Iesu! - adolygiad
Adolygiad Y Parchedig Aled Edwards o ddrama Aled Jones Williams
Gorfodi cwestiynau
Adolygiad Y Parchedig Aled Edwards o Iesu! gan Aled Jones Williams. Theatr Sherman, Caerdydd, Awst 5, 2008
Y mae'n cymryd athrylith i ysgogi unrhyw un, heb s么n am eisteddfodwyr cyfoes Caerdydd, i drafod Iesu.
Yn ddiamau athrylith felly yw Aled Jones Williams ac y mae'r dramodydd a'r offeiriad hwn i'w longyfarch yn fawr nid yn unig am fynegi ei ddawn mewn modd mor grefftus fel dramodydd o'r radd flaenaf ond hefyd am gyflawni prif orchwyl y diwinydd: argyhoeddi ei hun ac eraill bod Duw a'i stori yn gyson yn fwy nag unrhyw ddehongliad ohono.
Yn gyson amryliw
Rhywbeth perffaith briodol hefyd, fe dybiwn i, yw i offeiriad a dramodydd o'r fath ein hatgoffa bod cymeriadau'r efengylau yn gyson amryliw ac yn barhaus yn agored i'w portreadu a'uhail bortreadu.
Y maen nhw, hefyd, mewn unrhyw gred fyw, yn ein gwahodd ni i weld ein hunain ynddyn nhw a sut y mae Duw yn ymdrin 芒 phob un ohonon ni yn y cymhlethdodau hynny.
Wrth wylio perfformio Iesu! fe ges i fy nghynnal drwyddo draw gan sgript a oedd yn gyson yn fy herio a gwaith actio cwbl ryfeddol ar brydiau.
Ymysg yr holl gymeriadau roedd Fflur Medi Owen fel Iesu; Dafydd Dafis fel Peilat a Gareth ap Watkins fel Jiwdas yn arbennig.
Y ddau gymeriad arall a ddaliodd fy sylw oherwydd dehongliadau grymus yr awdur oedd Ll欧r Evans fel y Ceffas doniol ac, yn fwyaf arbennig i mi, Llion Williams fel Caiaffas.
Argyfyngau cydwybod
Fel rhywun a fu'n ymwneud 芒 gwleidyddion ar ran cymunedau cred, fe welais argyfyngau cydwybod fy hun yn hwn. Roedd portread Llion Williams yn gwbl gredadwy ac fe wnes i ei werthfawrogi'n fawr ar lefel bersonol iawn.
Peth felly, fe dybiwn, yw drama dda ac actio effeithiol.
Wrth ymlwybro tuag at berfformiad cyntaf y ddrama hon, fe allai unrhyw ff诺l ganfod rhywun sy'n mynd i wrthwynebu cael merch i bortreadu Iesu.
Dwi'n perthyn, fel Anglican cyfoes, i draddodiad a lwyddodd yn ddiweddar i argyhoeddi'r byd taw'r unig beth sy'n cyfrif i ni yw'r materion hynny sy'n ymwneud 芒 rhyw a gofalu na all gwragedd fod yn esgobion.
Y mae gan Aled Jones Williams felly, fe dybiwn i, berffaith hawl i danlinellu'r gwirionedd sylfaenol i'r ymgnawdoliad ymwneud a'r gwryw a'r fenyw.
Wedi dweud hyn, nid clywed cymeriad Fflur Medi Owen yn cyfeirio'n barhaus at 'Mama' yn hytrach nag 'Abba' a ddaliodd fy sylw i, ond i deyrnas Dduw cael ei throi yn weriniaeth drwyddi draw.
Roedd hynny'r un mor rymus i mi fel Cristion.
Talpiau gwych
Yng nghynnwys y golygfeydd cynnar, roedd y modd y cafodd talpiau cyfan o'r Testament Newydd eu dwyn o'u cyswllt traddodiadol a'u troi yn gyfoes fyw yn gwbl wych.
Roedd adrodd stori'r mab afradlon mewn 'Cofi' pur yn un o'r mynegiadau mwyaf effeithiol o'r ddameg enwog hon i mi ei chlywed erioed. Dylid cop茂o'r sgript a'i hanfon at bob gr诺p ieuenctid o eiddo'r eglwysi.
Wrth ail adrodd y straeon hyn fe lwyddodd Aled Jones Williams hefyd i danlinellu llawer o'r hiwmor sy'n amlwg yno yn nywediadau'r Iesu yn yr efengylau.
