Parh芒d o ddetholiad o gyfrol Emlyn Evans, 'O'r niwl a'r anialwch: cynnyrch chwarter canrif'
"Ond beth am sefydlu'r capel? Rhaid s么n yn gyntaf am Eglwys y Plwyf yn Llanllechid, filltir o ganol pentref Bethesda ar ochr Llandegai a Bangor. Y mae hanes yr eglwys hon yn mynd yn 么l rai canrifoedd. Y rheithor cyntaf y cofnodir ei enw oedd Huw Powel yn 1542, ac yn y rhestr faith o glerigwyr a fu'n gwasanaethu yma, fe ddylid nodi'r g诺r saith ar hugain oed, Evan Evans, neu 'Ieuan Brydydd Hir', a ddaeth yn gurad i'r plwyf yn 1758. (Dim ond am brin flwyddyn yr arhosodd - nid arhosai ef fawr fwy yn unman!)
Cyfrifir Ioan fel ysgolhaig Cymraeg mwyaf ei gyfnod a chanddo wybodaeth enfawr am gynnwys yr hen lawysgrifau. Ond fe'i cofir heddiw fel awdur y gyfres o englynion clasurol i 'Lys Ifor Hael' sydd yn cynnwys cwpledi enwog megis y rhain:
'Y llwybrau gynt lle bu'r g芒n
Yw lleoedd y dylluan.
Drain ac ysgall mall a'i medd,
Mieri lle bu mawredd.'
Dylid nodi hefyd fod traddodiad go arbennig o ganu eglwysig wedi tyfu yn Eglwys Llanllechid o ddiwedd y ddeunawfed ganrif ymlaen, a bu Mr. Gladstone yno ddwywaith o leiaf (1861 ac 1862); 'where the singing was noble and moving in the highest degree'.
Diau mai i ymroad a brwdfrydedd y Parch. Owen Davies (Eos Llechid) yr oedd hyn i'w briodoli. Yn 1848 penodwyd ef yn arweinydd y g芒n, swydd a ddaliodd am ugain mlynedd. Bu'n fugail ac yn chwarelwr am flynyddoedd cyn cymryd urddau eglwysig, ac er na chafodd ddiwrnod o addysg ffurfiol, daeth yn gyfansoddwr anthemau ac yn arweinydd y Church Choral Society. Fe'i cofir gennym ni bellach fel awdur y garol hyfryd 'Ar gyfer heddiw'r bore'.
Adlewyrchir cynnydd mawr yng ngweithlu'r chwarel yn hanner cyntaf y ganrif fel y disgwylid yn y cynnydd mewn aelodaeth eglwysig. Yn 1828 adeiladwyd capel newydd yn Y Carneddi, gyda chroglofft, ac fe'i goleuid 芒 chanhwyllau gw锚r. Yn 1841, yr oedd yna 108 o athrawon yn yr Ysgol Sul, 20 o athrawesau, a 705 o ddisgyblion! Nid rhyfedd bod angen adeiladu capel arall, Jerusalem (a agorwyd yn 1842); cyn diwedd y chwedegau yr oedd amryw byd o addoldai eraill. O bob enwad wedi'u codi yn y fro a chapel Y Carneddi yn 1868 wedi'i adnewyddu eto fyth, i'w ffurf bresennol.
Erbyn tua 1840 yr oedd poblogaeth y ddau blwyf, Llanllechid a Llandeg谩i, wedi cynyddu i oddeutu wyth mil, ac ymhen deugain mlynedd arall fe gyrhaeddodd ei frig o ddeuddeng mil. Erbyn 1880, o fewn cylch o ryw ddwy filltir o ganol y pentref - dyweder o'r fan y safai (ac y saif) capel mawr yr Annibynwyr, 'Bethesda' - mae'n ymddangos fod cynifer 芒 29 o eglwysi a chapeli, wyth o glerigwyr a phymtheg o weinidogion ymneilltuol.
Y mae'n rhaid enwi un g诺r nodedig mewn perthynas 芒 thraddodiad cerddorol Dyffryn Ogwen. Bymtheng mlynedd wedi marwolaeth Alawydd, penodwyd R. S. Hughes yn organydd a ch么r-feistr capel yr Annibynwyr 'Bethesda', ac yr oedd yn drychineb fod y cerddor a'r pianydd athrylithgar hwn, a gyfrifir fel c芒n-gyfansoddwr galluocaf ein cenedl, wedi'i golli, megis Mendelssohn hanner canrif o'i flaen, yn 38 oed yn 1893. Pa faint rhagor o ganeuon o safon 'Arafa Don', Y Dymestl' a 'Llam y Cariadau' a fyddai wedi eu cyfansoddi petai wedi cael byw am chwarter canrif arall?
Er mai ym myd cerddoriaeth y rhagorodd yr ardal yn y cyfnod a drafodwyd a daeth bri mawr yn sicr ar gyngherddau mawreddog (a ddenai ddatgeiniaid gorau'r wlad i ddifyrru'r torfeydd), cymanfaoedd canu ac eisteddfodau lleol - eto, rhaid peidio 芒 chreu'r argraff mai dyma'r unig fath o ddiwylliant a ffynnai yma. Dim o gwbl. Yr oedd efrydu pynciau eraill hefyd yn blodeuo ochr-yn-ochr a 'byd y g芒n'. Meddylier, er enghraifft, am weinidog capel (M.C.) Y Gerlan, y Parch. John Mostyn Jones, yn wyth degau'r ganrif yn cynnal dosbarthiadau yn ystod misoedd y gaeaf i astudio gweithiau megis Athrawiaeth yr Iawn Dr. Lewis Edwards, Logic yr Athro W. S. Jevons, a The Analogy of Religion yr Esgob Joseph Butler.
Aeth y gweinidog diwyd ati i fathu termau Cymraeg a chyfieithu rhannau helaeth o'r testunau ar gyfer Cymry uniaith y dosbarth. A bu mor egn茂ol a brwdfrydig i fynychu dosbarthiadau'r Athro Henry Jones ar Athroniaeth, ar 么l agor Coleg y Brifysgol ym Mangor yn 1884, er mwyn trosglwyddo'i wybodaeth o'r pwnc astrus hwnnw i rai o chwarelwyr ardal Bethesda.
Y gwir yw, wrth gwrs, mai'r gweinidogion oedd 'arweinwyr' yr ardal mewn ystyr eang a chyffredinol. Yr oedd eu dylanwad yn holldreiddiol ym mhopeth ym myd y meddwl."
N么l i'r dudalen gyntaf: twf y chwarel