|
|
|
1. Un tro, amser maith yn 么l roedd tywysoges hardd o'r enw Dwynwen. |
|
2. Roedd hi'n ferch i'r brenin Brychan Brycheiniog a oedd wedi trefnu iddi briodi tywysog pwysig.
|
|
|
3. Ond, roedd Dwynwen mewn cariad dros ei phen 芒'i chlustiau efo tywysog arall o'r enw Maelon Dafodrill.
|
|
|
|
4. Felly, aeth at ei thad i ddweud wrtho nad oedd hi eisiau priodi'r tywysog roedd o wedi ei ddewis. |
|
5. "Does dim ots gen i," meddai ei thad, "mae'n rhaid iti briodi'r tywysog rydw i wedi ei ddewis!"
|
|
|
6. Rhedodd Dwynwen at Maelon yn cr茂o, a dywedodd: "Mae'n rhaid i mi briodi tywysog arall!"
|
|
|
|
7. Pan glywodd Maelon hyn, gwylltiodd yn gacwn a dweud wrthi nad oedd byth eisiau ei gweld hi eto. |
|
8. Torrodd Dwynwen ei chalon yn llwyr. Roedd hi mor drist, aeth i fyw ar ei phen ei hun mewn coedwig.
|
|
|
9. Yn y goedwig, roedd hi'n unig ac yn ddigalon. Gwedd茂odd ar Dduw i'w gwella hi o'i chariad at Maelon
|
|
|
|
10. Yna, un noson tra roedd hi'n cysgu, daeth angel at Dwynwen a rhoi diod arbennig iddi i'w gwella. |
|
11. Dechreuodd Dwynwen freuddwydio. Yn y freuddwyd, mi welodd hi'r angel yn rhoi diod i Maelon hefyd a chafodd ei droi yn dalp o rew.
|
|
|
12. Yna, cafodd Dwynwen dri dymuniad: dadmer Maelon, gwneud cariadon Cymru yn hapus a gwneud yn si诺r na fyddai hi byth eisiau priodi.
|
|
|
|
13. Daeth y tri dymuniad yn wir a phenderfynodd Dwynwen gysegru ei bywyd i wasanaethu Duw ac edrych ar 么l cariadon Cymru. |
|
14. Sefydlodd eglwys ar ynys wrth ymyl Niwbwrch, sy'n cael ei galw heddiw yn Ynys Llanddwyn a daeth yn nawddsant cariadon.
|
|
|
15. Heddiw, mae cariadon yng Nghymru yn dathlu diwrnod Santes Dwynwen ar Ionawr 25, ac yn gyrru cardiau serch i'w gilydd.
|
|
|
|
|
|
|