Cwmni'r Fr芒n Wen oedd 芒'r dasg o roi trefn ar y 250 o blant lleol rhwng 9 ac 11 mlwydd oed oedd yn cymryd rhan - 70 o brif gymeriadau yn ogystal 芒 chorws a dawnswyr gyda rhai o blant ysgol eraill y cylch wedi bod yn helpu i greu'r set a'r props.Cafodd y ddrama ei pherfformio ar nos Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod. Angharad Tomos sy'n egluro sut aeth hi ati i 'sgwennu'r stori.
"Mi ges i sawl dewis o beth i 'sgwennu amdano ar gyfer drama'r plant i Eisteddfod 2005 gan Gwmni'r Fran Wen. Ond o'r rhain, hanes y Faenol oedd y gorau.
"Mae'r stori yn cychwyn efo Wil yn disgwyl am fws ger wal y Faenol yn yr oes yma. Mae'n dechrau meddwl beth fyddai'r hanesion fyddai'r wal yn eu hadrodd pe bai'n gallu siarad. Felly 'dwi'n portreadu hanes St芒d y Faenol o'r 16fed ganrif ymlaen.
"Gai Toms sydd wedi 'sgwennu'r caneuon ar gyfer y ddrama gerdd. Dim ond unwaith dwi wedi cwrdd ag o i drafod Wil wrth y Wal - mi orffennais y sgript cyn y Nadolig. Y cwmni sy'n castio'r plant - yr unig orchymyn oedd i mi greu digon o gymeriadau, gan fod dros 200 o blant yn cymryd rhan. Hefyd, gan fod yn rhaid iddyn nhw ymarfer ar wah芒n, dwi wedi rhannu lot o'r hyn sydd yn digwydd rhwng set y chwarelwyr a set y pobl sy'n gweithio ar y cei, yn allforio'r llechi dros m么r.
"Roedd o hefyd yn bwysig cael cydbwysedd rhwng y bechgyn a'r merched. Gan fod y chwarelwyr i gyd yn fechgyn mi greais olygfa gyda gwragedd y gweithwyr yn golchi dillad.
"Wil ydy'r hoelen ar gyfer y gwaith, mae'n mynd a dod mewn gwahanol gyfnodau trwy gydol y ddrama.
"Mi es i'r archifdy yng Nghaernarfon i ymchwilio i hanes y Faenol. Doedd na ddim diffyg straeon ac roedd yn rhaid i mi ddewis a dethol cyfnodau gwahanol dros y 300 mlynedd.
"Roedd digon o straeon am deulu'r Faenol, yr Assheton Smiths. Roedden nhw mor gyfoethog fel nad oedden nhw'n gwybod beth i'w wneud efo'r holl arian. Roedd ganddyn nhw lyn a chwch ar y st芒d, ac anifeiliaid oedd yn gwneud campau. Felly mae'n ddramatig i ddangos y gwrthdaro rhwng y boneddigion a'r bobl leol oedd yn gorfod dioddef i gynnal eu safon o fyw.
"Dwi'n synnu nad oes neb wedi gwneud ffilm am y chwarelwyr a'r deinamics rhyngddyn nhw a'r teulu mawr. Mae safle'r Faenol mor ddramatig ar lannau'r Fenai, a'r teulu oedd biau Portdinorwig hefyd. Doedd yna fyth middle man - y teulu oedd yn rhedeg y chwareli ac yn trwsio'r trenau oedd yn mynd i'w cei nhw. Roedden nhw'n hollol hunan-gynhaliol.
"Doeddwn i ddim wedi sylweddoli bod teuluoedd fel yr Assheton Smiths wedi cau'r tiroedd comin a gwneud i'r bobl oedd yn byw yno dalu rhent iddynt. Wedyn, mi wnaethon nhw honni mai oherwydd mai nhw oedd berchen y tir, nhw hefyd oedd berchen y llech o dan y tir. Mae lot o rannau o Gymru yn dal yn nwylo pobl gyfoethog, er eu bod yn cuddio'r ffaith erbyn hyn.
"'Dwi erioed wedi bod y tu 么l i waliau'r Faenol felly dwi, fel Wil, yn chwilfrydig am beth sydd y tu 么l iddynt.
"Mi fydd yn ddiddorol gweld y ddrama wedi ei gorffen. Dwi'n reit falch mai 'sgwennu'r sgript oedd fy ngwaith i - bydd yn her i gael y plant i gyd i gydweithio am un noson. Ond dwi'n gobeithio eu bod wedi dysgu rhywfaint am hanes yr ardal.
"Doeddwn i ddim yn si诺r lle i ddod 芒'r stori ddiddorol yma i'w ben - gyda chyngherddau Bryn Terfel yn y Faenol neu gyda'r chwarel yn cau efallai. Ond mi ganfyddais bod na barti mawr wedi bod yn 1914 pan enillodd ceffyl o'r st芒d y Grand National - a bod mam yr Archdderwydd nesaf, Selwyn Griffiths, wedi bod yn y parti yma pan oedd tua 14 mlwydd oed. Felly mae'n gorffen gyda'r Eisteddfod yn dod i'r Faenol yn 2005, a'r bobl yn ailfeddiannu'r tir."