|
|
|
Gwilym Owen - dydd Mercher Dyddiau'r c诺n yn stafell y wasg |
|
|
|
Hawddamor o Faes Steddfod Fawr Snowdonia ar fore Mercher. A maes lle mae yna bethau mawr wedi bod yn digwydd ydi o hefyd.
Ddoe, er enghraifft, fe glywsom am ailenedigaeth.
Ailenedigaeth neb llai na'r Arglwydd Dafydd Elis Thomas. Ei ailenedigaeth fel Ewropead a ddigwyddodd medda fo pan oedd o'n fyfyriwr yn astudio llenyddiaeth yr Oesoedd Canol ym Mhrifysgol Bangor.
'Sgwn i a gafodd rhywun arall brofiad tebyg. Go brin.
Cartref symudol A phrofiad digon rhyfedd 芒 gafodd cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr 糯yl hon yn 么l sibrydion.
Daeth yma yn gynnar i'r 糯yl ac i'r maes carafannau.
Cafodd le i barcio ei gartref bach cysurus mewn lle hwylus. Ond och a gwae roedd wedi dewis man oedd ar un o lwybrau'r Maes a fu'r gweithwyr fawr o dro yn troi olwynion Moi.
Embaras, hwnna ydio.
Penwisgo Mae'r profiad o fod yn gyn archdderwydd yn un digon trist mae'n debyg - a'r sylw i gyd wedi diflannu.
Ond rhoswch chi funud, mae Robyn Ll欧n yn dal i lwyddo i ddenu dynion y camera.
Acerbyn eleni mae'n ymddengys fod ganddo benwisg newydd unigryw a rhyfeddol nas gwelwyd ei thebyg yng ngorsedd y beirdd o'r blaen. Rhaid cael golwg arni y pnawn yma.
Enwau iawn Mae hogia Heddlu Gogledd Cymru wedi cael hwyl ardderchog yn cadw trefn ar drafnidiaeth y Steddfod ac mae'r Prif gopyn Brunstrom, oedd ar y Maes ddoe, wedi gwneud cyhoeddiad pwysig.
Mae'n rhaid i bob plismon yn y gogledd allu ynganu enwau lleoedd yr ardal yn gwbl gywir, medda fo.
Da iawn, Richard, meddwn innau. Gobeithio y bydd y cyfryngau yng Nghymru yn gweithredu yn yr un modd!
Sylw dyledus Mae yna griw rhyfedd tua phencadlys y Daily Post. Pennawd bras tudalen flaen ddoe yn cyhoeddi: "Faenol Success."
Stori hir am y Steddfod meddwn innau - ond na, dim o'r fath beth gan mai trafod gwerthu tocynnau G诺yl Bryn Terfel oedda nhw ac, yn waeth na hynny, rhoi erthygl olygyddol i'r 诺yl honno hefyd.
Ac yn waeth, waeth, byth cyfeirio at yr Archdderwydd Selwyn Griffiths fel Mr Iolen!
Ac eto - nid myfi A thra'n cyfeirio at anghrediniaeth; peidiwch 芒 chredu popeth a welwch yn y rhifyn Steddfod o Dim lol.
Na, dydi Gwilym Owen erioed wedi gweld rhifyn o'r rhaglen Cylch Cinio heb s么n am sgwennu gair amdani.
Sawl cyfraniad disail arall sydd yn y cylchgrawn 'sgwn i?
Tua Lerpwl Heddiw ydi'r diwrnod pan fydd DafyddWigley yn cyflwyno ei araith fel Llywydd y Dydd.
Ac mae o, dwi'n deall, yn barod iawn i weld y Brifwyl yn mynd i Lerpwl - os nad oes cartref iddi yn y gogledd yn 2007.
Tybed a fydd o'n rhoi cic ym mhen 么l y Sefydliad i'r cyfeiriad hwnnw y pnawn yma. Da o beth fyddai hynny.
Dyddiau'r c诺n A gorffen efo gair o groeso! Dyda ni ddim wedi cael ci ym Mhabell y Wasg yn y Brifwyl ers dyddiau Caradog a Mati Pritchard a Benji.
Ond eleni mae Nedwyn John wedi dod atom ni. Mwngrel bach Tegwyn a Margaret Roberts y tynwyr lluniau eisteddfodol.
Yn wahanol i Benji dydi Nedwyn ddim yn brathu neb - ond fel steddfodwr go iawn mae o'n barod i ganu! O faes y brifwyl. Bore da.
- Mae Gwilym Owen yn darlledu bob bore ar y Post Cyntaf, 成人论坛 Radio Cymru.
|
|
|
|
|
|