|
|
|
Llio Rhydderch CD newydd a chyngerdd |
|
|
|
Bydd y wraig sy'n cael ei chydnabod yn frenhines gyfoes y delyn deires yng Nghymru yn cynnal cyngerdd arbennig yn yr Eglwys Gadeiriol ym Mangor nos Lun yr Eisteddfod.
Bydd y cyngerdd yn cyd-fynd a chyhoeddi CD ddiweddaraf Llio Rhydderch, Gwenllian.
Fel mae'r enw'n awgrymu ysbrydolwyd y CD gan hanes y Dywysoges Gwenllian, merch Llywelyn Ein Llyw Olaf a ddiweddodd ei dyddiau yn alltud yn Sempringham yn neheudir Lloegr.
Dywedodd Llio, sy'n byw ar Ynys M么n iddi deithio i Sempringham pan yn paratoi'r gerddoriaeth a chanu'r delyn yn yr eglwys yno.
"Yr oedd yn brofiad emosiynol ac arbennig iawn. Yr oeddwn yn teimlo fod rhyw agosatrwydd rhwng Gwenllian a minnau wedi ei sefydlu yno," meddai.
Ychwanegodd fod ei magwraeth hi ar lannau'r Fenai, a chysylltiad Gwenllian a glannau'r Fenai wedi tynhau y cwlwm hwnnw.
Bydd cerddoriaeth oddi ar y CD i'w chlywed yn y cyngerdd sy'n dechrau am hanner awr wedi saith, Awst 1, yn yr Eglwys Gadeiriol ym Mangor.
Bydd y cyngerdd yn cynnwys cerddoriaeth draddodiadol Gymreig gyda thelynores sydd yn ymwybodol iawn ei bod yn parhau 芒 thraddodiad o ganu telyn a drosglwyddwyd iddi gan ei hen athrawes, Nansi Richards, Telynores Maldwyn a hwnnw'n draddodiad gwerin sy'n ymestyn yn 么l ganrifoedd.
Bydd hefyd gyflwyniadau o farddoniaeth a cherddoriaeth frodorol o Estonia.
Yn cymryd rhan gyda Llio Rhydderch bydd; Elin Wyn Jones (telyn deires), Ceri Rhys Matthews (pibau a ffliwt), Y Prifardd Emyr Lewis yn darllen ei gerddi, Martin a Sille Leamon, canu, git芒r a lyre. Arweinydd y noson fydd Arfon Gwilym.
Gwenllian fydd pedwaredd CD Llio Rhydderch mewn cyfres o recordiadau arbennig o gerddoriaeth i'r delyn deires.
Bu't tair arall - Telyn, Melangell ac Enlli a ymddangosodd dan label Fflach: Tradd (Aberteifi) yn llwyddiant mawr.
Mae'r gerddoriaeth yn adlewyrchiad o hanes Gwenllian o'r crud ar Lannau Menai hyd at ei chyfnod ym Mhriordy Gilbertine yn Sempringham, Swydd Lincoln.
Noddir y cyngerdd gan Gwmni Recordiau Fflach (Aberteifi) ac Ysgol Cerddoriaeth, Prifysgol Cymru, Bangor.
Pris tocyn yw 拢6 o Theatr Gwynedd, Bangor. (01248) 351708. post@theatrgwynedd.co.uk Hanes Llio Rhydderch
|
|
|
|
|
|