|
|
|
O Diar - Porc Peis Bach Llwyddo ar lwyfan |
|
|
|
Adolygiad Ian Edwards o O Diar, Porc Peis Bach yn Theatr Gwynedd wythnos Eisteddfod Genedlaethol Eryri, 2005.
Hunanladdiad, ail atgyfodiad yr Iesu, anffyddlondeb priodas, psychosis prif gymeriad sy'n clywed lleisiau o du hwnt i'r bedd a phroblem gamblo Edgar Siop.
Ie diwrnod cyffredin arall yn hanes trigolion Llanllewyn!
Unigryw Gymraeg Gydag O Diar!, y fersiwn llwyfan o'r gyfres deledu Porc Peis Bach mae'r awdur a'r actor Wynford Ellis Owen wedi llwyddo i greu comedi gyda stamp unigryw Gymraeg arni yn yr un ffordd mae'r ffilmiau Carry On yn dwyn stamp unigryw Brydeinig.
Drwy cymysgu rheolau clasurol ffars - a choeliwch chi fi mae pob elfen yma o'r drysau yn agor a chau ar wib i'r Ficer lleol yn ymddangos yn ei ddillad isa! - a chymeriadau sy'n debycach i gymeriadau cart诺n na phobol go iawn gyda math o hiwmor unigryw y gyfres deledu mae'r sioe hon yn taro deuddeg.
Mae'r cast i gyd yn rhoi cant y cant i'w perfformiad.
Ac yr oedd y rhai hynny yn y gynulleidfa oedd yn cwyno fod yr actorion yn mynd dros ben llestri ambell waith wedi colli yr hyn sy'n gwneud Porc Peis Bach - ac yn awr, O Diar! yn llwyddiant.
Mynd ag anadl Llwydda Sion Trystan (Kenneth), Wynford Ellis Owen (Donald) a gweddill yr actorion i ail greu ar lwyfan yr egni manic a welwyd ar y sgrin fach mewn ffordd mor effeithiol maent bron a mynd ag anadl y gwyliwr.
Ar ben hynny, mae cyfarwyddo Valmai Jones yn symud y stori ymlaen mewn ffordd sy'n manteisio'n llwyr ar egni'r cast dawnus - camp ynddo'i hun.
Hefyd, rhaid dweud fod coesau siapus Lowri Steffan (Yvonne) werth y pris mynediad eu hunain!
Gwnaeth y criw technegol, yntau, wyrthiau gyda'r set, sain a goleuo gan greu awyrgylch arbennig iawn.
Y ddrama hon sy'n dod 芒 hanes Kenneth a gweddill criw gwallgof Llanllewyn i derfyn.
Mae Kenneth, bellach, yn paratoi ar gyfer y weinidogaeth yn ngholeg Bala Bangor ac yn briod 芒 Helen James - sy'n disgwyl babi.
Pen i waered Ond fel sy'n arferol ym mywyd Kenneth Parry, buan iawn mai y mae ei fyd yn troi ar ei ben - a phan fo trigolion y pentre yn cael eu bygwth mae'n amser iddo yntau wynebu ei dynged.
Mae'r sioe hon o bosib yn fwy addas i rai sy'n gyfarwydd 芒'r rhaglen deledu yn hytrach na chynulleidfa newydd - ond wedi dweud hynny mae Wynfford Ellis Owen a Valmai Jones wedi llwyddo i greu rhyw fath o Laregub ar gyffuriau sy'n cynnig hwyl a sbort golau i unrhyw un.
|
|
|
|
|
|