Diben y ddwy bererindod ym Mhen Ll欧n yw cyrraedd Ynys Enlli, ynys yr ugain mil o saint, sydd wedi bod yn ganolfan ysbrydol ers canrifoedd. Mae'r ddau lwybr yn cychwyn mewn dwy o eglwysi pwysicaf yr ardal - hen fynachdai Clynnog Fawr a Thywyn.
Ers i'r Cristnogion cynnar ddianc i'r Aifft i gael llonydd i addoli Duw, lledaenodd y traddodiad o agor canolfannau i addoli mewn heddwch, i Rufain, Ffrainc ac yna i Brydain. Oherwydd y traddodiad yma, gadawodd Sant Cadfan ei eglwys yn Nhywyn a theithio am yr ynys a welai ar y gorwel - Ynys Enlli - er mwyn sefydlu mynachdy yno.
Rydym wedi gweld cynnydd yn niferoedd y pererinion yn ddiweddar, yn enwedig o America. Mae'n bosib gyrru o un lle i'r nesaf erbyn hyn wrth gwrs, ond mae rhai dal yn cymryd wythnos i ffwrdd o'r gwaith i ddilyn un llwybr neu'r llall. Ond r诺an maen nhw'n gallu aros mewn gwesty moethus a chael G'n'T bach ar ddiwedd y dydd yn lle gwersylla mewn cae ger yr eglwys fel yr hen ddyddiau!
Llwybr y gogledd
Dyma lwybr pererindod fwyaf poblogaidd Pen Ll欧n. Mae'n cychwyn yng Nghlynnog Fawr ac yn mynd ymlaen i Bistyll, Nefyn, Edern, Tudweiliog, Llangwnadl ac Aberdaron.
Mae'n anodd gwybod yn union lle'r oedd y llwybrau gwreiddiol ond byddent yn cerdded o eglwys i eglwys,. Roedd hyn am fod y llefydd yma yn lefydd da i orffwys neu oherwydd eu harwyddoc芒d ysbrydol.
Llwybr y de
Mae'r llwybr yma yn anoddach i'w olrhain gan fod aber y Mawddach wedi newid cryn dipyn dros y blynyddoedd. Wrth gychwyn yn Nhywyn, byddai'n rhaid mynd i mewn i'r wlad cyn belled a Ddolgellau er mwyn croesi'r afon ond heddiw, wrth gwrs, gellid croesi dros y Cob.
Yn fras, byddent yn mynd o Dywyn i gyfeiriad Dolgellau, heibio i Abaty Cymer a Llanelltyd. Wedyn i fyny tuag at y Bermo, Dyffryn Ardudwy, Harlech, draw i Abererch ac i lawr i Aberdaron.
Cliciwch isod i ddilyn y ddau lwybr: Llwybr y gogledd
Llwybr y de
Esgyrn pererinion Aelhaearn
|