|
i wrando ar y bregeth
Rowan Williams oedd yn traddodi pregeth neu anerchiad oedfa agoriadol yr Eisteddfod fore Sul. Dyma gynnwys ei bregeth:
Cenedl, Cymuned, Cyfiawnder
Yn yr Hen Destament, yn llyfr Deuteronomium, fe ddarllenwn, "Gwnaeth yr Arglwydd ein Duw gyfamod a ni yn Horeb."
Nid a'n hynafiaid y gwnaeth yr Arglwydd y cyfamod hwn, ond a ni i gyd sy'n fyw yma heddiw' (Dt 5. 2-3).
Galwad Duw yn dod i ni heddiw Un o'r them芒u mwyaf pwysig yn llyfr Deuteronomium yw hon. Mae'r cyfamod rhwng Duw a'r bobl ddewisedig yn rhywbeth hollol gyfoesol; 'dyw e ddim yn fater o hanes neu draddodiad, agwedd o'r 'heritage industry' yn Israel hynafol.
Mae galwad Duw yn dod i ni heddiw, galwad i ateb ein Creawdwr a'n Hiachawdwr mewn cariad a llawenydd yn yr awr hon ac yfory.
Ac yr ydym ni gyd yn sefyll heddiw gerbron ein Duw; nid rhywbeth etifeddol neu naturiol neu hanesyddol ydyw ufudd-dod a gras.
Cofiwch y geiriau a ddywedodd Ioan Fedyddiwr wrth y Phariseaid - "Gall Duw godi plant i Abraham o'r cerrig hyn." (Lc.3.8).
Cenedl a chenhedlaeth Efallai, felly, nad damwain ydyw bod y gair 'cennedl' mor agos i 'cenhedlaeth'.
Pobl sy'n cyfranogi o'r un sefyllfa yw cenedl, pobl sy'n sefyll heddiw ynghyd gerbron Duw a'i alwad - cenhedlaeth, cymuned o'r un cyfnod, hyd yn oed os ydyn nhw'n byw mewn canrifoedd gwahanol.
Bod yn genedl yw cael rhyw fath o syniad o'r alwad hon, galwad i wynebu ynghyd broblemau a heriau bywyd a marwolaeth, her o fod yn wir ddynol.
Byw fel cenedl yw bod yn rhydd i glywed a darllen ein hanes, ein hetifeddiaeth ddiwylliannol a gwleidyddol, fel rhywbeth cyfoesol.
Pan drown at yr etifeddiaeth hon a chlywed i'n hanes, mae fel cymryd rhan mewn ymddiddan parhaol dros yr oesoedd.
Dywedodd Martin Luther yngl欧n a'r Ysgrythurau, De te loquitur - Llefarwyd amdanat.
Pan fo bywyd cenedl yn ddilys ac yn iach, mae'r geiriau hyn yn wir gymwys inni, mewn ystyr gyfatebol.
Nid yw geiriau beirdd a phregethwyr a phroffwydi ac arweinyddion y gorffennol yn fater o ddiddordeb academaidd; mae nhw'n llefaru amdanom.
Maen nhw'n rhoi ateb i'r cwestiynau sy'n ein poeni ni heddiw - nid ateb terfynol, ond ateb difrifol. Ateb sy'n ein herio ni bob un. "Nid a'n hynafiaid y gwnaeth yr Arglwydd gyfamod..."
Yr Eglwys yn enghraifft o fywyd cenedl Mae pwysigrwydd ein hiaith, pwysigrwydd ein cerddoriaeth a hanes ein traddodiadau gwleidyddol, traddodiadau cydweithredol ac annibynnol, yn darganfod eu gwreiddiau a'u hystyr ym mywyd y genedl hon: byw yng nghyd-destun ymddiddan parhaol, dyma hanfod bywyd a hunaniaeth cenedl.
Ac yn yr ystyr hwn, mae'r Eglwys ei hun yn enghraifft wych o fywyd cenedl -cenedl sanctaidd, fel y 'sgrifennodd Sant Pedr yn ei lythyr cyntaf, cymuned sy'n byw ynghyd, dros y canrifoedd, gerbron Duw, yn clywed ei alwad, yn gwrando ar ei gilydd, yn gwrando ar amrywiaeth ryfeddol o atebion i'r un her, yr un cwestiwn, sy'n dod oddi wrth Dduw - "Sut y byddwch chi'n mynd i fyw yn gyfangwbwl ac yn wir ddynol?"
Os anghofiwn iaith a diwylliant a thraddodiadau gwleidyddol, fe gollwn gyfoeth o'r atebion hyn.
Bydd hi fel ceisio ail-lunio, ailadeiladu, rhywbeth anferth a chymhleth a hardd gyda dim ond ychydig o atgofion personol - ailgyfansoddi'r B-Minor Mass, neu Symffoni Bugeiliol Beethoven ar sylfaen ychydig o donau hanner gofiwyd yn ein pennau.
Ac mewn proses fel hon, proses o wrando ar ein gilydd, yna y mae cenedl yn mynd yn gymuned, mewn ystyr gyflawn.
Galwodd Duw y bobl, a rhyddhaodd Israel o'r Aifft - ac wedyn rhoddodd iddynt gyfraith.
Yn y Gyfraith, fe alwodd Duw ni nid yn unig i fod yn genedl sy'n sefyll ynghyd ger ei fron ef ond i fod yn gymuned o bobl sy'n troi at ei gilydd i wneud ein brodyr a'n chwiorydd yn fwyaf dynol, trwy berthynas a'n gilydd. Perthynas o ffyddlondeb a chyfiawnder.
Ymddiried yn ein gilydd Maen rhaid i bobl Dduw fod yn gymuned lle mae hi'n bosib bob amser ymddiried yn ein gilydd - ymddiried bod y cymydog yn barod i weithredu er lles i mi, er mwyn gwella fy mywyd - ac hefyd, fy mod i fy hun yn rhoi rheswm i'r cymydog ymddiried ynof i.
Caru Duw - caru cymydog Mewn cymuned fel hon, mae'r cymydog yn mynd yn frawd neu'n chwaer ac mae'r gymuned yn mynd yn deulu.
Os ydym yn sefyll ynghyd gerbron Duw yr ydym yn sefyll hefyd gerbron y cymydog.
Fel y dywedodd Iesu gan orchymyn, "C芒r yr Arglwydd dy Dduw a char dy gymydog fel ti dy hun."
Pan welwn angen corff neu enaid ein cymydog, yr ydym yn gwrando galwad Duw. Ac y mae'r Gyfraith yn arwydd o hyn oll: yn arwydd o genedl ag ymddiried yn nodwedd iddi.
Heb ymddiried, does dim posibilrwydd o barhad mewn cymdeithas, dim cyd-destun y mae'n bosibl i rywun dyfu lan ynddo, tyfu i wir ddyndod aeddfed: "Y nod yw dynoliaeth llawn dwf, a'r mesur yw'r aeddfedrwydd sy'n perthyn i gyflawnder Crist," fel yr ysgrifennodd yr apostol at yr Effesiaid.
Heb ymddiried, yr ydym yn garcharorion drwgdybiaeth a phryder.
Y daith Hanes taith yw hanes y Beibl, taith sy'n arwain o 'genedl' yn yr ystyr gyfyng i 'gymuned', lle mae pobl yn gallu ymddiried a thyfu lan.
Yr ydym yn caru a gwerthfawrogi etifeddiaeth ein cenedl nid fel rhywbeth amhersonol neu dim ond naturiol, rhywbeth sy wedi'i 'roi' i ni yn gyffelyb ag agweddau eraill y byd.
Mae bywyd y genedl yn wir fywyd, personol a dwyochrog, sy'n symud yn fwyfwy tuag at gymuned, trwy wrando a chydweithredu, trwy drysorau iaith a dychymyg a myfyrdod, trwy ymarfer ymddiried a'r ymddiried hwnnw yn cael ei ddatgan mewn cyfraith a chyfiawnder.
Yr ydym yn cyfranogi'r un 'agenda' fel cenedl trwy wynebu'r un cwestiynau a'r un her; ac fel cymuned, yr ydym yn ceisio gwneud yr agenda hon yn realiti - yn cyflawni'r alwad i wneud ein gilydd yn wir ddynol gerbron Duw, yn ffurfio - trwy Ysbryd Duw - yn ein hunain ac yn ein gilydd lun a delw Duw.
Dau genedlaetholdeb Dyma'r gwahaniaeth rhwng cenedlaetholdeb 'llwythol' (tribal) sydd wedi creu tensiynau ofnadwy yn y byd yn ystod y blynyddoedd diwethaf
- Bosnia, Rwanda ac yn y blaen -
a chenedlaetholdeb sy wedi dysgu ffyddlondeb i ddynolryw trwy fod yn ffyddlon i gymydog.
Cymdogion a fu yn y gorffennol, sy'n llefaru trwy draddodiad Cymdogion heddiw sy'n llefaru gyda ni yn eu angen ac yn eu urddas ddynol.
Os gallwn ddysgu medr gwrando at ein hetifeddiaeth gyda gobaith a chydymdeimlad, gan adnabod y cwestiynau a'r her sy'n dod o oesoedd eraill fel cwestiynau dynol sy'n berthnasol i ni heddiw; felly, byddwn yn barod i wrando yn awr at yr Arall, yn cymryd yn ddifrifol ei broblemau a'r her sy'n ei wynebu yntau.
Ac o ddealltwriaeth fel hyn y mae cymuned fyd-eang yn datblygu - cymuned cyfiawnder, achos mewn cymuned fyd-eang o'r fath mae pawb yn gallu adnabod yr Arall fel cyfrannwr yn yr un ymddiddan dynol, yr un prosiect dynol.
Ni fydd un person neu gymdeithas heb lais; a dyma, si诺r o fod, gyfiawnder yn yr ystyr mwyaf cyflawn. Delw bell ond diffuant o gyfiawnder Duw.
Pedair C Bonhoeffer Fel y dywedais funud yn 么l, mae rhai mathau o genedlaetholdeb a theyrngarwch i genedl yn ddistrywiol ac ofnadwy.
Os bydd ffyddlondeb i'n gilydd yn ddim ond enw arall am ddrwgdybiaeth a chasineb tuag at yr estron, mae rhywbeth pwysig wedi'i golli, gyda chanlyniadau difrifol iawn.
Eleni yr ydym yn dathlu canmlwyddiant genedigaeth Dietrich Bonhoeffer, un o'r cymeriadau mwyaf pwysig yn hanes Eglwys yr ugeinfed ganrif - ac yn hanes Ewrop hefyd, i ddweud y gwir.
Roedd e'n ddiwinydd disglair iawn a roddodd ei fywyd yn yr ymdrech yn erbyn Hitler ac yn erbyn athroniaeth ynfyd hiliol y Drydydd Reich.
Athroniaeth y Drydydd Reich yw'r enghraifft fwyaf clir o lygru teyrngarwch i'r genedl a'r bobl. Teyrngarwch heb hanes, heb ystyriaeth, heb gydymdeimlad.
Ac yn erbyn yr athroniaeth hon, datblygodd Bonhoeffer syniad o ffyddlondeb dynol a byd-eang sy'n canolbwyntio ar air llawn o atseiniau diwinyddol a Beiblaidd - pedwerydd gair sy'n dechrau ag 'C', ar ein cyfer heddiw:
At 'Cenedl' a 'Chymuned' a 'Chyfiwander': mae Bonhoeffer yn ychwanegu Cyfrifoldeb.
