Actor sy'n wyneb cyfarwydd ar deledu Cymraeg a Saesneg.
Perfformio mewn drama ar lwyfan Ysgol Morgan Llwyd a sbardunodd yr hogyn o Rhos, Mark Lewis Jones, i ddewis byd y ddrama fel gyrfa. Mae'n cyfaddef nad oedd fawr ddim arall yn mynd 芒'i fryd yn fachgen ifanc: "Doedd gen i ddim diddordeb mewn dim byd," meddai Mark. "Ond pan o'n i'n 16 oed roedd yr ysgol yn perfformio Culhwch ac Olwen. Roedd bod ar lwyfan yn rhywbeth newydd iawn i mi a wnes i fwynhau'r profiad."
Mae wedi talu teyrnged i'w athrawes ddrama yn Ysgol Morgan Llwyd, Gwawr Dafis - Mason gynt - am annog ei ddiddordeb ym myd y ddrama.
Aeth ymlaen i actio gyda Theatr Ieuenctid Clwyd a chael ei hyfforddi yn Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd. Bu hefyd actio gyda'r Royal Shakespeare Company ac yn theatr y Globe yn Llundain.
Mae'n adnabyddus am chwarae cymeriadau caled, pwerus, fel y Ditectif Russel Bing yng nghyfres ddrama'r 成人论坛 55 Degrees North sydd wedi ei gosod mewn gorsaf heddlu.
Yn 么l tudalen amdano ar wefan Wikipedia, mae wedi chwarae rhan plismon ddim llai na phum gwaith a milwr dair gwaith. Roedd hefyd yn filwr yn y gyfres deledu o'r 1990au, This Life, lle roedd yn chwarae rhan brawd y cyw gyfreithiwr o Gymro, Warren Jones.
Mae ei bapur bro lleol, Nene, yn dilyn ei hynt a'i helynt yn gyson:
Cyfnod prysur i actorGog yn creu trafferth yng Nghwmgwili
Mae ei waith teledu arall yn Saesneg yn cynnwys Holby City, Spooks, Murphy's Law, Waking the Dead, The Bench a Torchwood.
Yn y Gymraeg, mae wedi ymddangos mewn sawl cyfres ddrama ar S4C gan gynnwys, yn fwyaf diweddar, Con Passionate a Chalon Gaeth.
Mae ei waith ffilm yn cynnwys Solomon a Gaenor gyda Ioan Gruffudd a Nia Roberts (mae'n chwarae rhan brawd Gaenor, Crad) a gafodd enwebiad am Oscar a'r blocbystyr Hollywood Master and Commander gyda Russell Crowe.
Mae'n byw yng Nghaerdydd gyda'i bartner Delyth Jones, a rhyngddynt, mae ganddynt saith o blant.