Sara Naomi - edrych 'mlaen i'r chweched dosbarth
"Dwi'n meddwl bod 16 oed lot rhy gynnar i adael yr ysgol. 'Dach chi jyst yn dechra dod i arfar efo'r pynciau 'da chi wedi ddewis yn blwyddyn 9 a dwi'n meddwl ddyla chi aros yn yr ysgol ond dydi'r dewisiadau ddim yna weithiau.
"Yn Ysgol Dyffryn Nantlla, ma 'na chweched dosbarth ar y funud a dwi'n gobeithio fydd o'n dal yna erbyn i mi fynd yna. Mae'n anrhydedd bod yn rhan o blwyddyn 13 yn ysgol ni. Gynnon ni 'stafall ein hunan a bob dim a ma'n gret. Dwi 'di bod yn y 'stafall yn barod a ma nw i gyd yn cael hwyl yna!"
Ffion Jones - dosbarth chwech yn well na choleg
"'Dwi'n 'nabod lot, lot o bobl, ma nw di gadael yn lle mynd i'r chweched a ma' nw 'di dewis cwrs ma nw'n meddwl sy' mynd i fod yn hawdd yn y coleg. Wedyn ma' nhw'n cael traffarth - ma nw 'di disgwyl iddo fo fod yn hawdd a wedyn dydyn nhw ddim wedi paratoi i ofyn am help gin bobl erill.
"Wedyn ma nw'n jyst trafferthu a dwi'n meddwl fasa nw 'di cael lot mwy o gymorth a phetha tasa nw 'di aros yn ysgol, yn y chweched. 'Sa nhw 'di fwynhau o fwy. Fasa nw o gwmpas adra' ... a wedyn oes oes gynnoch chi broblem mae'n hawdd mynd at rywun achos 'dach chi'n 'nabod pobl yr ysgolion sir a 'dach chi'n gorfod dod i ailadnabod pobl yn y coleg ma'n siwr yn dydach?"
Llinos Ellis, Llanllyfni - angen defnyddio mwy ar neuadd Llanllyfni
"Does na 'm byd i neud llawar yn Llanllyfni. Mae'r lle yn ddistaw iawn - yr unig beth sy 'na 'di t欧 tafarn, ysgol a neuadd. Unwaith bob tua 4 mis ma' 'na gigia yna a ma' rheina'n ardderchog i bobl ifanc ond does na 'm byd ar wah芒n i hynna i neud yna.
"'Swn i'n licio gweld mwy o weithgaredda yn cael eu 'neud yn y neuadd ella' achos ma' ar gael i bawb ond does na 'm byd 'di cael i 'neud yna. So, [mae angen] neud mwy o iws o'r neuadd ella'.
"Dwi'n gweld hyn yn digwydd mewn lot o bentrefi sy'n agos at Lanllyfni. Ma' 'na lot yn mynd i Penygroes, lle mae na fwy o betha' i 'neud. Ond ma'n broblem i bobl ifanc Llanyllyfni sy'n gorfod symud i lefydd eraill i 'neud petha'. Mae'n anodd i bobl Llanllyfni achos 'da ni'n gorfod gofyn i mam a dad am lifftia' a petha a ma' hynny'n gallu bod yn anodd iddyn nhw."
Charlotte Hawksworth - angen clwb ieuenctid yn Nasareth.
"'S'am byd i neu yna [yn Nasareth] - ma'n lle rili distaw. Ma'n iawn os 'dach chi'n licio petha felna ond, i bobl ifanc, 'sa'm byd yna i neud. Ma 'na dipyn o bobl ifanc [yn Nasareth] ond 'sa'm lle iddyn nw fynd na 'm byd iddyn nw 'neud ar 么l ysgol.
"'S'a nunlla, na neb ddigon parod i neud rwbath hefo nhw. 'Swn i'n licio gweld mwy o glybiau ieuenctid a mwy o betha'n digwydd yn yr ha' weithia'. Weithia dwi'n clywed am betha sy 'di digwydd ond dydyn nhw ddim yn dod yn ddigon aml i ni gael siawns i fynd iddyn nhw a weithia does na'm petha i blant h欧n mond i blant bach."
|