Mae mynd am dro o gwmpas y maes yn y mwd yn un peth. Mae gwersylla yn y glaw ar y llaw arall yn fwy o sialens... Dyma straeon rhai sy'n gwersylla yn y maes ieuenctid am yr wythnos.
"Naethon ni gyrraedd ddydd Mercher achos on ni'n gorfod cael hyfforddiant gwaith cyn wythnos yr Eisteddfod," meddai Rolant Glyn o Sir Gaerfyrddin a gafodd lifogydd yn ei babell wythnos ddiwetha'.
"Odd y tywydd yn ofnadwy ac ar ddiwrnod cynta'r hyfforddiant d'ath merched sy'n aros yn y babell drws nesa' i ni mewn i'r maes i ddweud wrtho ni bod ein pabell ni wedi colapsio.
"Athon ni n么l amser cinio i weld y difrod ac odd popeth yn socan. Diolch byth nathon ni gyd gau ein bagiau cyn gadael y babell yn y bore felly oedd ein dillad ni ddim rhy wael dim ond yn damp.
"Ond odd popeth arall yn wlyb socan. Y noson 'na nathon ni gysgu mewn sachau cysgu gwlyb.
"Problem arall gyda'r glaw oedd nath e ddenu pryfed a malwod i'r babell. Nes i ddeffro un bore gyda malwen ar fy nghefn!
"Erbyn hyn ma' pethe yn gwella ac mae'r haul wedi dod ma's heddi. Ond does dim p芒r o drowsus glan a sych 'da fi...a ma' chwech diwrnod i fynd nes mynd adre!"
"Fi'n gweithio ar y maes ac wedi gorfod gwneud hynny yn y glaw. Mae'n ddiflas, ond na 'ny - yr Eisteddfod yw e!"
Diolch byth, mae stori Rolant yn un eithafol. Ond mae'r mwd yn broblem, yn enwedig pan does dim wellies gyda chi...
"Dwi di bod yn edrych ym mhobman am wellies!" meddai Branwen Mair o Lanuwchlyn.
"Fues i ym Mangor bore ma yn chwilio am rai ac oedd pob siop wedi gwerthu allan! Dwi 'di bod yn gwisgo fflip-fflops tan r诺an a fues i ar y maes heddiw.
Bob tro on i'n cerddad yn fy fflip fflops on i'n fflicio mwd ar gefn fy nghoesau. Yn y diwedd on i'n edrych fatha mod i 'di bod yn nofio mewn pwll o fwd!"
Ond mae Siwan Williams o Landeilo yn reit hoff ohono...
"Mae'n dda i'r croen! Dwi'n mwynhau cerdded yn y mwd heb wellies.
"Os ti ddim yn bod yn bositif am y peth ti ddim mynd i fwynhau. A dyma'r Eisteddfod, dwi'n gwneud yn si诺r mod i'n mwynhau!"
"Mae'n nillad i'n oc锚 a dweud y gwir, gan mod i'n gwisgo fflip fflops mae'n nhraed i'n mynd yn fudur ond di'n nillad i ddim!" meddai Branwen.
"A dwi'n gwisgo sgerti neu throwsus byr felly dyw gwaelodion fy nhrowsus i ddim yn mynd yn fudur. Ond mae'r mwd yn drewi!
Mae'n braf pan mae'r haul yn dod allan achos mae'r mwd yn sychu ac mae'n bosib ei olchi i ffwrdd. Ond mae pawb yn yr un twll a neb yn edrych ar eu gorau. Peidio poeni yw'r peth pwysig a peidio gadael iddo fe amharu ar y mwynhau!"
A mae na ddefnydd arall i'r mwd yn 么l Siwan...
"Mae'n arf da yn erbyn rhywun chi ddim yn hoffi neu sy'n gas i chi. Os oes rhywun yn fy mhoeni i dyna gyd sy' ishe neud yw cicio mwd atyn nhw. Gwych!"
Lowri Johnston