|
|
Lleoliad yr Eisteddfod
Rhosllannerchrugog
Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol
- Y Rwsiaid yn darganfod Auschwitz.
- Cyrch ar Dresden gan 1200 o awyrennau; lladd 130,000 o bobl.
- Mussolini yn cael ei ddal a'i saethu, a'i grogi gerfydd ei draed.
- Milwyr Rwsia yn cyrraedd Berlin.
- Milwyr yn darganfod erchylltra'r gwersylloedd mewn lleoedd fel Belsen a Buchenwald.
- Hitler ac Eva Braun yn cyflawni hunanladdiad, a'r Almaen yn ildio.
- Rwsia yn meddiannu hanner Yr Almaen, y lleng haearn yn disgyn.
- Bom atomig yn disgyn ar Hiroshima ar Awst 6, a
agasaki ar Awst 9.
- Siapan yn ildio.
- Cost y Rhyfel i Gymru: lladd 20,000 yn y Lluoedd Arfog a'r Llynges Fasnach; 1000 wedi eu lladd yn y bomio; tua 350,000 o 'faciwis wedi dod i Gymru, a'r Swyddfa Ryfel yn meddianu 200,000 erw, sef 10%, o dirwedd Cymru.
- Ffurfio'r Cenhedloedd Unedig.
- Llafur yn ennill yr Etholiad Cyffredinol a Clement Attlee yn Brif Weinidog.
- Nye Bevan yn Weinidog Iechyd a James Griffiths yn Weinidog Insiwrans
Cenedlaethol. Will Jones, A.S. Gorllewin Y Rhondda, oedd yr olaf i gael ei
ethol yn ddiwrthwynebiad.
- Ym mis Ionawr Lloyd George yn cael ei ddyrchafu'n Iarll ond yn marw yn 82
oed ym mis Mawrth.
- Dywedodd Churchill mai ef oedd 'y Cymro mwyaf ers y
Brenhinoedd Tuduraidd'. Sefydlodd y Wladwriaeth Les, arweiniodd Brydain
drwy'r Rhyfel Mawr, a dinistriodd y Blaid Ryddfrydol.
- Glowyr De Cymru yn cytuno i ffurfio'r NUM a dod 芒 dyddiau'r 'Fed' i ben.
- Ethol Gwynfor Evans yn Llywydd Plaid Cymru.
Archdderwydd
Crwys
Y Gadair
Testun. Awdl: 'Yr Oes Aur'
Enillydd: Tom Parry-Jones
Beirniaid: T. H. Parry-Williams. D. J. Davies, Dewi Morgan
Cerddi eraill: Mathonwy Hughes oedd yr ail. |
|
|
|
Ymateb a sylwadau Alan Llwyd:
'Roedd yr awdl yn s么n am oes aur celfyddyd a gwarineb,
ond ar ddiwedd y Rhyfel dechreuad yr Oes Oer ac nid yr Oes Aur a welwyd yn Eisteddfod Rhosllannerchrugog. Yr oedd yn yr awdl lawer gormod o fenthyciadau o waith beirdd
eraill, er bod ambell gwpled neu ddarn syfrdanol ynddi.
Y Goron
Testun. Pryddest: 'Bara' neu 'Coed Celyddon'
Enillydd: Neb yn deilwng
Beirniaid: T. Eirug Davies, David Jones, Iorwerth C. Peate
Cerddi eraill: Dilys Cadwaladr (Prifardd y Goron, 1953), G. J. Roberts (Prifardd y Goron, 1947), G. Gerallt Davies Y Fedal Ryddiaith Ni ddyfarnwyd neb yn deilwng ym 1945 am waith gorau 1942 麓 1944.
Tlws y Ddrama Drama Hir
Enillydd: Neb yn deilwng
Tlws y Cerddor
Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol
Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,
Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.
|
|