成人论坛

Hanes Bro Preseli

top
Cromlechi Pentre Ifan (hawlfraint: Visit Wales)

Hanes ardal bro'r Preseli, yng ngogledd ddwyrain sir Benfro. Dyma ardal Waldo Williams, lle gellid weld mynyddoedd godiog y Preseli yn ymestyn o Landudoch yn y gogledd i Glunderwen yn y de.

Mynyddoedd y Preseli

Sir carreg ogam a chromlech a charn a chroes...

Gwenallt

Dyma ardal sy'n ymestyn o Landudoch yn y gogledd i Glunderwen yn y de ac o Frynberian a Rosebush yn y gorllewin hyd at Gilgerran ac Abercuch yn y dwyrain.

Calon yr ardal wrth gwrs yw mynyddoedd y Preseli. Cadwyn o ryw 27 o fryniau a chernydd yw'r Preseli sy'n ymestyn am 15 milltir o lethrau'r Frenni Fach sydd yn ffinio 芒 Sir Gaerfyrddin hyd at gopa creigiog Carningli a saif uwchben Trefdraeth ac o Foel Eryr yn y gorllewin tuag at y Frenni Fawr yn y dwyrain.

Y mynydd uchaf yn y gadwyn yw Foel Cwm Cerwyn a saif 1,760 troedfedd uwch lefel y m么r. Ar ddiwrnod clir fe ellir gweld yr Iwerddon oddi yma.A'r mynyddoedd agosaf at hwnnw sef Foel Eryr ar y naill law a Foel Feddau ar y llaw arall yw'r rhai uchaf wedyn.

Mae'n debyg bod y mynyddoedd yn llawer uwch ganrifoedd yn 么l ond eu bod wedi eu herydu gan adael bryniau llyfn ac eithrio'r rhannau creigiog fel yn Cerrig Lladron, Cerrig Marchogion, Carn Bica, Carn Awl a Charn Meini.

Cromlechi a Cherrig Gleision

Stonehenge
Stonehenge

Yng Ngharn Meini mae darn o garreg lydan a elwir yn Garreg yr Allor. Dywedir bod trigolion Oes y Cerrig yn ofni stormydd mellt a tharanau gan eu bod yn credu mai'r duwiau oedd yn gwylltio a'u bod yn dial arnyn nhw. Fe fyddai'r trigolion wedyn yn chwilio am ferch harddaf y llwyth a'i lladd ar Garreg yr Allor a'i hoffrymu i'r duwiau.

Ar lethrau Garn Meini a Charn Alw wedyn mae cerrig gleision. Mae'r rhain yn pwyso tua 4 tunnell a dywedir i 80 ohonynt gael eu cludo i ffurfio rhan o gylch C么r y Cewri yn ne Lloegr. Mae rhai haneswyr yn honni eu bod wedi eu cludo gan rew yn ystod Oes yr I芒 ond mae rhai'n dadlau iddyn nhw gael eu cludo gan ddyn.

Ym Mhentre Ifan mae cromlech hynafol iawn. Dyma lle y cleddid pobl ganrifoedd yn 么l. Mae hon yn un o'r cromlechi gorau ym Mhrydain ac amcangyfrifir fod y garreg uchaf yn pwyso o leiaf 16 tunnell.

Yn yr oes Efydd arferai dynion fynd oddi yma i Iwerddon a dod ag aur o Wicklow yn 么l i'r ardal. Fe fydden nhw'n eu gollwng ar y ffordd ac adeiladu carneddi pe baen nhw'n colli eu cyfeillion. Codwyd tair carnedd fel hyn ar gopa Moel Drygarn. Yn ddiweddarach fe adeiladwyd caer yma yn yr Oes Haearn. Credir mai o Breseli y deuai cerrig gleision C么r y Cewri yn wreiddiol.

Y Mabinogi

Actor yn portreadu'r Brenin Arthur
Actor yn portreadu'r Brenin Arthur

Yng nghanol Mynyddoedd y Preseli mae Foel Cwmcerwyn. Mae'r mynydd hwn yn ymddangos yn chwedl Culhwch ac Olwen, efallai'r chwedl hynaf yng Nghymru. Er mwyn ennill Olwen roedd yn rhaid i Gulhwch gyflawni nifer o dasgau.

Un o'r rheiny oedd symud crib, siswrn a rhasal o ben y twrch trwyth, anifail grymus. Dilynodd Arthur, cefnder Culhwch, y twrch trwyth o Iwerddon ac anfon gwyr i lannau afon Nyfer i'w hela. Ond dihangodd y twrch i Gwmcerwyn a lladdodd bedwar o wyr Arthur. Y diwrnod wedyn lladdodd fwy o ddynion a dianc i dde orllewin Prydain.

Mae Carn Arthur, Cerrig Marchogion a Bedd Arthur sydd yn y cyffiniau wedi eu henwi ar 么l y digwyddiad hwn yn ogystal. Cylch o gerrig wrth droed Garn Bica yw Bedd Arthur. Y syniad sydd yma yw bod Arthur, y mab darogan, yn cysgu yn disgwyl i rywun alw arno a'i ddeffro fel y gall arwain y genedl a'i hachub o sefyllfa argyfyngus.

