Maestrefi'r Ddinas
topMae i Gaerdydd amryw o faestrefi diddorol sydd, fel y bae a chanol y ddinas, yn ardaloedd ag iddyn nhw dipyn o hanes a mannau o ddiddordeb.
Maestrefi'r ddinas
Wrth deithio tua gorllewin y ddinas heibio'r castell a thros y bont sy'n croesi'r afon Taf, fe ddeuwn i Dreganna a Phontcanna. Yn arwain i Bontcanna mae Heol y Gadeirlan sy'n cynnwys amryw o swyddfeydd a gwestai. Ar y dde mae Gerddi Sophia sy'n cynnwys y Ganolfan Chwaraeon Genedlaethol a maes criced Morgannwg. Gellir cerdded oddi yma tua Phont Taf a'i chroesi i Barc Bute.
Tu hwnt i Bontcanna wedyn mae Llandaf. Yma mae Eglwys Gadeiriol odidog. Y seintiau Celtaidd sef Dyfrig, Teilo ac Euddogwy fu'n gyfrifol am sefydlu Cristnogaeth yma.
Mae i'r eglwys nifer o nodweddion arbennig. Un ohonyn nhw yw cerflun alwminiwm y 'Crist mewn Gogoniant' a grewyd gan Jacob Epstein ym 1957. Hefyd mae yma driptych o waith Dante Sabriel Rosetti a ffenestri gwydr gan y Frawdoliaeth Gyn-Raphaelaidd.
Ar y muriau y tu allan i'r gadeirlan mae cerfluniau o bennau sy'n coff谩u'r brenhinoedd a'r breninesau fu ar orsedd Lloegr. Nid oes gan ddau ohonyn nhw goronau, sef Cromwell ac Edward VIII. Ym 1941 ffrwydrodd bom Almaenaidd ar y safle gan ddifrodi'r eglwys. Heddiw mae maen coffa i'w weld yng nghanol y twll a grewyd gan y bom.
Gerllaw'r eglwys mae adfail hen glochdy'r eglwys a adeiladwyd yn ystod y 13eg ganrif. Does dim llawer i'w weld yma heddiw ond ar un adeg roedd un o'r clychau mwyaf ym Mhrydain yn cael ei gadw yma ac roedd hwn yn pwyso pum tunnell a hanner.
Ni ellir gadael Llandaf heb s么n am Balas yr Esgob, adeilad sy'n debyg i gastell. Mae'n debyg i'r palas gael ei adeiladu gan William de Braose, esgob Llandaf rhwng 1266 a 1287. Bu'r palas yn gartref i'r esgobion ac yma roedd eu pencadlys gweinyddol. Ond yn ystod gwrthryfel Glynd诺r ym 1404 cafodd ei ddifrodi'n sylweddol. Heddiw mae rhan fewnol y palas yn cael ei defnyddio fel gardd gyhoeddus.
I'r gorllewin o Dreganna a Llandaf mae ardaloedd Trel谩i a'r Tyllgoed. Yn Nhrel谩i yn ystod haf 1991 bu terfysg hiliol ac fe garcharwyd 23 o bobol am eu rhan yn y digwyddiadau. Ers talwm roedd cae rasio ceffylau yma a dyma lle y cynhaliwyd Grand National cyntaf Cymru ym 1895.
Ymhellach i'r gorllewin ar gyrion Caerdydd mae Sain Ffagan, lle mae Amgueddfa Werin Cymru.
Yng nghyfnod y Normaniaid adeiladwyd castell pren yma ac yn ddiweddarach adeiladwyd castell o gerrig ar y safle. Yn ystod yr ugeinfed ganrif rhoddwyd y castell ac ychydig o'r tir yn rhodd i'r Amgueddfa Genedlaethol. Ar y safle hwn yn ddiweddarach sefydlwyd Amgueddfa Werin Cymru o dan gyfarwyddyd Iorwerth Peate.
Yn fuan dechreuwyd symud hen adeiladau o ardaloedd gwledig Cymru i'r amgueddfa. Roedd hon yn dipyn o dasg ac yn brosiect uchelgeisiol iawn gan fod rhaid dymchwel yr adeiladau gwreiddiol a'u hailgodi yn union yr un fath yn yr amgueddfa. Yn ddiweddarach dechreuwyd symud adeiladau yma o'r ardaloedd diwydiannol hefyd.
Atyniad arall sy'n denu nifer o ymwelwyr i gyffiniau Caerdydd yw'r Castell Coch yn Nhongwynlais. Roedd yr adeilad hwn yn ymgais gan y trydydd Ardalydd Bute a'i bensaer William Burges yn niwedd y 19eg ganrif i ail greu castell ar ffurf cestyll y 13eg ganrif.
Ond roedd castell cerrig yn bodoli yma cyn hynny. Adeiladwyd hwnnw gan Gilbert de Clare tua 1266 er mwyn gwarchod ffiniau gogleddol ei diriogaeth. Mae modd gweld heddiw lle mae gwaith cerrig y 13eg ganrif yn uno gyda'r adeiladwaith cynharach mewn mannau.
Yng ngogledd dinas Caerdydd, gerllaw Tongwynlais, mae Rhiwbeina. Datblygwyd yr ardal fel Garden Village yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd. Pwrpas hyn oedd sefydlu cymuned newydd y tu allan i'r ddinas lle roedd modd mwynhau nodweddion trefol a gwledig.
