Lleisiau rhai o aelodau Theatr yr Ifanc
Y nod ydy rhoi profiad llwyfan i bobl ifanc yn y gobaith y bydd yn eu sbarduno i fynd ymlaen ym myd y ddrama meddai Mr Hitchmough (llun isod):
"Ym 1990 fe lwyfannwyd Sioe Gymunedol yn y Stiwt a gymaint oedd y brwdfrydedd, roedd teimlad ar y pryd y bydde' na golled os na fyddem yn gwneud dim byd pellach.
"Penderfynwyd creu gr诺p theatr i bobl ifanc ac rydym wedi bwrw mlaen ers hynny.
"Fel arfer rydym yn ceisio gwneud dau gynhyrchiad y flwyddyn.
"Mae pwyllgor cryf a gweithgar iawn a'r syniad yw bod y plant yn mynd ar lwyfan yn y Stiwt.
"Mae hynny'n rhywbeth ffantastig iddyn nhw.
"Eleni, rydym yn gwneud hyn oherwydd ry' ni wedi penderfynu gwneud pantomeim ym mis Rhagfyr.
"Rydym yn edrych ymlaen at hwnnw, ac mi fyddwn yn dechrau ar hwnnw ym mis Gorffennaf.
"Mae rhyw 30 o bobl ifanc ac ychydig o dan 40 o blant o 11 oed i fyny yn aelodau gyda Chris Dukes yn gyfarwyddwr artistig.
"O dro i dro 'da ni yn cael y ddau gr诺p at ei gilydd gyda rhyw 70 ar y llwyfan mewn cynhyrchiad.
"Ar noson perfformiad mae hyd at 30 o oedolion a rhai o'r plant h欧n yn cynorthwyo.
"Y syniad yw ein bod yn creu cyfleoedd i'r rhai ifanc.
"Mae pobl fel Mark Lewis Jones wedi dod i'r amlwg ym myd drama.
"Mae pethau fel hyn wedi bodoli yn y gorffennol, ond yr Aelwyd oedd yn eu cynnal yr adeg hynny.
"'Da ni yn gobeithio y bydd rhai o'r plant sydd yn dod trwy'r gr诺p yn mynd yn eu blaenau.
"Mae Daniel Lloyd yn un sydd wedi bod yn rhan o'r gr诺p ac mae bellach yn actio ac yn aelod o'r gr诺p Daniel Lloyd a Mr Pinc.
"'Da ni yn dueddol o gynnal gweithgareddau actio a chanu.
"Mae hynny'n creu hyder ac mae'r plant a phobl ifanc sy'n galluogi iddynt wneud pethau eraill y tu allan i'r gr诺p."
Os ydych chi eisiau cysylltu 芒'r theatr, ewch i'w gwefan - linc ar law dde'r dudalen yma.