Erbyn dydd Mawrth yr oedd dylanwad y pafiliwn pinc newydd i'w weld ar aelodau'r Wasg hyd yn oed
Yn y gynhadledd foreol i'r Wasg fore Mawrth yr hyn a wnaeth argraff ar gadeirydd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, Dafydd Whittal, oedd y modd yr oedd mwy nag un o'r newyddiadurwyr yn adlewyrchiad o Bafiliwn newydd y Brifwyl.
"Mi hoffwn i ddiolch i aelodau'r Wasg sydd wedi gwisgo i gydfynd a'r pafiliwn," meddai.
A dyma nhw yn eu hysblander pinc - gan gynnwys par o sandalau pinc!