Yn nes at ganol y ddinas wedyn mae Melingruffudd a'r Eglwys Newydd. Derbyniodd Melingruffudd ei enw o ganlyniad i'r felin rawn a fodolai yma yn yr Oesoedd Canol ac mae'n bosib mai un o feibion Ifor Bach oedd y Gruffudd hwnnw a roddodd ei enw i'r ardal.
Ym 1749 sefydlwyd ffwrnais a gwaith tun ar safle'r felin rawn. Roedd y gwaith yn cyflogi dros 600 o weithwyr mor ddiweddar 芒'r 1930au. Roedd darnau ar gyfer awyrennau yn cael eu cynhyrchu yma yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac wedi'r rhyfel bu Cwmni Dur Cymru yn cynhyrchu tun yma hyd at 1957.
Gerllaw Melingruffudd mae ardal Radyr. Tyfodd yr ardal wedi i orsaf drenau gael ei hagor yma ym 1883. Yn yr ardal hon roedd nifer o berchnogion a rheolwyr y diwydiannau yn byw. Dyma w欧r a wnaeth eu cyfoeth o ganlyniad i'r diwydiannau glo a'r dociau.
Yn nwyrain Caerdydd wedyn mae ardaloedd Y Mynydd Bychan (Heath) a'r Waun Ddyfal (Little Heath). Yn y Mynydd Bychan mae Ysbyty Prifysgol Cymru. Ond yn wreiddiol tir comin oedd yma ac yn Y Waun Ddyfal, yn wir un o'r tiroedd comin mwyaf ym Morgannwg. Lleihau wnaeth maint y tir comin dros y blynyddoedd er i'r trigolion lleol oedd yn dibynnu ar y tir wneud eu gorau i'w gadw.
Yn niwedd y 19eg ganrif dechreuwyd adeiladu tai yn y ddwy ardal wrth i'r Ardalydd Bute ryddhau rhannau o'i yst芒d.
Ymhellach i'r dwyrain o'r Waun Ddyfal mae'r Rhath. Yma mae Parc y Rhath gyda'r llyn mawr yn ei ganol. Hwn yw'r prif barc ym maestrefi Caerdydd. Ym mhen draw'r llyn mae carreg ar ffurf goleudy. Carreg yw hon i gofio mordaith Robert Falcon Scott a'i griw o Gaerdydd i Begwn y De ym 1910 a arweiniodd at drychineb.
Cartref T. Rowland Hughes
Yn Windermere Avenue yn Y Rhath yr oedd cartref y llenor T.Rowland Hughes. Symudodd o'r gogledd i weithio yn y 成人论坛 yng Nghaerdydd. Yn ystod ei waeledd olaf deuai i eistedd yn ei gadair o flaen y llyn bob dydd. Bu farw ym mis Hydref 1949 a chafodd ei gladdu ym mynwent Cathays. Ar ei garreg fedd mae llinell o englyn R. Williams Parry i T. Rowland Hughes sy'n datgan mai ef oedd 'Y Dewraf o'n Hawduron'.
Yn ffinio ag ardal Y Rhath mae ardaloedd Y Sblot, Adamsdown a Thremorfa. Datblygodd yr ardaloedd hynny wedi i Gwmni Dowlais ddechrau cynhyrchu dur yng ngwaith yr East Moors ar gyrion y dociau. Tra roedd diwydiant yn dirywio yng nghymoedd Rhondda, Cynon a Rhymni felly roedd diwydiant yn ffynnu yn y rhan hon o Gaerdydd.
Cyn i'r gwaith newydd gael ei sefydlu doedd yna fawr ddim cynhyrchu diwydiannol yn digwydd yn y ddinas a swyddi yn y sector gwasanaeth, masnach a chludiant oedd ar gael yma gan fwyaf.
Symudodd nifer i fyw gerllaw'r gwaith ac adeiladwyd nifer o dai i'r gweithwyr. Tai teras fel sydd i'w gweld yng nghymoedd y de oedd y rhain ac maent i'w gweld yn ardaloedd y Sblot ac Adamsdown o hyd.
Buddsoddwyd arian sylweddol yn y diwydiant wedi'r Ail Ryfel Byd, ond lleihau wnaeth yr arian oedd yn cael ei fuddsoddi yma erbyn y 1960au. O ganlyniad roedd y gwaith yn rhy wan i allu cystadlu 芒 gweithfeydd dur Port Talbot a Llanwern yn ogystal 芒'r cwmn茂au rhyngwladol. Ym 1978 felly caewyd y gwaith a chollodd dros 3,000 o bobol eu swyddi.
Arweiniodd hyn at broblemau diweithdra yn yr ardaloedd, poblogaeth ddifreintiedig a lefel uchel o dor-cyfraith.
Carchar Caerdydd
Ar gyrion ardal Adamsdown mae carchar Caerdydd. Yn y carchar hwn yr oedd troseddwyr oedd wedi eu dedfrydu i farwolaeth yn cael eu dienyddio. Y dyn olaf i gael ei grogi yma oedd Mahmoud Mattan a gyhuddwyd o lofruddio Lilly Volpert yn Tiger Bay. Ym 1998 cytunodd yr awdurdodau ei fod wedi ei grogi ar gam.
Arferion yr Wyl
Y Fari Lwyd
Un o draddodiadau hynotaf yr hen Nadolig a'r Calan Cymreig ydy'r Fari Lwyd.