|
|
|
Gwilym Owen o Faes y Brifwyl Mae Gwilym Owen yn darlledu o'r maes bob bore ar y Post Cyntaf |
|
|
|
Emyn newydd
Cyfarchion o faes Prifwyl 2006.
A wyddoch chi be, mae hon yn addo bod yn dipyn o jyncet gan Jacs Abertawe.
Mae hi wedi cychwyn ar nodyn gogoneddus. Alun Pugh - ie, dyna chi y dyn sydd wedi bod yn ddraenen yn ystlys y Sanhedrin ers rhai blynyddoedd - wele, ef bellach yn canmol i'r cymylau a hynny ar 么l deuddydd yn unig.
Welais i mo'r Gymanfa Ganu neithiwr ond tybed a oedd yna lun o'r Gweinidog a'r sanhedrinol griw yn canu o'r un llyfr emynau?
Mae'n rhyfedd sut mae blwyddyn etholiad yn gallu newid agwedd gwleidyddion!
Sbriwsio'r Orsedd Ac o s么n am newid tybed a welwn ni dipyn o'r newid hwnnw yn nghyfarfod cyntaf Gorsedd y Beirdd y bore ma?
Peidied neb a synnu gweld yr hen gojars cobannog yn dechrau siglo a chwifio eu breichiau unwaith y clywan nhw s诺n telyn neu gorn gwlad - yn union fel perfformwyr profiadol Ysgol Glanaethwy.
Yn 么l y s么n mae Cefin Roberts, bos yr ysgol honno, wedi bod yn cynghori'r Orsedd sut i roi mwy o gic yn y seremon茂au. Gwyliwch y datblygiadau. Cliciwch i weld lluniau o ymarfer y coroni
Cic owt Un seremoni sydd wedi cael cic oddi ar lwyfan yr 糯yl eleni ydi honno i groesawu'r Cymry tramor i'r Steddfod.
A dydi'r penderfyniad ddim wedi plesio pawb - yn wir efallai y bydd yn rhaid i'r Cyngor ail feddwl oherwydd ddydd Gwener yng nghyfarfod y Llys bydd yr Athro Hywel Teifi Edwards yn galw am adfer y drefn a fu mewn bodolaeth er 1948.
A fydd gweinyddiaeth newydd yr Eisteddfod yn gorfod plygu i bleidlais y Llys?
Cawn weld.
Pobl y wasg Ysgwn i beth a ddywedai John Roberts Williams pe galwai heibio'r maes a chanfod fod ei ail ddarlith goffa yn cael ei chyflwyno gan golofnydd y papur Cymreig hwnnw, theguardian ac mai un o gyfranwyr wythnosol y Wales on Sunday sy'n cadeirio'r cyfarfod.
A phwy sydd wedi trefnu'r cyfan? Neb llai na bosus y papur dyddiol Cymraeg, Y Byd.
Mae yna neges inni gyd fanna dybiwn i.
Dirgelwch brenhinol O un dirgelwch eisteddfodol at un arall - a dirgelwch brenhinol at hynny.
Ylwch, meddai'r cyn Archdderwydd Robyn Ll欧n yn ei gyfrol ddiweddar. Tydi'r Frenhines bellach ddim yn aelod o Orsedd y Beirdd oherwydd dan y cyfansoddiad newydd dim ond y rhai hynny sy'n medru Cymraeg sydd 芒 hawl i aelodaeth.
Dydi hi ddim wedi dysgu'r iaith felly allan a hi.
Ond na, meddai'r Cofiadur John Gwilym Jones ar Radio Cymru, mae'r hen wraig yn dal yn aelod. Does 芒 wnelo'r cyfansoddiad newydd ddim 芒 hi o gwbl.
Y swyddog cyfreithiol a'r Cofiadur, felly, efo dwy stori wahanol. Gawn ni oleuni yr wythnos hon tybed?
Un enw dau arweinydd Ond yn 么l, i orffen, at jyncet unigryw y Jacs.
A dyma ichi reswm arall pam bod hon yn dipyn o 糯yl.
Dyma'r tro cyntaf erioed inni gael dau Garry yn arweinyddion llwyfan.
Ac mi fydd y ddau wrth eu gwaith heddiw. Pob hwyl iddyn nhw - a bore da i chwithau o Felindre.
|
|
|
|
|
|