Elfed Roberts o Perth, Awstralia
Roeddwn i yn gad茅t yn HMS Conway rhwng 1951 a 1953.
Roedd y rhan fwyaf o hogiau ein pentref, Abersoch, eisiau mynd i'r m么r ac mi ges i'r ysgoloriaeth gyntaf gan Sir Gaernarfon.
Nid oeddwn wedi teithio'n bell o Ben Ll欧n cyn mynd i HMS Conway ar y Fenai, ac mi roedd hi'n ddigon rhyfedd a dweud y gwir. Ysgol i'r Saeson oedd hi. Er bod yna fechgyn o dros y byd yn dod yno - Hong Kong, Bermuda, America, Awstralia - Saesneg oedd yr iaith. Roedd yna ryw deuddeg o Gymry lleol yna, ond nid oeddent yn hoffi i ni siarad Cymraeg efo'n gilydd.
Roedd o hefyd yn anodd gadael Ysgol Botwnog, lle byddem yn chwarae lot o b锚l-droed, i HMS Conway oedd, heb ots, yn un rygbi.
Dwi'n cofio Swyddog Brooke-Smith. Roedd pawb wrth eu bodd efo fo - dyn da iawn. Byse fo byth yn cyffroi am ddim byd! Dwi'n cofio mynd i fyny mast am y tro cyntaf a dyna fo'n sefyll hanner ffordd i fyny yn ei iwnifform, ei gap a'i sbectol, yn gafael 'mlaen efo un llaw a helpu'r bechgyn rigin gyda'r llaw arall. Rhyw ugain troedfedd o'r dec, heb raff diogelwch!
Roedd llawer iawn o'i deulu wedi bod ar y m么r, ac wedi bod ar yr HMS Conway hefyd. Mae yna stori ohono fo'n dringo'r mast ac yn darganfod enw ei frawd, wedi torri 'mewn i'r pren gyda chyllell. Roedd 'na lawer iawn o barch ato - boi da iawn.
Roeddwn ar y llong pan aeth yn sownd yng ngwaelod y Fenai yn 1953. Roeddwn yn helpu gweithio'r rhaffau rhwng y llong a'r cychod tynnu. Gan nad oedd gan yr hen long injan, roedd rhaid ei thynnu o Blas Newydd i lawr i Fangor i'w thrwsio.
Mae'r llanw yn gryf yn y Fenai wrth gwrs, ac roedd rhaid dewis yr amser iawn i fynd a'r HMS Conway i lawr rhwng y ddwy bont. Mi ddaru ni aros am ddeng munud nes i'r llanw gyrraedd yr uchder cywir cyn ei symud hi, ond hanner ffordd rhwng y pontydd, yn rhai o'r dyfroedd mwyaf peryglus, ddaru'r llanw newid heb rybudd. Nid oedd yna ddigon o b诺er yn y badau tynnu i dynnu'r llong oddi ar y tywod. Fel i'r llanw gryfhau, aeth y llong yn fwy styc.
Dim ond rhan o'r llong oedd yn sownd - roedd y cefn yn rhydd, a phan aeth y llanw i lawr, nid oedd dim i'w chynnal a thorrodd ei chefn. Hen long oedd y Conway, a doedd dim modd ei hachub ar 么l iddi dorri ei chefn a llenwi gyda d诺r.
Roedd yn dipyn o brosiect tynnu pethau o'r llong - ddaru ni gario ffeiliau a phapurau o'r swyddfa a'r dosbarthiadau i fyny trwy'r coed ar ochr Caernarfon.
Ddaru ni'r bechgyn fynd adref am y tymor wedyn, a dyna ni'n dod 'nol a gorfod aros mewn pebyll ar dir Plas Newydd!
Roedd yn deimlad rhyfedd dod 'n么l heb y llong, er roedd gennym ni'r bloc yn y stablau yma ym Mhlas Newydd i gynnal gwersi.
Yna, rhai misoedd wedyn, aeth y llong, oedd dal i fod yn sownd yng ngwaelod y Fenai, ar dan. Pwy sy'n gwybod sut aeth ar d芒n; nid yw neb yn si诺r hyd heddiw.
Ar 么l gadael, mi es i'r m么r fel prentis cyn eistedd fy nhicedi yn Lerpwl a mynd i Awstralia i weithio fel peilot llongau, a dwi dal ym Mherth hyd heddiw.
Mi wnes i ddod draw i Ben Llyn ar fy ngwyliau a digwydd gweld yn y papur bod yna arddangosfa newydd am y Conway ym Mhlas Newydd a dwi wedi mwynhau dod yn 么l. 'Doedd o ddim yn amser hollol hapus bod yma fel bachgen, ond mae pawb yn edrych yn 么l ar ddyddiau ysgol ac yn gweld nhw'n well. Ac mae yna 'Old Conways' ledled y byd - dwi'n aelod y gr诺p yn Awstralia. Mae'r perthynas efo'r hen ysgol wastad yn un cryf.
Mwy o atgofion gan Mervyn Thomas.