|
|
|
Galw am arian Cynulliad Angen arian llywodraeth leol hefyd |
|
|
|
Mae cadeirydd pwyllgor cyllid Eisteddfod Eryri yn gobeithio y bydd ymdrechion "rhyfeddol" pobl yr ardal i godi arian yn fodd i berswadio Gweinidog Diwylliant y Cynulliad Cenedlaethol i roi ei law yntau yn ei boced i helpu'r Brifwyl.
Wrth s么n am drafferthion ariannol yr Eisteddfod yn gyffredinol dywedodd Dafydd Wigley wrth 成人论坛 Cymru'r Byd ei bod yn hollbwysig adfer y lefel o gefnogaeth ariannol i'r Eisteddfod gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Ychwanegodd ei fod yn obeithiol y bydd hynny yn digwydd.
Gweld yr ymdrech "Rydw i'n meddwl, efallai fod Alun Pugh wedi bod yn dal yn 么l er mwyn gweld fod y Steddfod ei hun yn cymryd camau penodol - ac mae hynny'n iawn, achos lle mae arian cyhoeddus yn mynd mae'n rhaid bod yn ddarbodus iawn.
"Ond dwi'n gobeithio, o weld yr ymdrech sydd wedi bod yn Eryri y bydd o'n gweld bod yna frwdfrydedd a chefnogaeth ac os yr ydym ni yn gwneud ein rhan fel hyn y bydd o'n tybio ei bod yn iawn i'r Cynulliad wneud ei ran hefyd," meddai.
Bu'r ymdrech i godi arian mor llwyddiannus yn Eryri mae Mr Wigley a chadeirydd y pwyllgor gwaith, Richard Morris Jones, yn hyderus y bydd yr eisteddfod hon yn llwyddiant ariannol os dim arall.
Ymateb rhyfeddol "Mae'r ymateb wedi bod yn rhyfeddol. Yr oeddem wedi gosod targed o 拢263,000 i'r gronfa leol ac yr yda ni bron 拢70,000 uwchben y targed hwnnw yn barod," meddai Mr Wigley.
"Roedd yna darged o 拢400,000 ar gyfer y gronfa nawdd ac ryda ni wedi pasio hynny.O safbwynt gwerthiant tocynnau ein gobaith yw y bydd yna hanner miliwn wedi dod i gyd; mae 2000,000 yn barod wedi'u gwerthu sydd yn gychwyn rhyfeddol," meddai.
Talodd deyrnged nid yn unig i gyfranwyr yn lleol ond yn genedlaethol. "Mae yna gwmn茂au lleol a chwmn茂au cenedlaethol wedi noddi'n rhyfeddol ac wedi bod yn barod i fynd y cam ychwanegol - efallai o wybod ei bod yn argyfwng ar yr Eisteddfod ac felly am sicrhau na fydd yna ddim colled yma yn Eryri," meddai.
Problemau dyrys Ond y mae Mr Wigley mor ymwybodol a neb; faint bynnag o lwyddiant fydd yna yn Eryri y bydd yn rhaid mynd i'r afael a phroblemau dyrys dros y misoedd nesaf os yw'r Eisteddfod i barhau.
"Mae angen cael cyfundrefn fydd yn galluogi'r Eisteddfod i fynd i unrhyw un o'r 22 o siroedd yng Nghymru - a phe byddai pob sir yn gallu cytuno eu bod nhw'n cyfrannu 拢25,000 yr un bob blwyddyn yna fe fyddai yna ddigon o warant o safbwynt Llywodraeth Leol i alluogi'r steddfod fynd i bob ardal yn ei thro.
"Fe fyddai hynny'n ddelfrydol ac mi rydw i'n gobeithio y bydd hynny yn digwydd," meddai Mr Wigley.
Y Cynulliad Yngl欧n a pherthynas y Cynulliad a'r Eisteddfod dywedodd: "Mae'n bechod fod yna dorri'n 么l wedi bod ar yr arian gan y Cynulliad rai blynyddoedd yn 么l drwy'r Bwrdd Iaith.
"Pe na byddai'r torri n么l yna wedi digwydd fyddem ni ddim wedi gweld yr arian wrth gefn yn rhedeg i lawr ac fe fyddem ni wedi bod mewn sefyllfa heb argyfwng rŵan.
"Beth sydd angen ei wneud, wrth gwrs, ydi ailsefydlu'r lefel yna o gefnogaeth a phe byddai modd gwneud hynny fe fyddem ni'n iawn.
"O gael gwarant o'r lefel yna o gefnogaeth gan y Cynulliad - ac mae'r Bwrdd Iaith r诺an yn mynd i fod yn rhan o'r Cynulliad - a gwarant o 拢25,000 gan siroedd Cymru fe fyddai'r ddau beth yna efo'i gilydd yn sicrhau fod y cyllid yn iawn a'r rhwyddineb i fynd i unrhyw ran o Gymru," meddai.
Mae disgwyl y bydd Mr Wigley yn dweud rhagor am gyflwr ariannol yr Eisteddfod yn ystod ei araith ddydd Mercher fel Llywydd y Dydd.
|
|
|
|
|
|