"Mae gwahanol ysgolion wedi bod yn gwneud naill ai props neu ddarn o'r set," meddai Mari Gwent. "Mae Maesincla yn gwneud cwch i bobl grand y Faenol ac mi fydd yn cael ei rhwyfo ar draws y llwyfan. "Rydyn ni wedi cychwyn efo bocs fel ffr芒m wedyn adeiladu planciau pren ac ychwanegu papur newydd, papur brown a lot o lud a lot o lanast! "Mae 'na rai hefyd wedi bod yn gwneud bwyd i'r parti sydd ar ddiwedd y sioe," ychwanegodd. Bydd ffrwyth llafur y plant i'w weld ar nos Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod pan gaiff Wil Wrth y Wal ei berfformio. Yr ysgolion eraill sydd wedi helpu i greu'r set ydy Ysgol Cwm y Glo, Ysgol Pendalar, Ysgol Felinwnda, Ysgol Glancegin ac Ysgol Penisarwaun.
|