Bu rhai o ddisgyblion Ysgol y Moelwyn ar daith o amgylch y lleoliadau hynny ac yma, maen nhw'n egluro'r cysylltiadau:Bedd Gronw Pebr
Erbyn heddiw mae llecyn bach oedd yn cael adnabod fel Bedd Gronw Bebr o dan goed.
Mae Mrs Sali Williams, cyn berchennog ty o'r enw Llech Goronwy, yn cofio pan fyddai ei thaid yn lladd gwair hefo pladur mewn caeau ger y ty y byddai yn dweud wrth y gweithwyr am beidio 芒 thorri gwair oedd yn tyfu dros domen fach heb fod yn bell iawn o'r ty; "Achos mai bedd Gronw Bebr ydi o."
Wrth gwrs, nid oes sicrwydd mai yma yr oedd y bedd ond fel llawer o bethau yn y Mabinogi, mae'r stori yma wedi cael ei phasio i lawr o genhedlaeth i genhedlaeth.
Yn anffodus, mae'r codiad tir o'r golwg ac ar goll ymhlith y coed a blannwyd yno erbyn hyn.
Gan Fflur Williams
Bryn Castell a Llyn y Morynion
Yn 么l y chwedl, ffodd Blodeuwedd a'i morynion tuag yno a thr茂o cuddio oddi wrth Gwydion.
Ond gan eu bod yn edrych yn 么l yr holl ffordd fe ddisgynnodd y morynion i mewn i'r llyn a boddi.
Mae'r llyn yn cael ei adnabod fel Llyn Morynion hyd heddiw.
Gan Danial Meredydd
Bryn Saeth
Mae'n bosib i Fryn Saeth gael ei enwi felly am mai oddi yma y taflodd Lleu y waywffon yn yr ardal.
Yn wir, wrth ymyl y fferm yma y darganfyddwyd y llechen gyda thwll ynddi. Mae rhai yn credu mai'r waywffon a dorrodd y twll wrth fynd drwy'r maen.
Pan oedd Lleu yn ei fygwth gofynnodd Gronw am gael dal y maen rhyngddo ef a'r ergyd gan feddwl amddiffyn ei hun.
Ond aeth y waywffon drwy'r llechen a'i ladd.
Gan Si么n Tomos
Llech Ronw
Mae'r llech i'w gweld ar draws y cae o d欧 Bryn Saeth wrth Afon Cynfal.
Cafodd y llech, sef maen hir efo twll crwn un pen iddo, ei darganfod gan Geraint Vaughan Jones ac Edgar Williams.
Mae'n ymddangos fod iddigysylltiad 芒'r Mabinogi gyda rhai yn dweud i'r twll crwn gael ei wneud gan y waywffon a daflodd Lleu i ladd Gronw Pebr.
Mae'n debyg i Lleu sefyll a ben Bryn Cyfergyd i daflu'r waywffon at Gronw oedd yn sefyll ar lan yr afon.
Gofynoddd Gronw am gael dal y llechen o'i flaen fel tarian ond aeth gwaywffon Lleu yn syth trwyddi.
Fe all y llech fod yn un ffug ond mae'n rhaid i bob chwedl gael gwreddiau felly, efallai ei bod yn wir!
Mae s么n yn y chwedl am y llech.
"Ac yna y llas (lladdwyd) Gronw Bebr, ac yno y mae llech ar lan Afon Gynfael yn Ardudwy, a'r twll drwyddi. Ac o achos hynny fe'i gelwir yn Llech Gronwy."
Gan Si么n Tomos
Mae tai yng Nghwm Cynfal wedi cael eu henwi ar 么l y stori hon.
Neu, wrth gwrs, mae'r enwau wedi dod o'r stori! Penderfynwch chi!
Mae gan Llech Ronw, (Llech Goronwy) gysylltiad gyda Gronw Pebr ac mae ei fedd o yn y cae reit wrth ochr y t欧 - ar lan Afon Cynfal.
Gan Rosie Young
Sarn Helen
Mae Sarn Helen yn hen ffordd Rufeinig sydd yn cysylltu Caerfyrddin, yn y de, gyda Chaerhun yn y Gogledd.
Roedd hi yn rhedeg drwy Gaer Rufeinig a Heriri Mons. Erbyn heddiw dyma safle Tomen y Mur.
O Domen y Mur mae'n rhedeg drwy Gwm Cynfal ac mae pob un o'r llefydd a enwir yn chwedl Blodeuwedd yn sefyll arni neu yn ymyl ei llwybr, er enghraifft, Llech Ronw a Bedd Gronw, Bryn Cyfergyd, y gaer yn y mynydd, sef Bryn Castell, a Llyn Morwynion.
Cafodd ei henwi ar 么l Elen Lwyddawg, gwraig Macsen Wledig Magnus Maximus, arweinydd y fyddin Rufeinig ym Mhrydain.
Gan Mared Elfyn.
Tomen y Mur
Mae i Domen y Mur - neu Mur y Castell - le allweddol yn chwedl Blodeuwedd.
Mae Tomen y Mur ar y Graig Wen ac mae'r olygfa yn hyfryd.
Tomen y Mur yw'r enw ar hen safle Mur y Castell, sef cartref Blodeuwedd a Lleu. Adfeilion o'r plas ydi'r domen.
Pan oedd Lleu i ffwrdd yn gweld Math daeth Gronw Pebr o gyfeiriad Penllyn (ardal Y Bala).
Cyfarfu'r ddau mae'n debyg yn agos i ble mae'r domen yn awr.
Tyfodd y berthynas rhwng Gronw a Blodeuwedd ac nid oedd dyfodol bellach i berthynas Lleu a Blodeuwedd a phenderfynodd y ddau ei ladd.
Y bwriad oedd iddynt hwy fyw yn hapus byth wedyn, heb Lleu.
Ond nid felly y bu.
Gan Ellen Thomas
Taith plant Ysgol y Moelwyn i olrhain y chwedl.Chwedl Blodeuwedd.