|
|
|
Eisteddfwd Gobeithio'r gorau ddydd Sul |
|
|
|
Er gwaethaf dau ddiwrnod cyson 芒 drodd faes y Faenol yn rhywbeth tebycach i bwll hwyaid na maes g诺yl daeth dros fil o bobl i gyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Eryri nos Wener - y nifer fwyaf mewn cyngerdd agoriadol ers sawl eisteddfod.
Ar ben hynny ymwelodd 16,032 a Maes yr Eisteddfod ddydd Sadwrn er gwaethaf y tywydd o gymharu ag 16,172 yng Nghasnewydd y llynedd.
Yr oedd hi'n dal yn sych ar gyfer y gwasaneth crefyddol i ddathlu trigain mlynedd Cymorth Cristnogol fore Sul - er bod cymylau duon, bygythiol uwchben.
Yr addewidion oedd y byddai'r tywydd yn codi ddydd Sul a hynny'n gyfle i Maes sychu ond dal yn bryderus y mae Steddfodwyr.
Bu llif eithaf cyson o law yn ystod dydd sadwrn gyda rhai cawodydd trymion yn troi'r maes yn fwy fyth o bwll hwyaid ac yn anfon ymwelwyr adref yn gynnar.
Ond yng nghanol y cyfan yr oedd ysbryd eisteddfodwyr a stondinwyr yn rhyfeddol - er i gyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, ddweud iddo dderbyn cwynion gan stondinwyr yngl欧n 芒 phyllau y tu allan i'w stondinau.
Dywedodd Elfed Roberts fod 拢80,000 wedi ei neilltuo ym mhob eisteddfod ar gyfer dygymod 芒'r math yma o dywydd ac y bydd ef a threnwyr yr 诺yl yn asesu cyflwr y Maes i weld beth fydd angen ei wneud.
"Does yna ddim pwynt rhuthro i wneud penderfyniadau cyn asesu gyntaf er mwyn gwybod yn iawn beth sydd angen ei wneud," meddai.
Ond heb amheuaeth y cyngor i eisteddfodwyr yw i ddod yn eu hesgidiau glaw gan obeithio y bydd y tywydd yn codi ddydd Sul a'r maes yn cael cyfle i sychu.
Ymhlith y rhai cyntaf i ddioddef oherwydd cyflwr y maes oedd y darlledwr Hywel Gwynfryn yr aeth ei gar yn sownd mae traen a dyrchwyd ar gyfer ceblau.Ond ni achoswyd niwed iddo ef na'r car er y bu'n rhaid wrth freichiau cryfion i'w roi yn 么l ar y llwybr cul!
|
|
|
|
|
|