成人论坛

Explore the 成人论坛
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2006

成人论坛 Homepage
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2006

Lluniau

Cefndir

Canlyniadau

Cysylltiadau Eraill

Gweddarlledu

Sain

Fideo

成人论坛 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!



T Elwyn Griffiths Camp Steddfodol
Wythnos gyfan yn y Steddfod am fwy na hanner canrif
Mae gan T Elwyn Griffiths record eisteddfodol go arbennig.
Nid yw wedi colli yr un Eisteddfod Genedlaethol yn ystod y 58 mlynedd ddiwethaf. Ar ben hynny mae wedi treulio wythnos gyfan ym mhob un o'r eisteddfodau hynny a dyna sy'n gwneud ei gamp yn un mor anarferol.

"Mae'n anodd gen i gredu weithiau imi fynychu'r Genedlaethol gynifer o weithiau am wythnos gyfan bob tro - neu, yn fwy diweddar, wrth gwrs, o Sadwrn i Sadwrn," meddai wrth edrych ymlaen at ei ymweliad ag Abertawe eleni.

Mynychodd Mr Griffith yr eisteddfodau hyn yn rhannol yn rhinwedd ei swydd yn ysgrifennydd Cymdeithas y Cymry ar Wasgar a bellach yn Llywydd Anrhydeddus Undeb Cymru a'r Byd fel mae'r corff yn cael ei adnabod heddiw.

Ond ar wah芒n i'w aelodaeth o Undeb Cymru a'r Byd mae'r Eisteddfod yn golygu llawer i Mr Griffiths beth bynnag.

"Rhaid imi gyfaddef i'r Brifwyl fod yn rhan tra phwysig o'm bywyd ar hyd y blynyddoedd - yn enwedig wedi imi ddychwelyd adref i Gymru ar 么1 gorffen fy ngwasanaeth tramor yn yr Awyrlu adeg y rhyfel," meddai.

Steddfodau glawog
Wrth edrych yn 么l dros eisteddfodau mae rhywun yn naturiol yn mynd i s么n am dywydd hefyd.

T Elwyn Griffiths yn siarad gydag arweinydd y Cymry tramor, Tomi Davies o Dde Affrica, ar faes Eisteddfod Casnewydd 2004 "O edrych yn 么l mae'n anodd meddwl am le na chawsom wlaw ar ryw adeg neu'i gilydd. Mae'n si诺r mai yr agosaf at gael wythnos gwbl ddi-law fu Eisteddfod Abertawe yn 1964.

"A beth am Aberteifi yn 1976? Maes llychlyd iawn dwi'n ei gofio yno, fel un Wrecsam yn 1977."

Ond does dim amheuaeth ym meddwl Mr Griffiths mai Eisteddfod Ystradgynlais 1954 oedd y wlypaf erioed o bob Eisteddfod y bu ynddynt gydag un yn Abergwaun, 1986, yn ail clos iawn o ran cyflwr y Maes.

Yr oedd honno'n eisteddfwd yng ngwir ystyr y gair!

"Bu haf 1954 yn dymor anghyffredin o wlyb ac rwy'n cofio darllen am gyflwr enbyd maes y Sioe Amaethyddol Genedlaethol ym Machynlleth y flwyddyn honno lle suddodd un o'r teirw mawr mor ddwfn yn y mwd y bu'n rhaid ei saethu yn y fan a'r lle," meddai.

Wrth gwrs gyda seremoni croesawu y Cymry tramor yr oedd cysylltiad pennaf Mr Griffiths ac y mae'n siom arbennig iddo ef na chynhelir y seremoni honno eleni am y tro cyntaf mewn 58 mlynedd.

"Er yn seremoni boblogaidd iawn doedd hi ychwaith ddim heb ei gelynion," meddai.

"Teimlai rhai eisteddfodwyr nad oedd yn wir ran o'r Brifwyl a gwnaed ymgais weithiau i'w bychanu.

Chwarae tric
"Enghraifft o hyn oedd yn Eisteddfod Aberteifi yn 1976 lle bu Dilwyn Miles, Arwyddfardd yr Orsedd ar y pryd, yn ddigon craff i sylwi ar un person yng ngorymdaith y Cymry tramor a'r enw Syria ar ei fathodyn.

"Wrth ei holi, sylweddolwyd na ddylai fod yno a'i fod yn byw ger Pencaenewydd, Chwilog.

"Dau o w欧r blaenllaw 成人论坛 Cymru a'i perswadiodd i chwarae'r tric plentynnaidd hwn er mwyn profi mor hawdd ydoedd i unrhyw un gael mynediad i'r Seremoni.

"Arestiwyd y dyn ifanc gan yr heddlu a'i rybuddio ac fe osodwyd y ddau o'r 成人论坛 dan glo ar y Maes ac yno y buo nhw nes i'r Seremoni orffen!" meddai gan ychwanegu i bennaeth y 成人论坛 ymddiheuro.

Cofio cewri
"Yn sgil yr Undeb a'r seremoni cefais y fraint o ddod i gysylltiad agos 芒 rhai o gewri y genedl yn ystod wythnos yr' Eisteddfod. Rhai fel Syr T. H. Parry-Williams, llywydd y Llys am yn hir, W. J. Gruffudd, Dyfnallt a Chynan ac, wrth gwrs, yr hynafgwr D. R. Hughes, Hen Golwyn, a sicrhaodd i ni fel Cymry'r Lluoedd Arfog gopi rheolaidd o'r cylchgrawn bach Cofion Cymru i'n cadw mewn cyswllt a'r Hen Wlad," meddai.

"Ni fynnwn anghofio chwaith y pleser o wneud ffrindiau 芒 channoedd o Gymry oddi cartref - pobl mewn swyddi amlwg yn eu gwledydd mabwysiedig a fu'n genhadon i'w mamwlad. Rhai fel yr Athro John Hughes, Montreal, J. R. Jones, Hong Kong, Angharad Lloyd Roberts, Vancouver, Sam Williams, Bulawayo a'r Dr. Arturo Roberts, America."


sunny Abertawe
isaf 10掳C听听uchaf 15掳C

Rhagolygon 5 diwrnod


About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy