成人论坛

Explore the 成人论坛
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

成人论坛 VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


成人论坛 Homepage
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Gwledd - ond gormod o bwdin

4 Awst 2007

Caryl Parry Jones

Cyngerdd agoriadol yn noson fawr - rhy fawr

gan Elin Angharad

Yr oedd rhai o gantorion a dawnswyr amlycaf Cymru yn cymryd rhan yng nghyngerdd agoriadol Eisteddfod Sir Fflint neithiwr.

Yn llawn bwrlwm yr oedd o safon arbennig.

Rhythym oedd teitl y noson ac roedd 'na sawl rhythym gwahanol - o draed y dawnswyr i ddwylo medrus cerddorion a lleisiau cantorion.

Dawns i gychwyn

Dawnswyr Nantgarw roddodd gychwyn i'r cyfan gyda pherfformiad egniol a blas sawl cyfandir yn y stepio a'r gerddoriaeth gan gynnwys Affrica, Seland Newydd ac yn nes adref, Iwerddon.

Dawnswyr Nantgarw

Dawnswyr Nantgarw - blas rhyngwladol

Rhaid dweud bod eu perfformiadau yn llawn hwyl ac asbri ac roedden nhw'n dawnsio rhwng perfformiadau'r cerddorion.

Un o'm hoff berfformiadau ganddyn nhw oedd y triawd cerdd dant. Ia, dawnswyr yn cerdd dantio! Dylan Cernyw ar y delyn a thri dawnsiwr, Cliff Jones, Iwan Griffiths a Gavin Ashcroft yn dawnsio i'w gyfleiliant.

Hwyl a dweud y lleia a blas newydd ar gerdd dant!

Hogan leol

Yna daeth y ferch leol, Caryl Parry Jones, i'r llwyfan ac yn hynod falch o weld Steddfod yn Sir y Fflint, "Y sir ora," meddai.

Ond roedd yn rhyfeddu bod ei rhieni, Rhys a Gwen Parry Jones, wedi byw mewn tair sir, yr hen Sir Fflint, Clwyd a Sir Ddinbych heb symud o'u cartref yn Ffynnongroyw.

Roedd yn falch o gael perfformio meddai yn ei sir enedigol a hynny ar ddechrau'r Eisteddfod a llwyddodd i godi gwres y pafiliwn gyda'i chlasuron, Calon a'r Ail Feiolin. Cyn diwedd y cyngerdd daeth yn 么l i ganu Chwarae'n Troi'n Chwerw.

Piantel oedd yr artistiaid nesaf, y tro cyntaf imi weld y ddeuawd o Annette Bryn Parry ar y piano a Dylan Cernyw ar y delyn. Ac am berfformiad. llawn egni a'r bysedd yn llithro ar y nodau ac ar y tannau. Braf gweld dau o gyfeilyddion amlyca Cymru sydd wedi bod ar ein llwyfannau eisteddfodol yn cael llwyfan i'n diddori.

Roedd yn amlwg fod y gynulleidfa wedi mwynhau gyda'r curo dwylo'n edmygedd o'u perfformiadau, yn enwedig yn ystod The Entertainer. Dyma ddau wnaeth yn sicr ddangos bod rhythm yn eu gwaed.

Disgleirio

Ond yr un ddisgleiriodd ac a ddangosodd ei ddoniau yn y cyngerdd oedd y cerddor ifanc Dewi Ellis Jones. Offerynnau taro ydi ei faes ac roedd y dwylo'n hynod o fedrus ar yr offerynnau, o'r drwm, i'r marimba a'r sylophone.

Dyma i mi oedd un o'r uchafbwyntiau, ei weld yn perfformio ar lwyfan ein prifwyl.

Mae angen mwy o gyfle i'n cerddorion ifanc a rhoi cyfle i'r rhai sy'n llwyddo gydag offerynnau llai cyfarwydd.

Roedd Dewi'n gyfforddus iawn yn egluro'r darnau yr oedd am eu perfformio gydag Y Weddi Fechan ar y marimba yn ingol o gyfareddol.

Cafwyd perfformiadau hefyd gan G么r H欧n Ieuenctid Sir y Flint dan arweiniad Jean Stanley Jones a Chantorion Colin Jones.

Er bod eu perfformiadau yn raenus roedd 'na ormod o symud yn y perfformiadau gan yr ieuenctid o'm rhan i, a hynny'n tynnu gormod o sylw oddi ar y perfformiad.

Aniddigo

Yn anffodus erbyn i g么r Colin Jones gyrraedd y llwyfan roedd y gynulleidfa wedi dechrau aniddigo a rhai degau yn troi am adre cyn y diwedd.

Aeth mwy ar ddiwedd y perfformiad oedd yn gorffen gyda'r Amen, ond roedd gan Caryl un perfformiad arall.

Yr unig fai am noson amrywiol a chyfareddol oedd bod 'na efallai ormod o ddawnsio a gormod o waith ail osod y llwyfan a hynny'n ymestyn hyd y cyngerdd tan 10.45pm.

Dwi'n sicr y gallai rhai eitemau fod wedi gallu cael eu cwtogi. Un siom arall oedd nad oedd y Pafiliwn yn llawn ond dwi'n sicr bod y perfformiadau wedi rhoi cychwyn arbennig a safonol i'r wythnos yn y "sir orau".



About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy