Yn eu plith, mae llythyr wedi'i ysgrifennu gan hen ewythr iddo o faes y gad yn ystod y Rhyfel Cartref a holltodd America yn ddwy rhwng 1861 ac 1865.Un o F么n oedd Owen R Jones yn wreiddiol ac ysgrifennodd y llythyr yn 1863 tra roedd yn ymladd ger Chattanooga, Tennesee; lleoliad un o frwydrau mwyaf cyfnod canol y rhyfel. Ar ochr y Gogleddwyr, oedd yn gwrthwynebu caethwasiaeth, yr ymladdai Owen R, fel llawer o Gymry eraill America, a Chymraeg oedd iaith ei ohebiaeth. Fe'i ganed yn Aberffraw, yn 1835 ond fe ymfudodd i America yn 1855. Dilynai yn 么l troed ei frawd, William R Jones, oedd wedi hwylio i'r Unol Daleithiau ddwy flynedd ynghynt ac ymsefydlu yn Judson, Minnesota, lle roedd yn weinidog. Ato fo a'i deulu mae Owen, aelod 28 oed o 42ain catrawd Illinois, yn ysgrifennu o'r rhyfel. Cyn ymrestru gyda'i ffrindiau yn 1861, roedd wedi bod yn byw yn Minnesota, New Orleans ac Oneida, Illinois, gan weithio hwnt ac yma ar blanhigfeydd a ffermydd. Mae'n amlwg o'i lythyr ei bod yn haws ganddo ysgrifennu am yr Hen Wlad, ei deulu a'i obeithion am y dyfodol nag am erchyllterau'r brwydro.
Darllenwch y llythyr
Er ei fod yn s么n yn y llythyr am adael y fyddin pan fyddai ei gyfnod yn dod i ben ymhen mis, ailymrestru a wnaeth ar 1 Ionawr 1864 ac aeth y brwydro ymlaen am flwyddyn arall. Ond, yn wahanol i dros 620,000 o feibion eraill America, bu Owen R fyw drwy bedair blynedd a hanner o ryfela ac aeth ymlaen i wireddu ei freuddwyd o gael gafael ar 'bisin o dir' wedi gadael y fyddin. Aeth yn 么l i Illinois lle priododd cyn setlo ar fferm yn Kansas a magu teulu mawr. Bu farw yno yn Barrett yn 1913 yn 78 oed. Er mai Cymraeg gloyw oedd ar wefusau Owen R, roedd yr iaith wedi ei cholli o fewn cenhedlaeth. Pan ddaeth ar ymweliad 芒 Chymru yn 1909 gyda'i fab, Jacob O Jones, yn Saesneg y cofnoda Jacob ei argraffiadau o fro a gwlad enedigol ei dad mewn dyddiadur difyr tu hwnt.Tra'n bwrw'r Sul yn Niwbwrch, ysgrifenna: "The most of them talk Welsh here. I would die of lonesomeness if it were not for Fred and Annie. Even my own father talks Welsh to me half the time now,"!
.
|