Mae gennyf yn fy meddiant dri llun o'r Eisteddfod Genedlaethol. Mae fy nhad, a aned yn Wrecsam yn 1927, wedi marw bellach, felly ni allaf ei holi yn eu cylch ond gyda help Llyfrgell Wrecsam rydw i'n bur sicr mai lluniau Eisteddfod y Rhos 1945 ydyn nhw.
Roedd fy nhaid yn stiward yn yr Eisteddfod unwaith a chan ei fod wedi ei eni yn y Rhos ac iddo farw yn 1958, ni fedrai'r lluniau fod yn hwyrach na hynny.
Efallai fod rhywun yn cofio, neu 芒 lluniau tebyg i'w rhannu? Bu farw David Lloyd George yn 1945 ac mae'n ymddangos fod yna deyrnged iddo ar y wal yn un o'r lluniau yma. Dafydd Edwards
|