|
|
|
Mae Gwilym Owen yn darlledu o'r maes bob bore ar y Post Cyntaf, 成人论坛 Radio Cymru |
|
|
|
Cyfarchion o'r lleuad
Cyfarchion unwaith eto o Faes Felindre - maes yn 么l rhai sinigiaid - nid y fi - cofiwch - sydd yn debycach i wyneb llychlyd a charegog y lleuad na'r un maes erioed o'r blaen.
Ond eto, efallai mai dyna pam mae rhywun yn clywed am bobl efo syniadau arallfydol mewn ambell i gyfarfod.
Refferendwm tywysogaidd Dyna ichi Adam Price yr aelod seneddol ar gefn ei geffyl yn galw am refferendwm arall - refferendwm a fyddai'n rhoi cyfle i bobl Cymru benderfynu a ydy nhw eisiau cadw'r teitl Tywysog Cymru air peidio.
Siawns nad oes gan y genedl bethau pwysicach i feddwl amdanyn nhw na symud dyn o'r lleuad fel'na.
Dogfen ddel A dogfen arall sydd fel pe byddai hi wedi'i pharatoi ar y lleuad ydi'r baldorddiad diweddaraf ar yr iaith Gymraeg gan y Lingo Cwango.
Cyflwyniad lliwgar ystadegydd y Bwrdd ydi hwn - a dwi'n si诺r yn rhywbeth sydd wedi costio ceiniog neu ddwy ond sori, bois bach, dydw i damaid callach ar 么l ceisio'i dreulio fo.
Ond duwcs, mae llygoden fach yn edrych yn ddel. Ond i be mae hi'n da?
Tant-ro Stori dristaf yr wythnos hyd yma yw'r un am wraig o'r ardal oedd am gystadlu ar yr unawd telyn ddydd Llun - ond, och a gwae, cyn cyrraedd y pafiliwn fe gollodd ei hoff offeryn. Galwyd yr heddlu. Roedd y prif stiwardiaid mewn panig llwyr. Ond jyst mewn pryd daeth y delyn goll i'r fei. Aeth y delynores ar y llwyfan a rhoi o'i gorau dan yr amgylchiadau.
Dim ond un cystadleuydd arall oedd yna. Ond yn awr, mwy o och a gwae. Chafodd y naill na'r llall mo'r wobr. Ei hatal oedd y dyfarniad. O diar! O diar!
B诺m, b诺m Embaras, hwnna ydi o.
Un o uchel swyddogion Awdurdod S4C yn edrych ar draws y maes a gweld clamp o stondin gyda'r enw Boomerang o'i gwmpas. Dew, medda fo, mi 芒i heibio i weld rhai o gynhyrchwyr mwyaf talentog yr S4C newydd.
Ond cafodd glamp o sioc. Doedd yno ddim cyfryngi yno o gwbl. Pabell fwyta enfawr ydi'r lle.
Owch.
Creu cymdogion Ac o s么n am stondinau - pwy sy'n penderfynu trefn pebyll y maes dwedwch?
Pwy, osododd yr undeb athrawon, NASVWT Cymru y drws nesaf i rywbeth a elwir yn Ogof Lladron?
A phwy ddwedodd mai rhwng Pabell y Beibl a Phabell Cymru Nicaragua y dylai'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig gartrefu am wythnos.
Marciau duon Ac mae yna dderyn bach wedi dweud wrtha i fod Prif Gwnstabl Gogledd Cymru yn pryderu dipyn bellach yngl欧n 芒 chael ei urddo i'r Orsedd fore Gwener.
Poeni mae o, ar 么l clywed yr Archdderwydd yn taranu am deyrngarwch, y bydd o yn cael tri marc du ar ei goben wen dderwyddol bob tro y bydd y prif Gopyn yn methu 芒 phresenoli ei hun yn seremon茂au'r Orsedd.
Does a wnelo'r ffaith i'r Archdderwydd ei hun gael tri phwynt yn ddiweddar ar ei drwydded am yrru gormod drwy Gorris ddim a'r peth.
Cysgu'n dawel Ond fel pob ci ar y lleuad, dal i gysgu mae Nedwyn dan y bwrdd ym mhabell y Wasg . . . Bydd cyfraniad arall gan Gwilym Owen yfory. Cliciwch ar ddydd Iau
|
|
|
|
|
|