成人论坛

Explore the 成人论坛
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人论坛 Homepage
成人论坛 Cymru
成人论坛 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人论坛 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Glorian
Mynediad i'r Talwrn Ymweld 芒'r Talwrn
Ionawr 2003
Aeth Mary Evans am daith o amgylch ardal Talwrn... a chael diwrnod i'w gofio...
Nid yw yn hawdd mynd yn 么l
Ond eto, onid yw yn hudol,
Mae i mi rhyw ffansi ff么l
Yn hoff fannau'r gorffennol.

Na, nid y fi ydi'r awdur, dwi ddim yn ddigon clyfar i sgwennu peth fel yna, ond clywais hyn ar Dalwrn y Beirdd rai blynyddoedd yn 么l ac mae wedi glynnu yn fy nghof. Nid wyf yn gwybod ydio yn beth da iawn edrych yn 么l na mynd yn 么1 chwaith, fel y profais yn ddiweddar achos does dim yn aros yr un fath.

I Joan a Tecwyn (hogan o'r Talwrn) y mae'r diolch am symbyliad y tro yma. Pan gefais lythyr ganddynt yn dweud iddynt fynd i gerdded yr h锚n lwybrau yn ddiweddar a'r atgofion yn llifo. Cododd hyn awydd arnaf i drio gwneud yr un peth, ond gan nad wyf yn dreifio rwan, rhaid oedd dibynnu ar rywun i fynd 芒 fi, a bum yn lwcus pan ddaeth Megan, fy nghyfnither o Rhydwyn yma ddiwrnod (Megan, Ty Ron gynt).

Gan nad oedd gen i awydd cwcio aethom ein dwy i'r Ganolfan Arddio ym Mhentre Berw am ginio, rhyw 'snac' bach felly. (Mae yno fwyd bendigedig a genod cl锚n!) Roeddwn i angen compost a pheledi difa malwod, a lladdwyd dau dderyn hefo'r un garreg felly. Wedi gwledda a gwario rhyw ychydig, dyma Megan yn awgrymu ein bod yn mynd am dro drwy'r Talwrn. Cofiwch, mi fuo ni ddigon hir yn cyrraedd y pentra gan fod plwyf Llanffinan yn atyniadol a bu Ilawer o 'wyt ti'n cofio?'

Hel atgofion
Gweld Glanrhyd ar ei newydd wedd a chofio'r teulu mawr fu'n byw yno a meddwl cymaint o ffordd oedd ganddynt i'r ysgol, llond l么n ohonynt. Gyda llaw, byddaf yn cael sgwrs hefo Enid reit aml a chysylltaf 芒 Gwyneth yng Ngwalchmai rwan ac yn y man.

Edrych ar yr Allt, sydd bron yn adfail a chofio'r lle yn ei ogoniant a gwas a morwyn yno. (Lle da i fynd i glapio!) Ymlaen a ni ac aros ger pen l么n y Fflat, l么n fudr i mi ac mae hi ddigon budr o hyd, ran hynny. Pasio pen l么n capel a dwad at yr efail a bron na chlywn i dinc yr engan. Syllu yn sobor ar Llwybr Main sydd wedi cau hefo drain a mieri, (dim digon o le i lygoden fynd ar ei hyd!) Cofio rhedeg ar ei hyd i chwarae tic yn Rhosffynnon a hel berw dwr o'r ffos fechan ar ochr y llwybr ac wrth gwrs, gwneud cwpan hefo'n llaw i gael diod o'r ffynnon.

Gweld y Parc yn ddilewyrch iawn a chofio gardd Bryn Brochon, efo'r coed cwsberis, yr afalau a'r gerllyg a'r holl lysiau. Aros ger y Lleiniau a mynd allan o'r car am sbec bach. Gweld y pwmp o flaen ffenast y cefn ac edrych i mewn i'r ystafell fyw a gweld cwpwrdd gwydr yno. Cofio mai o'r cwpwrdd hwnnw y cawn fenthyg llyfrau fel The Big Book for Girls, What Katy did at school, Rhys Lewis, Gwen Tomos ac Enoc Huws. Cofio cael benthyg Taith y Pererin a meddwl ei fod yn llyfr sych, ond rwyf wedi ei ddarllen wedyn a chael blas arno (ifanc a gwirion ynte.)

Edrych trwy ffenast y gegin fach a dychmygu gweld Nansi yn ei phrysurdeb yn coginio, neu yn eistedd yn y gadair freichiau o flaen tanllwyth o d芒n. Gadael yn bur sydyn hefo deigryn yn fy llygaid wrth gofio Siop y Lleiniau yn ei bri a Dic, yr hen geffyl yn pori yn y cae.

Cyrraedd yr Eglwys a mynd tros y gamfa (na, nid drwy'r giat!) i'r cowt. Mynd at y gamfa arall yn y pen draw gan ddisgwyl gweld y llwybr oedd yn arwain i'r Comins ond aeth hwnnw i blith yr hyn a fu, fel Llwybr Main. Gweld y Bonc Fawr a meddwl am Chwalar Tylwyth Teg, ond gwneud dim mwy na meddwl, er y buaswn wedi lecio mynd yno. ('Those were the days!') Chwilio am Robin, pen gyrnu, ond dim lwc, felly tros y gamfa eto ac yn 么l i'r car.

Sm么c bach slei!
Yna Megan yn s么n am y giat fochyn a'r llwybr yn mynd ar draws cae y Rhyd at Tyn Ffordd. Tebyg fod y bombren i groesi'r afon yno o hyd, ond ddaru ni ddim mentro mynd i weld. Dwi wedi galw'r sgw芒r yn anfarwol yn y penillion "Crwydro'r Talwrn", ond, i mi dydi o ddim hanner mor anfarwol rwan. Mae'r pedair croeslon yno wrth gwrs ond mae'r hen flwch teliffon coch wedi diflannu. Doedd Siop y Rhyd gynt ddim hanner mor atyniadol ag oedd pan fyddai'r ffenast yn llawn o bob math o bethau da, fel licis b么l, eis cr卯m a baco cogio a Sherbert melyn neis.

Cofio'r peiriant sigarennau ar y pared ger y ffenast a cofio rhai ohonom yn rhoi dwy geiniog o'n harian prin ynodd i gael paced pump o Wdbin a mynd at gi芒t Gwenllian am sm么c bach slei! (Na, smociais i byth wedyn!)

Ydi, mae'r l么n o'r sgw芒r at Tyn L么n wedi newid llawer, ond mae'r hen enwau ar y tai yn aros o hyd. Mae'r pentra wedi tyfu a llawer o bobl ddiarth wedi symud yno, ond deallaf fod y gymdogaeth dda yn aros o hyd. Dyna sy'n bwysig ynte, pobol ac nid pethau.

Mi gafodd Megan a finnau bnawn difyr yn hel atgofion. Tebyg y bydd llawer ohonoch, wrth ddarllen hwn, yn cofio eich milltir sgw芒r chwithau, a hwyrach yn mwynhau edrych yn 么l. Na, nid ywn hawdd mynd yn 么l, ond diolch i rai fel Joan a Tecwyn a Megan am roi prociad i fy nghof a chodi'r awydd am grwydro hen lwybrau bro fy mebyd.

Mary Evans


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人论坛 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy