Cychwyn am 11am a 5.30pm. Cefndir Defnyddir yr un gadair ag a wnaethpwyd ar gyfer yr eisteddfod gyntaf yn 1923 hyd heddiw yn Eisteddfod y Talwrn (isod). Yn y dyddiau cynnar, cynhaliwyd yr eisteddfod yn yr Eglwys, ond wedi ffrae rywbryd yn y 1950au, trosglwyddwyd trefniadaur 诺yl i'r pentrefwyr, dan arweiniad y diweddar William Huws. Ef a wnaeth yr eisteddfod yn elusen, ac mae'r pwyllgor heddiw yn gweithio i barhau ei waith da o ddenu cystadleuwyr i'r 诺yl. Ymhlith y rhai a fu'n cystadlu yn y Talwrn yn gantorion ifanc mae Gwyn Huws Jones, Huw Edward Jones a Leah Owen. Drwy hysbysebu'r testunau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, mae'r eisteddfod yma yn denu llawer o feirdd ac ysgrifenwyr o Gymru gyfan. Ers 1999, cynhelir seremoni ar y cyd gyda'r nos (gweler yr oriel luniau) i gadeirio'r bardd buddugol ac i gyflwyno pl芒t Celtaidd am y stori fer orau. Bydd cyfle hefyd i gystadleuwyr dan 21 oed ymgeisio am Dlws yr Ifanc. Mae trefnwyr yr eisteddfod yma hefyd yn gweld pwysigrwydd cael hwyl, a bydd cystadlu ar gyfer y sgets orau gyda'r nos. Diolch i Meri Rhiannon Elis Cysylltwch i ddiweddaru tudalen eich eisteddfod os gwelwch yn dda.
|