Bydd cymrawd newydd yn cael ei urddo mewn seremoni ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol bnawn heddiw.
Ond ni fydd llwyfan y Brifwyl yn lle dieithr i'r cyn ddarlledwr, R Alun Evans, gan iddo fod yn arweinydd llwyfan nid yn unig yn y Genedlaethol ond yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen hefyd.
Bydd yn cael ei dderbyn yn Gymrawd gan lywydd llys yr Eisteddfod, D Hugh Thomas, am chwarter wedi pedwar o'r gloch cyn seremoni'r coroni.
Anrhydedd uchaf
Dyma'r anrhydedd uchaf y gall yr Eisteddfod Genedlaethol ei rhoi a chyda dim ond pum cymrawd yn bosibl ar unrhyw un adeg bydd R Alun Evans yn ymuno ag Aled Lloyd Davies, Gwilym E Humphreys, James Nicholas ac Alwyn Roberts.
Cyflwynir yr anrhydedd fel cydnabyddiaeth o wasanaeth i'r Brifwyl dros gyfnod maith.
Yn y gorffennol bu R Alun Evans yn Llywydd Llys yr Eisteddfod ac yn Gadeirydd Cyngor yr 糯yl.
Yn frodor o Lanbryn-mair daeth yn un o ddarlledwyr mwyaf blaenllaw Cymru ar radio a theledu gan gyflwyno prif raglen nosweithiol y 成人论坛 yn ei dydd, Heddiw.
Dechreuodd ddarlledu yn 1955, pan oedd yn y Brifysgol ym Mangor, ond i'r weinidogaeth yr aeth cyn dod yn ddarlledwr llawn amser.
Fe'i hordeiniwyd yn weinidog eglwys Seion yr Annibynwyr yn Llandysul yn 1961 - yr un flwyddyn ag y priododd ef a Rhiannon Morris o Geredigion a oedd yn athrawes yn Sir y Fflint ar y pryd.
Eu merch yw Betsan Powys sy'n awr yn ohebydd gwleidyddol gyda'r 成人论坛 yng Nghymru ac yn gyflwynydd y fersiwn Gymraeg o Mastermind.
Mae eu mab, Rhys, yn gyfarwyddwr rhaglenni teledu.
Sylwebydd cyntaf
Yn ystod ei yrfa ddarlledu R Alun Evans oedd y sylwebydd p锚l-droed cyntaf erioed ar Radio Cymru.
Erbyn ei ymddeoliad, ef oedd pennaeth y 成人论坛 ym Mangor.
Wedi ymddeol dychwelodd yn fyfyriwr i'w hen goleg ym Mangor gan ennill doethuriaeth am ei astudiaeth o ddechreuad a datblygiad darlledu yn y gogledd.
Yn 2000 symudodd ef a Mrs Evans i fyw yng Nghaerdydd. Derbyniodd alwad y flwyddyn wedyn i fod yn weinidog eglwys Bethel Caerffili lle mae'n dal i fugeilio.
Mae'n awdur tri llyfr, un am y darlledwr arloesol, Sam Jones, un am enillwyr Y Rhuban Glas rhwng 1943 a 2000 a'r trydydd am Iorwerth C Peate yn y gyfres Bro a Bywyd.
Dechrau yn Sir y Fflint
Bu ei 'yrfa' eisteddfodol yr un mor gyfoethog 芒'i yrfa mewn darlledu.
"Fel mae'n digwydd, yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fflint yn 1969 yr oeddwn i'n arweinydd llwyfan gyntaf erioed," meddai pan gyhoeddwyd gyntaf mai yn Eisteddfod Sir Fflint a'r Cyffiniau eleni y byddai'n cael ei urddo'n Gymrawd.
"Dyma yr anrhydedd fwyaf y gall yr Eisteddfod ei chyflwyno i unrhyw un ac yn naturiol rwyf yn ei gwerthfawrogi'n fawr iawn," meddai.
Bu hefyd yn arweinydd yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen am chwarter canrif.