"Fel yn hanes sawl ardal gyffelyb yn Arfon a Meirionnydd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fe ffurfiwyd patrwm bywyd Bethesda gan ddwy elfen rymus: y chwarel a'r capel.
Yn y deunawfed ganrif yr oedd Richard Pennant, Sais o Lerpwl a oedd, erbyn 1765, yn briod ag etifeddes y Penrhyn, Anne Susannah, wedi dod i ffortiwn helaeth ar farwolaeth ei dad yn 1781. Defnyddiodd Pennant ei gyfoeth i ddatblygu Chwarel Cae Braich y Cafn, fel y gelwid Chwarel y Penrhyn ar y dechrau - y chwarel a oedd yn eiddo i'w dad-yng-nghyfraith, Hugh Warburton.
Daeth Pennant yn Arglwydd Penrhyn yn 1783, ac fe ddywedir iddo fuddsoddi cannoedd o filoedd o bunnau yn y fenter enfawr hon, gan gynnwys adeiladu'r 'lein bach' chwe milltir o hyd i gludo'r cynnyrch o'r chwarel i'r cei ym Mangor ac a agorwyd yng Ngorffennaf 1801.
Erbyn hynny yr oedd oddeutu tri chant o weithwyr yn ennill eu bywoliaeth yn y chwarel a'r busnes yn cynyddu'n gyson. At ddiwedd y rhyfel mawr 芒 Ffrainc yn 1815, pan oedd Napoleon ar ei daith olaf i'w alltud ar ynys bellennig Sant Helena wedi'i ddarostyngiad ar Faes Waterloo, yr oedd nifer y gweithwyr ar drothwy'r mil.
Ond nid oes s么n am Fethesda fel pentref a chymdogaeth am ychydig flynyddoedd eto.
Yna yn 1818 fe orffennodd Thomas Telford y l么n bost drwy'r dyffryn fel rhan o'r ffordd newydd i gysylltu Amwythig a Chaergybi, ac fe gynhwysai hyn adeiladu Pont y Pandy, neu Bont Half-way tua'r hanner ffordd rhwng y chwarel a Bangor. Yn fuan dechreuwyd codi tai a bythynnod yma a thraw o bobtu'r ffordd ar gyfer chwarelwyr, a chyn bo hir gapel mawr gan selogion o Annibynwyr a agorwyd yn 1820 a'i alw wrth yr enw ysgrythurol 'Bethesda'.
A chyn pen dim amser daethpwyd i alw'r gymdogaeth gyfan ar enw'r addoldy.
Erbyn hyn yr oedd gweithlu'r chwarel sbel dros fil ac yn cynyddu ar garlam.
Erbyn canol y ganrif credir bod y nifer dros dair mil, a chyrraedd uchafrif o tua 3,200 ym mlynyddoedd mwyaf llewyrchus y diwydiant yn y saith degau.
Ond yna daeth cyfnod o anghydfod diwydiannol ym mlynyddoedd olaf y ganrif: streic a barodd am bron i flwyddyn yn 1896-7, a'r trychineb eithaf dair blynedd yn ddiweddarach, a'r 'Streic Fawr' honno'n parhau hyd 1903. Dywedir bod oddeutu mil a hanner o chwarelwyr wedi gadael yr ardal i weithio ym mhyllau glo Sir Forgannwg a mannau eraill.
Ac fel y dywedwyd lawer o weithiau, ni fu pethau fyth yr un fath wedyn. Ni allent fod. Ymhen deng mlynedd go dda fe ddaeth Rhyfel Mawr 1914-18 i gwblhau'r alanas a'r chwalfa. Fel pobman arall collodd Bethesda ddegau o w欧r
ieuainc ar faes y gad, a'u henwau wedi eu cofnodi hyd heddiw ar y golofn yng nghanol y pentref.
Fe ddaeth blynyddoedd y dau ddegau a'u problemau gwahanol ac ni sylweddolwyd breuddwyd y prif weinidog o Gymro am greu cymdeithas deilwng i wroniaid fyw ynddi. Ond chwarae teg i Lloyd George, oni bai am ei weledigaeth a'i ymdrechion ef fel Canghellor y Trysorlys yn llywodraeth Ryddfrydol Herbert Asquith, beth mewn difrif a fyddai wedi dod o filoedd o deuluoedd yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel, blynyddoedd llwm y cyni a'r caledi? Dyma'r pryd y casglwyd cannoedd o bunnau yn eglwysi Cymru i liniaru'r adfyd yn yr ardaloedd glofaol, ac fe wnaeth eglwys Bethesda eu rhan yn anrhydeddus ar waethaf y prinder a'r tlodi - oblegid dyma'r union amser yr oedd perchenogion chwareli llechi Gogledd Cymru yn pwyso ar i'r gweithwyr gytuno i ostyngiad sylweddol yn eu cyflogau."
O gyfrol Emlyn Evans 'O'r niwl a'r anialwch: Cynnyrch chwarter canrif', Gwasg Gee, 1991.
Dylanwad arweinwyr y capeli...