Fe ychwanegodd yr awdur ddarnau cwbl newydd o hiwmor i'r stori a wnaeth i mi rowlio chwerthin. Fe wnes i fwynhau'r j么c blentynnaidd honno rhwng Pontius Pilatus a Herod Antipas ynghylch y Biro.
Da chi, ewch i weld y ddrama i'w chlywed.
Ar bwynt diwinyddol, nid wyf yn poeni'n ormodol bod Iesu'r ddrama hon yn trafod ei hun yn eithaf aml yn y gwaith.
Fel rhywun sy'n credu bod y Crist ymgnawdoledig yn Dduw ac yn ddyn, gallaf gredu'n llwyr yn y Gwaredwr a chwysodd mewn ofn a hunan dybiaeth yn yr anialwch ar ddechrau ei weinidogaeth ac yn fwyaf arbennig yng ngardd Gethsemane ar ddiwedd ei weinidogaeth.
Fe oedd Iesu'r efengylau yn gofyn i eraill ddweud wrtho pwy ydoedd. Fe gafodd hwn hefyd ei demtio.
Rhy bregethwrol
Oherwydd y pethau hyn i gyd fe gefais fy ngwefreiddio'n llwyr gan y ddrama hon drwy hanner cyntaf y perfformiad.
Ond nid felly'r ail hanner.
Fe barhaodd y cyffyrddiadau gwych drwyddi ac roedd cysylltu artaith a threisio Iesu gan filwyr hynod o debyg i'r rhai sy'n gwasanaethu'r Gorllewin yn Irac a Bae Guantanamo yn rymus ac yn ddiwinyddol ddilys. Fe all unrhyw un sydd wedi dioddef anghyfiawnder trais ymdoddi yn nioddefiadau Crist a maddeuant y groes.
Er yn wirioneddol glyfar, cefais ymdeimlad yn gynnar yn yr ail hanner bod rhai o'r anerchiadau yn dechrau troi'n bregethwrol.
Dechreuais bryderu'n fwyaf arbennig y byddai'r pregethu hwn, nid yn peri i mi ofyn cwestiynau fel yr oeddwn yn llawn fodlon i'w wneud, ond y byddai'n arwain at gynnig rhai atebion i mi nad oeddwn yn fodlon i'w derbyn.
Yn fwyaf arbennig, pryderais y byddai bwgan, hen uniongrededd traddodiadol yng ngolwg yr awdur yn cael ei ddisodli gan fwgan hen ryddfrydiaeth ddiwinyddol yn fy ngolwg i.
Daeth y pryder hwn i'w ben llanw yn ymdriniaeth y ddrama o gwestiwn yr atgyfodiad a'r hyn a honnir i Pontius Peilat ei ofyn parthed corff Iesu. Erbyn hyn, y mae'r ateb a gynigwyd yn y ddrama mor hen y gellir ei ystyried yn fynegiant o uniongrededd diwinyddol o fath gwahanol: uniongrededd rhyddfrydol.
Cwestiwn a'm poenodd
Fe garwn gloi 芒 chwestiwn a'm poenodd.
Drwyddo draw, roedd cymeriad Caiaffas yn gredadwy oherwydd ei fod yn gadarn wan ac yn gymhleth ei argyhoeddiad a'i sefyllfa.
Er i Peilat gael ei drawsnewid ar ddiwedd y ddrama yn y modd mwyaf trawiadol fe barhaodd, drwyddo draw, yn unlliw ddrwg.
Beth bynnag yw'r ystrydeb a geir o wleidyddion, nid cymeriadau unlliw mohonynt. Beth ddigwyddodd i'r peth daioni sydd ym mhob Peilat? Roedd hwn mor gyson ddrwg, ni allwn gredu ynddo na'r diweddglo a luniwyd o'i gwmpas?
Ond, gofynnaf hefyd i mi fy hun yn onest wrth gloi; ai pryder dilys ar fy rhan sy'n peri i mi ofyn cwestiwn ynghylch y diweddglo a gafwyd neu a ydwyf yn anfodlon oherwydd i'm holl reddfau diwinyddol ymwrthod 芒'r hyn a gynigwyd gan yr awdur?
Carwn awgrymu taw prif rinwedd yr awdur, yr actorion gwych hyn a chyfanrwydd y gwaith hwn yw fy mod wedi gorfod gofyn y cwestiwn.