|
|
|
Gwibdaith wirion Bydd Theatr Bara Caws yn torri tir newydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni - trwy fynd 芒 chynulleidfa ei sioe ddiweddaraf am daith ar fws! |
|
|
|
"Bydd bws Y Wibdaith Wirion yn cychwyn o faes parcio'r Half Way yn Y Felinheli am l0.45 a 2.45 pob dydd gan fynd a'r gynulleidfa ar antur lawn o hwyla gwallgofrwydd," meddai Linda Brown o'r cwmni.
Dywedodd y bydd Tudur Owen, Llyr Evans, Rhodri Meilir J芒ms Thomas a Lisa J锚n Brown - ac ambell i westai enwog - yn crwydro bro'r Eisteddfod gan gyfarfod llu o gymeriadau doniol ar y ffordd.
"A chael sawl profiad na welodd y Traws Cambria erioed mo'i debyg!" meddai.
"Mae'n brofiad fydd yn apelio i'r teulu i gyd," ychwanegodd.
Pwysleisiodd y bydd yn rhai prynu tocynnau ymlaen llaw drwy ffonio Bara Caws 01286 676335 (cyn wythnos yr Eisteddfod).
Yn ystod wythnos yr Eisteddfod ei hun bydd caban gwerthu tocynnau ym maes parcio yr Half Way yn Y Felinheli rhwng l0.00 a 4.00 y pnawn.
Bydd tocynnau ar werth hefyd bob dydd yn Theatr Fach y Maes ar gyfer y diwrnod canlynol.
|
|
|
|
|
|