Mae ardal y Preseli hefyd yn ymddangos ym Mhedair Cainc y Mabinogi. Yn chwedl Pwyll cyfeirir at Gwm Cych fel tir hela brenhinoedd cynnar Dyfed. Dyma lle mae Pwyll yn cyfarfod Arawn, brenin Annwn, tra yn hela. Dywedir hefyd bod y fynedfa i deyrnas danddaearol Annwn yn yr ardal hon.

Olion dirgel

Mur fy mebyd- Foel Drigarn, Carn Gyfrwy, Tal Mynydd, wrth fy nghefn ymhob annibyniaeth barn.

Waldo Williams

Mae Blaen Cych wedyn yn ymddangos mewn chwedl yn ymwneud 芒 Chadifor. Ef oedd Arglwydd Blaen Cych. Yn 么l y chwedl fe adeiladodd ei balas ar draws yr Afon Cych sy'n llifo rhwng Penfro a Sir Gaerfyrddin. Dywedir mai'r ogof fechan a elwir heddiw yn Ffwrn Cadifor oedd hen gegin y palas.

Yng ngogledd bro'r Preseli, ar yr arfordir, mae Llandudoch. Yma mae abaty a sefydlwyd yn 1120 gan Robert Fiztmartin, arglwydd barwniaeth Cemais. Fe'i adeiladodd fel cangen o abaty Urdd y Benedictiaid yn Tiron. Arhosodd Gerallt Gymro yma ar ei daith o amgylch Cymru ym 1188.

Yn 1983 dechreuodd Cadw gloddio'r safle a daethant o hyd i olion gerddi monastig oedd yn perthyn i'r hen briordy ers talwm. Erbyn heddiw mae nifer o'r gerddi hyn wedi eu hail-blannu gyda phlanhigion a llysiau o oes y mynachlogydd. Dyma'r unig erddi monastig sydd wedi goroesi yng ngwledydd Prydain.

Ger yr abaty mae melin sy'n dal i gynhyrchu blawd yn y dull traddodiadol. Mae'r felin yn gweithio 芒 dwr.

Cestyll a Thai Crwn

Tai Crwn Castell Henllys
Tai Crwn Castell Henllys

Wrth ddilyn afon Teifi wedyn tua'r gorllewin deuwn i bentref Cilgerran. Yma mae adfeilion hen gastell. Mae'r castell mewn safle godidog, ar graig mewn cwm coediog gydag afon Teifi yn llifo oddi tano. Mae nifer o arlunwyr wedi paentio darluniau o'r castell gan gynnwys Turner.

Adeiladwyd y castell cyntaf yno gan y Normaniaid tua 1093 ond fe'u trechwyd yn yr Amwythig wedi iddyn nhw wrthryfela yn erbyn Harri'r I. Wedi hyn symudodd y castell yn 么l a blaen rhwng y Cymry a'r Normaniaid. Roedd y Normaniaid yn awyddus iawn i'w feddiannu gan ei fod mewn safle strategol dda, yn ffinio 芒 Cheredigion lle roedd y brenhinoedd Cymreig mewn grym.

Hanes diddorol yn ymwneud 芒'r castell yw pan ymosododd Owain ap Cadwgan ar yr adeilad a'i losgi. Roedd Owain wedi syrthio mewn cariad 芒 Nest, merch Rhys ap Tewdwr a gwraig Gerald o Windsor. Gerald oedd prif arweinydd y Normaniaid yn Nyfed. Wedi i Owain losgi'r castell rhedodd Nest a'i phlant ymaith gydag ef.

Roedd y weithred hon yn her i'r brenin ac i Gerald o Windsor ac felly arweiniodd at ymosodiad y Normaniaid ar Geredigion a bu'n rhaid i Owain ffoi i Iwerddon. Yn ddiweddarach ym 1223 cafodd y castell ei ailadeiladu ac ychwanegwyd dau dwr crwn o lechen leol.

Castell arall yn y cyffiniau yw Castell Henllys ar lan afon Duad ger Crymych. Ond nid castell confensiynol yw hwn ond caer o'r Oes Haearn sydd wedi ei ailadeiladu. Dyma gaer hynafol iawn yn perthyn i'r cyfnod 400 O.C ac felly mae'n safle archeolegol bwysig. Bob haf bydd archeolegwyr yn cloddio yma i geisio darganfod mwy am fywyd y trigolion a arferai fyw yma ganrifoedd lawer yn 么l.

Heddiw ar y safle mae tai crwn, yn union fel yr adeiladau yr oedd y Celtiaid yn byw ynddyn nhw dros 2,000 o flynyddoedd yn 么l. Mae hyd yn oed y defaid a'r gwartheg yma o fr卯d hynafol. Mae ymwelwyr felly yn cael cyfle i gael golwg ar y cyfnod cyn-hanes.


Cerdded

Neuadd y Brangwyn

Abertawe

Taith Doctor Who a Torchwood yng nghanol y ddinas a'r Chwarter Arforol.

Enwogion

Cerflun o Dewi Sant yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Dewi Sant

'Gwnewch y pethau bychain' oedd geiriau enwog Dewi Sant.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

成人论坛 iD

Llywio drwy鈥檙 成人论坛

成人论坛 漏 2014 Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.