Myrfin Thomas o Landrillo-yn-Rhos
Roeddwn yn gad茅t ar yr HMS Conway rhwng 1958 a 1961. Roeddwn yn 14 pan wnes i gychwyn, ar 么l ennill ysgoloriaeth o ysgol Ramadeg Friars.
Mi wnes i aros yma ym Mhlas Newydd am y tymor cyntaf, gyda chant o'r bechgyn eraill, cyn symud allan i'r cabannau gyda'r ddau gant o gad茅ts h欧n.
Dwi'n cofio cael fy enw yn y llyfr cosbau am 'gusanu yn y dosbarth', sy'n swnio fel fy mod i wedi cusanu un o'r cadetiaid eraill! Beth oedd wedi digwydd go iawn yw fy mod i wedi mynd a merch o'r ddawns i ddosbarth wag i roi cusan diwedd nos iddi, ond mi gafon ni ein dal gan un o'r prefects. Ddaru o jest sgwennu'r trosedd i lawr yn y llyfr y ffordd anghywir!
Fel bechgyn yn ein arddegau cynnar, roedd yr hormonau yn gryf! Byddai rhai ohonom yn rhwyfo draw i Bortdinorwic i n么l yr athrawon yn y bore. Weithiau, byddem yn amseru'r croesi pan fo'r llanw yn mynd i lawr, ac felly'n mynd yn sownd yn y tywod. Byddai'n rhaid i ni wedyn aros yng Nghaffi'r Orme ar ddiwedd y jeti nes i'r d诺r codi eto - a dyna le fyddai'r merched lleol yn cyfarfod hefyd!
Roedd y cadetiaid i gyd yn perthyn i'r Llynges Frenhinol wrth gefn, ac felly roedd y disgyblaeth yn reit galed! Byddem yn cael chwech neu deuddeg chwip ar y pen 么l gyda rhaff am gamfihafio - gan yr athrawon neu'r cadetiaid h欧n.
Mi fyddai'r adran weithredol, sef swyddogion y llynges, yn dysgu astudiaethau morwrol i ni, a'r adran academaidd yn dysgu pethau fel mathemateg a gwyddoniaeth, hyd at safon lefel A. Er, roedd rhai yn dweud bod cadetiaid yn Conway yn gwneud morwyr gwych, ond ddim yn rhyw lawer o academyddion!
Ond yn dweud hynny, roedd y poet loauriete, John Masefield yn hen foi Conway, yn ogystal 芒 Iain Duncan Smith, cyn-arweinydd y Ceidwadwyr, a Clive Woodward, cyn-hyfforddwr t卯m rygbi Lloegr.
Mae cyn-cadet o'r Conway wedi bod yn gapten ar bob leiner i groesi'r Iwerydd, heblaw am y Titanic - sy'n dweud rhywbeth!
Byddent yn anfon merched draw o Ysgol St Winifred ac Ysgol Ramadeg Bangor pob nos Wener i ddawnsio. Roedd yn rhaid i ni, fel swyddogion y dyfodol, dysgu sut i ddawnsio, defnyddio'r cyllell a ffyrc cywir a chael moesau da.
Dwi'n cofio llwyddo cael fy enw yn y llyfr cosbau o dan y teitl, 'wedi cael ei ddal yn cusanu yn y dosbarth', sy'n swnio fel fy mod i wedi bod yn cusanu bachgen arall!
Y gwir yw, mi ges i fy nal gan ddau prefect yn rhoi cusan nos da i hogan mewn dosbarth gwag ar 么l y ddawns. Ddaru nhw jest sgwennu o lawr yn anghywir!
Dwi'n cofio hefyd ni'r bechgyn yn gorfod rhwyfo draw i Bortdinorwic i ddol yr athrawon oedd yn byw ar ochr ar y Fenai. Weithiau, byddem yn aros 'chydag nes i'r llanw dechrau mynd lawr; byddai'r cwch felly yn mynd yn sownd yn y tywydd. Roedd rhai i ni wedyn mynd i aros am y llanw i godi yng nghaffi'r Orme ar ddiwedd y jeti - lle byddai'r genod yn mynd am ddiod!
Hanes yr HMS Conway