Dirgelwch ein bywyd Cristionogol yw ein bod ni wedi derbyn galwad i fod yn gyfrifol dros ein gilydd; ac yng nghyd-destun diwinyddiaeth Bonhoeffer mae hyn yn golygu bod yn barod i gynrychioli ein gilydd a chodi croes peryglon a phoenau yr Arall. Yn Almaen y tridegau, codi croes peryglon a phoenau yr Iddewon yn fwyaf arbennig.
Mae'r gair yma - Cyfrifoldeb - yn bwrw golau ar ein tri gair ni heddiw.
Bywyd cenedl yw bywyd yr ydym yn cymryd cyfrifoldeb ynddo. Cyfrifoldeb ein ddoe, cyfrifoldeb dros wrando ar y lleisiau sy'n dod oddi wrth ein hetifeddiaeth, fel y gallwn wynebu galwad Duw yn y presennol.
Bywyd cymuned yw bywyd yr ydym yn cymeryd cyfrifoldeb dros iechyd a llewyrch ein cymydog ynddo.
Mae yna gyfiawnder - pan ydym yn ymddiried mai ffyddlondeb sy'n cynnal y gymuned, lle'r mae Gyfraith gyffredin wedi ei sylfaenu ar gyfrifoldeb y naill gymydog at y llall.
Tyfu o fod yn genedl i fod yn gymuned Felly, dyna rywbeth i ni feddwl amdano wrth ddathlu, yr wythnos hon, ein hetifeddiaeth ein hiaith a'n diwylliant. Sut y byddwn yn diogelu'r posibilrwydd o dyfu - hynny yw datblygu - o fod yn genedl i fod yn gymuned ac wedyn bod yn gymuned gyflawn - a chymued gyfiawn - lle mae pawb yn adnabod ei gyfrifoldeb tuag at bawb arall a thros bawb arall?
Sut y byddwn yn adeiladu hyder yn ein cenedl - yng Nghymru, gyda'i phroblemau gwledig mor anodd a chyfnewidiol? Ei phroblemau yngl欧n ag ailddatblygiad yn y cymoedd a phrisiau tai i bobl ifanc. Yr her newydd mewn dinasoedd llwyddiannus. Problemau a chamddefnydd cyffuriau. Digalondid, unigrwydd a hunanladdiad.
Ac wedyn, ym Mhrydain gyfan, sy'n rhannu'r un problemau a Chymru , ond hefyd yn wynebu'r sialens pan fo pobl yn colli hyder yn ein bywyd cyffredin a gwleidyddol.
Acfelly yn Israel heddiw.
Amser adnewyddu hyder Mae hi'n amser i ni adnewyddu ein hyder yn Nuw a'i alwad.
Diolch iddo, mae wedi rhoi i ni brofiad o fywyd cenedlaethol sy'n tystiolaethu i bosibilrwydd bywyd cyfiawn a chytbwys, bywyd cyfrifol, agored i angen a galwad y byd, nid ein cymdogion o Gymry yn unig.
Fel mae llawer wedi dweud, mae gwladgarwch Gymreig yn wastad yn cynnwys elfen ryngwladol.
'Nid a'n hynafiaid y gwnaeth yr Arglwydd y cyfamod hwn'; os byddwn ni'n ddifrifol yngl欧n a'n gorffennol, mae'n rhaid i ni fod yr un mor ddifrifol yngl欧n a'n dyfodol.
Nid yw galwad Duw wedi newid. Yr ydym yn sefyll gerbron yr un her a cherbron yr un addewid.
Boed i ni ateb ag un llais a chyda'r un brwdfrydedd a boed i ni dyfu lan fel y byddwn yn mynd yn gyfrifol am ein gilydd, trwy nerth yr Un sydd wedi cymryd cyfrifoldeb a mynd yn gynrychiolydd dros yr holl fyd. Iesu Grist ein Hiachawdwr.
漏 Rowan Williams 2006
Lluniau o ymarferion Oedfa'r Sul
|
|