Wrth weithio ar lwybr eglwys Llanaelhaearn, mi ddaru'r gweithwyr ddod ar draws lot o esgyrn. Roedd yn rhaid dweud wrth yr heddlu, ond ddaru nhw ddarganfod bod yr esgyrn yn rhai hen iawn.
I gyd 'da ni'n wybod yw esgyrn hen ddynes a hogyn ifanc ydyn nhw. Roedd eglwys Llanaelhaearn yn bwysig ar lwybr pererindod gan fod Aelhaearn yn ddisgybl i Feuno, ac mae yna ffynnon sanctaidd yma hefyd. Felly rydym yn meddwl mai pererinion oedd y rhain.
Nid ydym yn gwybod llawer mwy, ond mae gennym ni un awgrym. Roedd yn bwysig yn y Canol Oesoedd i gladdu cyrff mor agos i wal yr eglwys ac oedd yn bosib. Yn 1622, ddaru nhw adeiladu'r transept newydd o dan un o ffenestri'r eglwys, ac felly efallai bod rhaid iddynt symud esgyrn rhai o'r pererinion o du fewn i'r eglwys, i'r tu allan. Felly un awgrym yw bod yr esgyrn yn hun na 1622, ond nid oes gennym ni'r arian i wneud ragor o brofion i ddarganfod mwy.
Rydym felly wedi penderfynu ail-gladdu'r esgyrn yn fynwent yr eglwys, heb fod ym mhell o le gawsant eu darganfod. Mae'r adeiladwyr wedi creu arch iddyn nhw ac mi fydd yna groes bren dros y bedd, yn y dyfodol agos.
Mae pererinion dal i ddod yma, i weld y sgrin rhwd a'r garreg o'r chweched ganrif, gydag 'yma gorwedd Aliortous' wedi ei ysgrifennu arni. Nid ydym yn si诺r pwy oedd Aliortous, 'mond fod o'n dod o Elmet, ger Leeds. Efallai bod o ar bererindod hefyd.
Mwy am bererindod Pen Ll欧n.
|