成人论坛

Hanes Gwinionydd ac enwogion y fro

top
Stryd Llandysul

Marina Davies sy'n ein tywys o amgylch bro Gwinionydd gan s么n am hanes yr ardal, y chwedlau a'r enwogion.

Tref Llandysul

'Ar y 14eg o Fedi 1892, agorwyd yma am y tro cyntaf erioed Swyddfa Argraffu, sef y Gomerian Press'. Dyna fel y cyfeiriwyd at achlysur pwysig iawn yn Llandysul yn y flwyddyn 1892. Mae Gwasg Gomer yno o hyd, ac i ddathlu ei chanmlwyddiant cafwyd ail-argraffiad o'r llyfr gwreiddiol, Hanes Plwyf Llandysul (1896) sy'n crynhoi gwybodaeth ac hanes lleol y cyfnod hwnnw.

Chwedl Pencoedfoel

Roedd cawr o ddiafol eisiau boddi pobl Pentrecwrt, gan eu bod yn galw enwau arno. Cariai raw fawr yn llawn o bridd er mwyn codi argae ar yr afon Teifi. Cwrddodd 芒 chrydd cyfrwys, a ddywedodd wrth y cawr fod Pentrecwrt yn rhy bell iddo i'w gerdded, a dangosodd yr holl esgidiau oedd wedi eu treulio wrth gerdded yno.

Credir mai'r pridd a oedd ar y rhaw, ac a ollyngwyd wrth i'r cawr roi'r gorau i'w gynllun, sydd ar Bencoedfoel heddiw!! Mewn amgueddfa ym Mryste heddiw, mae yna hanner coler efydd a welwyd gan ffermwr wrth aredig ei dir ym 1895 - ac hefyd allor yn Eglwys Llandysul yn dod o'r un ardal.

Afon Teifi

Fel y melinau gwl芒n, mae'r afon Teifi hefyd yn rhan annatod o ardal papur bro Y Garthen, gan lifo drwy ganol yr ardal o Lanybydder i Aberteifi.

Ar ei thaith mae'n cyffwrdd ag ardaloedd prydferth a diddorol sy'n denu twristiaid, pysgotwyr a chan诺-wyr o bob rhan o'r byd.

Rhai o'r mannau diddorol i ymweld 芒 nhw:

  • Eglwys Sant Llawddog, Penboyr
  • Rheadr, Cenarth
  • Eglwys Llandysul
  • Alltcafan
  • Eglwys y Carcharorion Henllan
  • Rhai o enwogion y fro

    Mae bro Gwinionydd wedi magu rhai o awduron a gweinidogion amlycaf Cymru dros y blynyddoedd. Dyma rai ohonynt:

    • Y Parchedig D Jacob Davies, 1916-1974 - Penl么n, Tregroes.
    • Dewi Emrys, 1881-1952, Ganwyd yng Nghei Newydd, Claddwyd ym mynwent Pisgah Talgarreg.
    • Parchedig Christmas Evans 1776-1838, ganwyd yn Esgair Dyffryn Llynod, Tregroes.
    • Thomas Jacob Thomas, (Sarnicol) 1873-1945, bardd o Rhoswnnog, rhwng Maesymeillion a Post Bach
    • Si么n Cwilt (Si么n Sais ar y dechrau)
    • Parchedig Howell Elvet Lewis - enw barddol Elfed. Pregethwr, bardd, eisteddfodwr ac emynydd. Ganwyd yn y Gangell, Blaenycoed, Cynwyl Elfed. Claddwyd ym mynwent Blaenycoed 1953.
    • Parchedig William Nantlais Williams 1874-1959, 'Nantlais'. Ganed Llawrcwrt, Gwyddgrug. Pregethwr, bardd ac emynydd.

    Mae'r fro hefyd yn gartref i lu o feirdd o fri lle mae Talwrn y Beirdd yn boblogaidd iawn. Yn eu plith ceir prifeirdd megis: Donald Evans; T. Llew Jones; Idris Reynolds; Ceri Wyn Jones; Dic Jones ac Eluned Phillips.

    Rydym yn falch iawn hefyd o'r bardd Menna Elfyn - a oedd yn fardd Plant Cymru 2002-03, sy'n byw yn Llandysul.

    gan Marina Davies


Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glynd诺r yn Dywysog Cymru.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

Canolbarth

Arfon Gwilym yn olrhain hanes y Plygain a'i arwyddoc芒d yn Sir Drefaldwyn.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

成人论坛 iD

Llywio drwy鈥檙 成人论坛

成人论坛 漏 2014 Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.