Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi creu arddangosfa ym Mhlas Newydd ar Ynys M么n i ddathlu cysylltiad y t欧 a'r ysgol hyfforddi llongwyr.
Meddai Gwenno Griffith, swyddog dysgu a chymunedol y Plas; "Byddai ymwelwyr yn dod yma ac yn deall fod yna gysylltiad gyda'r HMS Conway. Ond roeddem yn teimlo nad oedd dim yn adrodd y stori, er ei bod wedi chwarae rhan fawr yn hanes y t欧.
"Rydym felly wedi gosod paneli ddehongli yn y siop goffi, hen gant卯n yr ysgol, ac wedi ei ail-enwi yn HMS Conway, ac wedi creu wal atgofion lle mae croeso i'r cyn-gadetiaid rannu eu hanesion nhw o fywyd yn yr ysgol."
Roedd yr HMS Conway wedi ei lleoli yn y Merswy cyn cael ei symud i ddiwedd pier Bangor yn 1941, oherwydd peryglon y rhyfel. Wrth i'r niferoedd o gadetiaid gynyddu, roedd yr ysgol angen rhagor o le ar y lan a chytunodd y Marcwis iddynt gael defnyddio rhan o Blas Newydd fel llety i'r bechgyn.
Cafodd y llong felly ei symud i fyny'r Fenai i borthladd bach Plas Newydd. Ond yn 1953, aeth y llong yn sownd yng ngwaelod y Fenai cyn cael ei llosgi mewn t芒n, ac roedd yn rhaid cynnal y gwersi ym Mhlas Newydd - ac mewn gwersyll o gabannau ar dir y maes parcio heddiw.
Yn 1964 symudodd rhan o'r ysgol i'r Ganolfan Conway. Fe gaewyd yr ysgol yn 1974. Heddiw, mae'r adeilad yma yn ganolfan breswyl i blant o Sir Gaer.
Dyma rai o'r cadetiaid yn rhannu eu hatgofion o fywyd fel bechgyn HMS Conway.
|