"Roeddwn i efo'r Royal Norfolk Regiment yn ystod y rhyfel, ac wedi paffio yng ngwlad Belg, Ffrainc a'r Almaen. Ddiwrnod ar 么l i'r rhyfel orffen, cefais fy symud i Lunenburg yn yr Almaen lle gafodd y cytundeb heddwch ei arwyddo. Ddaru ni symud i fyw mewn patio ger gwesty mawr yn y ddinas. Y syniad oedd bod o'n HQ i General Dempsey, er na wnaethon ni ei weld o fyth! Doedden ni ddim yn cael mynd i'r ystafelloedd mawr, 'mond i 'gardio' pobl. Ond y giard cyntaf ges i i'w wneud oedd mynd i mewn i stafell fawr ac eistedd wrth y drws. Roedd dynes yn ei gwely efo nyrsys yn tendio arni. Ges i ddim gwybod beth oedd y matar arni, ond ges i wybod pwy oedd hi - gwraig Lord Haw Haw (y sb茂wr William Joyce). Rhyw dri neu bedwar diwrnod wedyn, roeddwn wedi bod ar giard rownd y lle ac yn cael bwyd yn y patio tua pump o'r gloch pan ddaeth un o'r soldiwrs i mewn a gweiddi bod rhywun wedi lladd eu hun yn un o'r stafelloedd. Roedden ni'n meddwl mai un o'n hogiau ni oedd o, ond pwy oedd o ond Heinrich Himmler. Yn 么l y stori, roedd o wedi cerdded i mewn a deud fod ganddo rywbeth pwysig i'w drafod. Doedden nhw ddim yn si诺r pwy oedd o ar y pryd felly aethon nhw 芒 fo mewn i'r stafell interrogation. Roedd dau o'n hogia ni efo nhw yn ei 'gardio' fo. Fel ro'n i'n dallt, dyma fo'n dweud pwy oedd o, ac mai fo oedd in charge o'r Almaen r诺an bod Hitler wedi marw ac roedd o eisiau siarad am y cytundeb heddwch. Daeth doctor i edrych drosto fo - ddaru o sb茂o yn ei geg, ac roedd na wenwyn o dan ei dafod. Ddaru o ei frathu o, a marw o fewn tri munud o flaen pawb yn y stafell. Y diwrnod wedyn, dyma Sergeant Major yn gweiddi 'Come here!' arnon ni. Roedd o am i ni gario corff Himmler i lawr y stepiau i'r fan. Roedd ei gorff wedi dyblu a'i lapio mewn wire netting. Roedd na hogia efo reifflau a Sten guns yn barod 'cofn i'r SS ymosod a tr茂o dwyn ei gorff o. Gafodd neb wybod lle cafodd ei gladdu wedyn." Ymlaen i: Gwarchod Lord Haw Haw a chwarae p锚l-droed efo Alf Ramsay.
|