"Mae nifer o Gymry, ond ddim cymaint o fewnfudwyr, yn gwybod mai 1282 oedd y dyddiad pwysig yng Nghymru, nid yn 1066 fel yn Lloegr. Dyma'r adeg pan fu farw Llywelyn ap Gruffydd ac, yn ddiweddarach ei frawd, a chychwyn cyfnod brenhinoedd Lloegr. Cyn hynny, tywysogion Cymreig oedd yn llywodraethu dros ran helaeth o Gymru.
"Byddai'r tywysogion yn symud o le i le. Roedd un llys brenhinol i bob chwe chwmwd. Roedd y cwmwd yn rhan o'r cantref, sef casgliad o tua chant setliad. Mae yna olion un o lysoedd y tywysogion yn Rhosyr, Aberffraw.
"Byddent yn symud o le i le i arbed cost mawr i un ardal a hefyd i bwysleisio eu hawdurdod wrth fod yno yn gorfforol.
"Yn 1282/3 newidiwyd y canolfannau p诺er i'r cestyll yng Nghaernarfon, Conwy a Biwmares.
"Enghraifft o un o'r ymdrechion cynnar gan y Normaniaid i goncro Cymru yw'r mwnt pridd yn Aberlleiniog.
"Nid oes llawer o olion o'r 14eg ganrif gan ei fod yn gyfnod anodd iawn oherwydd newidiadau yn yr hinsawdd. Bu farw llawer o bobl ac anifeiliaid fferm oherwydd pla a bu diffyg yn y cnydau hefyd. Yna, daeth gwrthryfel Glynd诺r yn 1401.
"Ond yn sydyn tua diwedd y 15fed ganrif dechreuwyd adeiladu unwaith eto a chafodd nifer o eglwysi'r ynys eu newid yr adeg yma.
"Yr hynaf a'r mwyaf diddorol yw Eglwys Penmon. Hefyd, mae bwa dros ddrws eglwys Aberffraw a th诺r ar eglwys Llaneilan sy'n dyddio yn 么l i'r 12fed ganrif.
"Mae cadeirlan Bangor hefyd yn dyddio yn 么l i'r 15fed ganrif a dywedir fod y t诺r gorllewinol yn ddylanwad mawr ar eglwys Clynnog, sydd yn werth ei weld. Am gyfnod, roedd eglwysi Bangor a Chlynnog ochr yn ochr o ran pwysigrwydd ond Bangor a enillodd a Deiniol ddaeth yn brif sant yr ardal.
"Nid oes llawer o dai yn dyddio yn 么l i'r canol oesoedd, heblaw am Hafoty yn Llansadwrn sydd erbyn hyn dan ofal CADW."
|