Mae cantorion Cwmgwili a Davina, eu harweinyddes herfeiddiol, wedi dychwelyd i S4C ar gyfer ail gyfres o'r ddrama boblogaidd Con Passionate.
Yn dilyn diweddglo dramatig y gyfres gyntaf, diau y bydd y c么r yn gobeithio am gyfnod llai cythryblus. Ond mae un wyneb newydd i'r cwm yn sicr o ddod 芒 thrafferth i'w ganlyn - i'r dynion ac i'r merched.
Mark Lewis Jones yw'r actor o Gog sy'n dod i blith yr Hwntws wrth i'w gymeriad Irfon symud gyda'i deulu i ardal Cwmgwili. Yn ddeintydd wrth ei waith, mae Irfon yn ymuno 芒 Ch么r Gwili ac yn ceisio cyflwyno un neu ddau o newidiadau i arddull y c么r - newidiadau sydd ddim at ddant yr aelodau mwy traddodiadol.
"Mae Irfon yn dipyn o ben mawr," medd Mark, sy'n hannu o Rosllannerchrugog ger Wrecsam. "Mae o'n meddwl ei fod o'n gallu troi ei law at unrhyw beth a phan mae Davina yn gofyn iddo gymryd ymarfer, mae o'n ceisio cael y c么r i symud a gwneud tipyn bach o ddawnsio.
"Dydi o ddim yn ddyn neis. Baswn i'n meddwl fod ganddo fo broblemau seicolegol. Ond mae'n lot o hwyl i chware cymeriad fel hyn. Mae'r cymhlethdodau yn ei wneud o'n fwy diddorol.
"Dw i wedi action cymeriadau fel Des yn The Bench; roedd o'n ddiawl mewn croen, ond yn y b么n roedd o'n hen foi iawn. Ond efo Irfon, mae o'n real bastard! Does dim byd yn neis ynddo o gwbwl!"
Mae Mark wedi action efo Russell Crowe yn y ffilm Master and Commander ond does fawr o wahaniaeth rhwng action mewn ffilmiau mawr ac action ar set Con Passionate. Unwaith mae'r camera'n dechrau troi, yr un job ydy o."
"Roedd yn brofiad diddorol cael bod ar anferth o set fawr, fel Troy, lle mae cannoedd o gast ond dydy'r scale ddim yn bwysig i fi, y peth pwysig ydy'r sgript a'r gwaith actio. Mae Cymru gystal ag unrhyw wlad arall yn y byd o ran cynhyrchu rhaglenni ond mae angen sgripts newydd a gwreiddiol yn Gymraeg yn lle cyfieithu; mae pethau'n datblygu a'r safonau'n codi'n gyson ar S4C."
Ar hyn o bryd, mae Mark yn gweithio ar ffilm newydd Daddy's Girl ac yna bydd yn dechrau ffilmio Small Country, addasiad o nofel Si芒n James o'r un teitl. Ffilm ddwyieithog, pedair awr o hyd ydy Small Country, a bydd yn ymddangos ar ffurf cyfres o bedair rhaglen, awr yr un ar S4C.
Fe dderbyniodd Mark ei addysg yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam ac mae o'n cyfaddef mai trwy lwc ac anogaeth ei athrawes ddrama y daeth i ymddiddori mewn actio. Yn fachgen ifanc yn y Rhos, mae Mark yn dweud yn onest nad oedd fawr ddim yn mynd 芒'i fryd.
"Doedd gen i ddim diddordeb mewn dim byd," meddai Mark. "Ond pan o'n i'n 16 oed roedd yr ysgol yn perfformio Culhwch ac Olwen. Roedd bod ar lwyfan yn rhywbeth newydd iawn i mi a wnes i fwynhau'r profiad."
Mae'n talu teyrnged i'w athrawes ddrama yn Ysgol Morgan Llwyd, Gwawr Dafis - Mason gynt - ac yn dweud mai hi a fu'n gyfrifol am hogi ei ddiddordeb mewn drama a'i annog i barhau. A dyna gychwyn ar yrfa ddisglair ar y teledu ac ar lwyfannau enwocaf Prydain.
Ac mae Mark wrth ei fodd o gae; bod yn rhan o'r ail gyfres o Con Passionate wedi iddo fwynhau'r gyfres gyntaf.
"R'on i'n dipyn o ffan o Con Passionate ac r'on i'n mor falch pan ges i wahoddiad gan y cynhyrchwyr, Teledu Apollo i fod yn rhan o'r al gyfres. Mae'r gymdeithas glos yn fy atgoffa I O FYWYD YN Y Rhos efo'r c么r yn ganolbwynt i'r cyfan. Ond mae C么r y Rhos yn llawer mwy proffesiynol na Ch么r Gwili sy'n rhoi pwyslais ar gymdeithasu!!" chwardda Mark.
"Mi roedd gen i lot o ffrindiau oedd yn canu efo C么r Meibion y Rhos a'r Orffiws ond wnes i erioed ymuno 芒'r un o'r ddau."
Mark a Marathon Llundain
Does wybod sut yn y byd mawr mae Mark yn llwyddo i gael amser o brysurdeb ffilmio ac actio i ymarfer ar gyfer rasys Marathon ond mae wedi rhedeg mewn sawl un er mwyn codi arian at achosion da. Y llynnedd cymerodd ran yn y Great North Run ac eleni mae'n rhedeg i godi arian i Ap锚l Noah's Ark. Ysbyty plant yng Nghaerdydd ydy Noah's Ar, yr unig Ysbyty Plant yng Nghymru gyfan. Mae mawr angen prynu offer ar gyfer yr Und Llygaid yn yr ysbyty a dyna pam y bydd Mark yn chwilio am bobl i'w noddi pan fydd yn rhedeg Marathon Llundain ddiwedd mis Ebrill.
Os bydd unrhyw un o ddarllenwyr Nene yn awyddus i noddi Mark - gallwch gysylltu 芒 swyddogion y papur.