MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
Chwaraeon Y Tywydd |
||
成人论坛 Homepage Cymru'r Byd Addysg |
||
禄 | Y Twr Y Dramodydd Y Cynhyrchiad Astudio'r Ddrama Amserlen teledu Amserlen radio E-gardiau Arolwg 2001 Gwybodaeth Ymateb |
Colur a Gwisgoedd Mae Y Twr yn dilyn dau gymeriad trwy dri chyfnod yn eu bywyd - ieuenctid, canol oed a henoed. Sut mae newid oedran person? Meinir Jones-Lewis a Maggie Reynish fu'n egluro. Mae聮r cymeriadau聮n heneiddio o 16 i 70, "ond yn meddwl y gwyliwr mae聮r oedran" meddai Meinir, "does dim rhaid iddyn nhw edrych yn 71 neu 16, dim ond 'u bod nhw聮n cyfleu聮r syniad o ieuenctid a rhywun yn heneddio. Roedd amserau saethu yn brin, felly roedd rhaid torri lawr ar roi lot o groen hen ac ati ar y cymeriadau. Da chi methu rhoi croen i wneud i rywun edrych yn ifanc beth bynnag. Dwi'n dibynnu ar y goleuo i helpu i聮w gwneud nhw edrych yn ifanc" meddai. Defnyddio gwallt oedd prif gyfrinach Meinir i gyfleu oedran y cymeriadau, "wig hir a frivolous i'r rhai ifanc a wig sy聮n britho ar gyfer hen oed. Roedd rhoi mwstash ar Huw yn help hefyd". Cymerai awr yr un i baratoi'r ddau actor pob dydd, "rhaid cael gwared o聮u gwalltiau nhw聮u hunain gynta, a ma hynny聮n broses sy聮n cymryd 15 munud yn ei hunan." Nid yw gwaith Meinir yn gorffen ar hynny, rhaid iddi fod wrth law drwy gydol y dydd. "Ma lot o bethe聮n gallu digwydd yn ystod ffilmio, dwi 聭di gorfod gwn茂o wig Betsan ymlaen am ei fod mor hir, maen nhw聮n rhedeg o gwmpas lot, felly ma rhaid sicrhau nad ydi o聮n dod i ffwrdd". Yr ateb oedd rhoi lastig bands bach trwy'r gwallt a gwn茂o聮r rheiny i聮r wig fel nad oedden nhw'n dod i ffwrdd. "Ond ma 'na wastad rhywbeth all ddigwydd聟" Doedd dim cyfnod arbennig i'r gwisgoedd, gan ei bod hi'n ddrama oesol, "ond efallai fod ychydig o deimlad o'r pumdegau ar y dechrau" meddai Maggie Reynish, fu'n gyfrifol am y gwisgoedd. Ni ellir trefnu gwisgoedd nes i'r cynhyrchydd, y cyfarwyddwr a'r cynllunydd wneud y penderfyniadau eraill. Delwedd neu 'look' yr actorion ddaw olaf yn 么l Maggie. Penderfynwyd ar liwiau'r gwisgoedd yn gyntaf gan fod lliwiau mor bwysig yn y ddrama ei hun. "Gwyn oedd lliw y set yn yr act gyntaf, felly dewisiais i wyn ar gyfer y bachgen a ffrog las a gwyn i'r ferch - lliwiau ifanc, gl芒n a ffres." Roedd Maggie hefyd yn awyddus i ddewis lliwiau na fyddai'n tarfu'n ormodol ar y gwyliwyr. Rhaid gweithio'n agos gyda'r actorion wrth baratoi unrhyw wisgoedd, gan fod y gwisgoedd yn chwarae rhan bwysig wrth eu helpu i gyfleu'r cymeriad. Yn yr ail act, rhoddwyd Huw mewn siwt oedd ychydig yn rhy fach iddo er mwyn rhoi edrychiad anghyffyrddus a milain iddo. Chafodd dim un gwisg ei gwneud yn arbennig ar gyfer y ddrama; cael eu rhentu oedd 80% ohonynt fel nad oedden nhw'n edrych yn newydd sbon. "Defnyddiais i hen ffrog fy mam o'r 1950au ar Betsan yn yr act gyntaf" meddai Maggie. Mae sicrhau dilyniant yn r么l bwysig iawn tra'n ffilmio i'r un sy'n gyfrifol am y gwisgoedd. Weithiau, mae'r un olygfa yn cael ei ffilmio ar ddiwrnodau gwahanol, felly rhaid sicrhau fod pob tei wedi ei glymu yr un ffordd, a strapiau ar ffrog yn yr un lle. I wneud pethau'n haws, mae'n arferol i wn茂o'r actor i mewn i'w wisg. 听 | ||||||||||||
漏 MMI |
|
About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |