Mae'r Archdderwydd wedi ceryddu Gorsedd y Beirdd am eu diffyg presenoldeb a ffyddlondeb i weithgareddau'r Orsedd.
"Fedrwn i ddim llai na sylwi mai dim ond dau brifardd, (ag eithro Swyddogion yr Orsedd) ie, dim ond dau brifardd, oedd yn bresennol yn y Cyhoeddi yn y Fflint, a'r ddau hynny, chwarae teg iddyn nhw, wedi dod yr holl ffordd o'r De. Welais i yr un prif-lenor yno," meddai.
Ond, yn siarad o faes yr Eisteddfod Genedlaethol o'r maen llog fore Llun, dywedodd ei fod yn falch o weld bod mwy yno y bore hwnnw.
Apeliodd ar yr aelodau i "Amddiffyn y Gymraeg, i anrhydeddu celfyddydd; ac i fod yn ffyddlon" gan eu hannog i wneud pob ymdrech i fod yn bresennol yn seremoniau'r Orsedd mor aml 芒 phosibl.
"Wedi difalannu"
Ond nid y prifeirdd a'r prif-lenorion yw'r unig aelodau byddai'n hoffi gweld yn mynychu'r seremoniau yn amlach. Dywedodd bod rhai nad oedd wedi eu gweld ers bore eu hurddo; "mae nhw wedi diflannu yn eu cobenni i rywle."
Dyfynnodd y Cyn-Archdderwydd Gwyndaf a ddywedodd: "Bendithiwyd Gorsedd y Beirdd ar hyd y blynyddoedd ag aelodau y bu eu presenoldeb yn ddi-fwlch, hyd nes i lesgedd a henaint ddod i'w rhan."
Ffyddlondeb
Gofynnodd i ni gofio ac i feddwl am ffyddlondeb rhai fel y Cyn-Archdderwyddon - Geraint, Elerydd, Ap Llysor ac Emrys Deudraeth - sydd methu bod gyda ni y dyddiau hyn.
Dywedodd y dylsem oll ymfalchio yn ein teyrngarwch a'r delfrydau y saif Gorsedd y Beirdd drostynt, sef: "Ffyddlondeb i Gymru, i'r iaith Gymraegm ac i'r Eisteddfod."
Pwysleisiodd mai dyna oedd ei ap锚l - i fod yn ffyddlon ac i gofio nad anrhydedd am un bore yn unig yw'r anrhydedd o gael eich derbyn yn aelod o Orsedd y Beirdd, ond anrhydedd oes.
Yng ngweddill y seremoni, cafwyd teyrnged i Gwyn Tregarth, y detholiad cerdd dant gan Nia Clwyd, cofio aelodau'r Orsedd a fu farw yn ystod y flwyddyn diwethaf, anerchiad i safle y Graig Wen yn Abertawe (Stadiwm y Liberty) ac estyn croeso i aelodau newydd yr Orsedd.