i gyd yn gerddorion talentog yn enwedig y gitarydd a'r drymiwr.
Draw wedyn i weld Kenavo ac mae cwpwl o aelodau'r Gorlan wedi ymuno gyda nhw i rapio. Set dda iawn a dweud y gwir, ac Owain Morse sydd wedi ymuno 芒 nhw yn wych yn rapio a chyfathrebu gyda'r gynulleidfa gan ddal sylw pobl.
Mae sgiliau rapio Cynan yn well bob tro ewy'n i gweld e.
Gwneud yn dda Ac yna Ashokan ar y llwyfan mawr. Ers i Alun adael y band, Rhys 'Donut' Jones sydd wedi cymryd yr awenau gan chwarae'r rhan yn dda iawn chwarae teg! Mae eu caneuon wedi newid yn fawr dros y flwyddyn gyda'r band wedi datblygu steil llawer trymach.
Er gwaetha' absenoldeb Aled y gitarydd mae'r set yn dyn ac yn llawn egni. Rydym ni'n cael clywed cwpwl o ganeuon newydd sy'n swnio'n addawol iawn.
Cofi Bach a Tew Shady sydd ymlaen nesa' ac unwaith eto dwi'n mwynhau'r set yn fawr. Dyma'r ail dro imi gweld nhw'n fyw ac maen nhw wedi datblygu a gwella llawer mewn amser byr. Maen nhw'n chwarae eu sengl gyntaf Trio hi ar gyda Cofi Bach yn amlwg wedi magu hyder ar lwyfan yn ddiweddar.
Prif fand y noson Ac yna draw i weld prif fand y noson, Anweledig. Dwi'n cael lle reit yn y canol yn y blaen ac yn cael fy ngwasgu yn erbyn y bariau. Ond does dim ots o gwbl achos mae'r awyrgylch yn drydanol wrth iddynt agor y set gydag Eisteddfod sy'n cael pawb i ddawnsio'n wyllt.
Uchafbwynt y set i mi yw Cae yn Nefyn gyda'r gynulleidfa i gyd yn mynd yn hollol nyts.
Fel arfer, mae Ceri Cunnington yn cyfathrebu'n dda gyda'r gynulleidfa ac maen nhw'n amlwg yn cael llawer o hwyl yn perfformio.
Yn ystod Peryg Mewn Ffrij maen nhw'n dod ag oergell i'r llwyfan a Cheri'n trio dringo i mewn - a methu gyda steil. Dwi'n mwynhau yn fawr iawn a daw'r set i ben llawer rhy fuan.
Digon o amrywiaeth Noson dda iawn gyda digon o amrywiaeth cerddoriaeth i gadw rhywun yn brysur a system y ddau lwyfan yn gweithio'n dda iawn gydag un yn dechrau pan fo'r llall yn gorffen sy'n golygu rhyw bedair awr o gerddoriaeth heb stop. Brysio draw wedyn ar fws y Tafod i ddal diwedd set Kentucky AFC ym Naes B sy'n wahanol i'r arfer gydag ychwanegiad ffliwt a bongos a chaneuon llawer mwy ffynci nag arfer.
Ar 么l y gig dwi braidd yn gallu clywed oherwydd y gerddoriaeth uchel... Arwydd pendant o noson dda!
|
|
|
|
|
|