|
|
|
Yr Awyr Agored Gyda'n milltiroedd o arfordir prydferth, ein mynyddoedd mawreddog gyda'u hafonnydd, dyffrynnoedd a'u llynnoedd, lle gwell i fynd allan i ystwytho'r cyhyrau a mwynhau'r awyr iach. Cofiwch ddweud wrthym am unryw wefannau eraill. |
|
|
|
http://www.activity.visitwales.com
Cangen o Fwrdd Croeso Cymru sy'n hybu beicio, pysgota, garddio, cerdded a golff. Mae'n rhoi manylion llefydd aros, tywyswyr ar gyfer teithiau, clybiau a sut i logi offer. Mae yma hefyd fapiau a chysylltiadau ar gyfer ymwelwyr, ond fe fyddai hyd yn oed yn well pe bai'n cynnwys gwybodaeth fanwl am bob gweithgaredd.
http://www.pyb.co.uk/
Mae'n debyg mai Plas y Brenin ydy canolfan gweithgareddau awyr agored enwocaf Cymru a hon ydy ein Canolfan Fynydda Genedlaethol. Mae ganddi enw da am ei chyfleusterau rhagorol, sy'n cynnwys llethr sg茂o sych, waliau dringo a phwll can诺io yn ogystal a'r adnoddau naturiol sydd ar garreg y drws yn Eryri. Ceir holl fanylion y cyrsiau cerdded, dringo, mynydda, kayak, can诺io, sg茂o, cymorth cyntaf, adeiladu timau a gweithgareddau amrywiol i bobl o bob oed a gallu ar y wefan.
http://www.thebmc.co.uk/
Dyma wefan y corff Prydeinig ar gyfer dringwyr a mynyddwyr ac mae'n cynnwys popeth o ddringo waliau a chystadlaethau i'r newyddion diweddaraf o bedwar ban byd. Mae adran i ddringwyr ifanc hefyd. Mae'n cynnwys manylion clybiau a llefydd i aros, cronfa ddata o greigiau dringo, adroddiadau am offer a rhestr o ddigwyddiadau a chyhoeddiadau. Digon i ddiddori'r dringwyr mwyaf profiadol yn eich mysg.
http://www.ukclimbing.com/
Adnodd gwych i ddringwyr profiadol lle gallwch chi chwilio am greigiau a waliau dringo, dewis pwnc trafod ar y negesfwrdd, a gweld rhestr o lyfrau, siopau, offer a chanolfannau, yn ogystal 芒 llefydd i werthu neu gyfnewid offer neu drefnu cyfarfodydd neu rannu lifft. Gyda hyn i gyd yn digwydd ar y safle, prin fod rheswm i fynd allan i'r byd mawr!
http://members.lycos.co.uk/Carneddau/
Gwefan wedi'i chreu gan athro o'r Rhyl, Keith Jones ydy hon. Mae'n rhannu ei gariad at fynyddoedd y Carneddau yng ngogledd Eryri. Mae yma lwybrau manwl ar gyfer cerddwyr a lluniau a chysylltiadau defnyddiol.
http://myweb.tiscali.co.uk/celynog/
Os oes ganddoch chi ddiddordeb mewn henebion ac mewn cerdded, cymerwch olwg ar y wefan ddifyr yma sy'n disgrifio llwybrau sy'n ymweld 芒 chyfoeth o safleoedd megalithig drwy Brydain. Mae digonedd o lefydd yng ngogledd orllewin Cymru i ymweld 芒 nhw a cheir lluniau o gromlechi, siambrau claddu a chylchoedd cerrig ar y wefan.
http://www.ogwen-rescue.org.uk/
Tra'n gobeithio na fydd gennych chi fyth reswm i gysylltu 芒 nhw, mae yna lawer iawn o wybodaeth ddiddorol am y mudiad gwirfoddol allweddol yma ar y safle. Ac, os ydych chi'n ddigon dewr, fe allwch chi ymuno 芒'r t卯m. Mae yma fapiau a lluniau o'r ardal a chysylltiad 芒'r gr诺p sy'n helpu'r t卯m drwy godi arian.
http://www.llanberismountainrescue.co.uk
Safle deniadol iawn a chwbl ddwyiethiog sydd wedi ei gysodi'n dda ac sy'n cynnwys cyngor gwych am ddiogelwch ar y mynydd. Mae hefyd yn cynnwys golygfa o hofrennydd achub y Llu Awyr na fyddech chi fyth am ei weld, ac sy'n gwneud ichi feddwl ddwywaith am fentro i'r mynyddoedd. Ceir manylion rhai o'r damweiniau mae'r t卯m wedi gorfod delio 芒 nhw hefyd.
http://www.sustrans.org.uk/
Mae gwefan yr elusen ar gyfer cludiant cynaladwy yn cynnwys mapiau a manylion llwybrau beicio eraill drwy Brydain, gan gynnwys L么n Las Cymru.
http://www.mtbwales.co.uk/
Manylion llwybrau beicio yn y gogledd orllewin, gan gynnwys pa mor hir a pha mor anodd ydyn nhw a sut i'w cyrraedd. Mae'n cyfeirio'n bennaf at lwybrau'r Wyddfa a Choed y Brenin, ond mae hefyd yn adolygu offer ac yn rhoi rhagolygon y tywydd.
http://www.parcnet.com/
Safle syml sy'n cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol i feicwyr mynydd sydd am ddefnyddio llwybrau Coed y Brenin ger Dolgellau. Fe gewch hyd i lefydd i aros, llwybrau beicio, canllawiau a manylion siopau sy'n gwerthu neu logi beiciau.
http://www.conwyctc.fsnet.co.uk
Mae safle'r CTC yn llawn newyddion ac erthyglau yngl欧n 芒 beicio yng ngogledd Cymru, gan gynnwys llwybrau ar gyfer teithiau beic cylchol, brasluniau o'r daith a lluniau difyr o wahanol ddigwyddiadau. Awgrymwyd gan Maurice Clarke
http://www.southsnowdonia-mountain-rescue.org.uk
Mae tudalen gartref y wefan ddeniadol yma yn eich arwain at hanner dwsin o dudalennau sy'n rhoi gwybodaeth eglur am y gwirfoddolwyr sy'n aelodau o'r t卯m chwilio ac achub yn ardal Trawsfynydd. Popeth sydd arnoch chi eisiau ei wybod ar ffurf syml a deniadol. Awgrymwyd gan David Griffiths, Blaenau Ffestiniog.
http://www.ramblers.org.uk/wales/wales.html
Adran ar gyfer Cymru ar wefan Cymdeithas y Ramblers ydy'r dudalen hon. Mae'n rhoi pwynt cyswllt i dorreth o wybodaeth ddefnyddiol, gan gynnwys manylion cymdeithasau cerdded lleol y gallwch chi ymuno 芒 nhw.
Am ragor o wefannau'r Awyr Agored cliciwch ymaAm wefannau Cerdded cliciwch yma.
Dyw'r 成人论坛 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.
|
|
|
|
|