|
|
|
Cymry tramor - derbyniad yn lle seremoni Gwrthwynebiad yn dal i ffrwtian |
|
|
|
Er na fydd seremoni i groesawu Cymry tramor ar lwyfan y Brifwyl yn Abertawe eleni mae'r mudiad a fu'n cynnal y seremoni honno yn cynnal ei ddigwyddiad ei hun i groesawu tramorwyr ar y pnawn Iau traddodiadol.
Dywedodd llefarydd Undeb Cymru a'r Byd y bydd derbyniad rhyngwladol arbennig ym mhabell Capital Cuisine am dri o'r gloch.
Yno, bydd Arweinydd y Cymry Tramor, Dr Philip Davies, yn cael ei arwisgo a Chymry o dramor yn cael cyfle i hel atgofion.
"Mae'n bwysig fod unrhyw un sydd eisiau bod yn bresennol yn cofrestru ym mhabell yr Undeb ar y maes cyn gynted 芒 phosibl yn ystod yr wythnos," meddai J Bryan Jones, ysgrifennydd Undeb Cymru a'r Byd.
Disgwylir hefyd y bydd y penderfyniad i ddileu'r seremoni draddodiadol wedi bod yn bwnc trafod yng nghyfarfod blynyddol yr Undeb ym Mhabell y Cymdeithasau am 12.30 ddydd Iau yn dilyn darlith flynyddol yr Undeb a draddodir eleni gan y Dr Jerry Hunter am 11.30.
Seremoni 'amherthnasol' Penderfynodd Cyngor yr Eisteddfod yn gynharach eleni, mewn cyfarfod yn Aberystwyth, ddileu y seremoni draddodiadol i groesawu Cymry tramor a gynhaliwyd gyntaf ym Mhenybont-ar-Ogwr bron iawn i drigain mlynedd yn 么l yn 1948.
Daeth y penderfyniad yn dilyn bron i dair blynedd o drafod gydag Undeb Cymru a'r Byd ac ymdrechion yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf i newid rhywfaint ar ffurf y seremoni.
Ond, gyda'r seremoni yn denu llai a llai o gynulleidfa a beirniadaeth arni am fod yn "amherthnasol" i'r cyfnod presennol acyn hen ffasiwn yr oedd pleidlais y Cyngor bron iawn a bod yn unfrydol dros ei dileu.
Teimladau cryfion dramor Er yn derbyn y penderfyniad ac yn croesawu gwahoddiad gan yr Eisteddfod i arweinydd y Cymry tramor fod yn bresennol yng Nghymanfa Ganu y Brifwyl ar y nos Sul ac i fod ar y llwyfan gyda chynrychiolwyr y gwledydd Celtaidd yn ystod defod y Coroni ddydd Llun dywedodd Cadeirydd Undeb Cymru a'r Byd, Deiniol Wyn Price, ei fod ef yn ymwybodol o siom aruthrol ymhlith Cymry mewn sawl gwlad dramor.
"Mae'r penderfyniad wedi denu ymateb ffyrnig o du rhai Cymry tramor nid lleiaf arweinydd y seremoni y llynedd, John O Pritchard o Vancouver Canada," meddai Mr Price.
"Mae llythyrau ffyrnig o Ganada, America a Seland Newydd yn y rhifyn presennol o'n cylchgrawn Yr Enfys," ychwanegodd.
Mater o arian Yn un o'r llythyrau hynny mae John O Pritchard yn rhybuddio y gall dileu'r seremoni beri i rai cyfranwyr o dramor feddwl ddwywaith cyn noddi'r Eisteddfod.
Ac mewn llythyr hynod o finiog dywed Keith Davies Jones, sy'n feddyg yn Winnipeg yng Nghanada, y bydd ef yn mynychu Eisteddfod yr Wyddgrug y flwyddyn nesaf gan wybod y bydd croeso i'w arian - os nad iddo ef!
Mae e'n gwrthod y darlun o Gymry tramor fel bradwyr sydd wedi troi eu cefnau ar eu gwlad trwy ddweud i lawer gael eu gorfodi dramor er mwyn cael gwaith.
|
|
|
|
|
|